Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

Newidiadau dros amser i: RHAN 2

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

RHAN 2LL+CCeisiadau

Ceisiadau am ganiatâd cynllunio amlinellolLL+C

3.—(1Pan wneir cais i'r awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd cynllunio amlinellol, caiff yr awdurdod roi caniatâd yn ddarostyngedig i amod sy'n pennu materion a gedwir yn ôl, ar gyfer eu cymeradwyo yn ddiweddarach gan yr awdurdod.

(2Os yw awdurdod cynllunio lleol sydd i benderfynu cais am ganiatâd cynllunio amlinellol, o'r farn, yn amgylchiadau'r achos, na ddylid ystyried y cais ar wahân i'r cyfan neu unrhyw rai o'r materion a gedwir yn ôl, rhaid iddo, o fewn cyfnod o un mis sy'n dechrau pan geir y cais, hysbysu'r ceisydd na all yr awdurdod benderfynu'r cais oni chyflwynir manylion pellach, gan nodi'r manylion pellach sy'n ofynnol ganddo.

(3Pan fo'r llunwedd yn fater a gedwir yn ôl, rhaid i'r cais am ganiatâd cynllunio amlinellol ddatgan yn fras leoliad yr adeiladau, y llwybrau a'r mannau agored a gynhwysir yn y datblygid arfaethedig.

(4Pan fo graddfa yn fater a gedwir yn ôl, rhaid i'r cais am ganiatâd cynllunio amlinellol ddatgan y terfynau uchaf ac isaf o ran uchder, lled a hyd pob adeilad a gynhwysir yn y datblygid arfaethedig.

(5Pan fo mynediad yn fater a gedwir yn ôl, rhaid i'r cais am ganiatâd cynllunio amlinellol ddatgan ym mha fan neu fannau y lleolir y pwyntiau mynediad i'r datblygiad arfaethedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 3 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Ceisiadau am gymeradwyo materion a gadwyd yn ôlLL+C

4.—(1Rhaid i gais am gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl—

(a)cael ei wneud i'r awdurdod cynllunio lleol mewn ysgrifen ar ffurflen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru (neu ffurflen sylweddol gyffelyb o ran ei heffaith);

(b)cynnwys y manylion a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen;

(c)cael ei gyflwyno ynghyd â'r cyfryw blaniau a lluniadau sy'n angenrheidiol er mwyn delio â'r materion a gadwyd yn ôl yn y caniatâd cynllunio amlinellol;

(ch)ac eithrio pan wneir y cais drwy gyfathrebiadau electronig neu pan fo'r awdurdod cynllunio lleol yn dynodi mai nifer llai sy'n ofynnol, cael ei gyflwyno ynghyd â 3 chopi o'r ffurflen; a

(d)ac eithrio pan gyflwynir hwy drwy gyfathrebiadau electronig neu pan fo'r awdurdod cynllunio lleol yn dynodi mai nifer llai sy'n ofynnol, cael ei gyflwyno ynghyd â 3 chopi o unrhyw blaniau, lluniadau a gwybodaeth a gyflwynir gyda'r cais.

(2Rhaid i unrhyw blaniau neu luniadau y mae'n ofynnol eu darparu o dan baragraff (1)(c) fod wedi eu lluniadu wrth raddfa ddynodedig, ac yn achos planiau, rhaid iddynt ddangos cyfeiriad y gogledd.

(3Pan wneir cais drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig mae darpariaethau erthygl 32 yn gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Ergl. 4 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Ceisiadau am ganiatâd cynllunioLL+C

5.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr erthygl hon, rhaid i gais am ganiatâd cynllunio—

(a)cael ei wneud i'r awdurdod cynllunio lleol mewn ysgrifen ar ffurflen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru (neu ffurflen sylweddol gyffelyb o ran ei heffaith);

(b)cynnwys y manylion a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen;

(c)ac eithrio [F1yn achos cais adran 73 neu pan wneir y cais yn unol ag] adran 73A(2)(c) (caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad a gyflawnwyd eisoes), o Ddeddf 1990(1), cael ei gyflwyno, naill ai'n electronig neu fel arall, ynghyd â'r canlynol—

(i)plan sy'n diffinio'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef;

(ii)unrhyw blaniau, lluniadau a gwybodaeth arall sy'n angenrheidiol er mwyn disgrifio'r datblygiad sy'n destun y cais;

(iii)ac eithrio pan wneir y cais drwy gyfathrebiadau electronig neu pan fo'r awdurdod cynllunio lleol yn dynodi mai nifer llai sy'n ofynnol, 3 chopi o'r ffurflen; a

(iv)ac eithrio pan gyflwynir hwy drwy gyfathrebiadau electronig neu pan fo'r awdurdod cynllunio lleol yn dynodi mai nifer llai sy'n ofynnol, 3 chopi o unrhyw blaniau, lluniadau a gwybodaeth a gyflwynir gyda'r cais.

(2Rhaid i unrhyw blaniau neu luniadau y mae'n ofynnol eu darparu o dan baragraff (1)(c)(i) neu (ii) fod wedi eu lluniadu wrth raddfa ddynodedig, ac yn achos planiau, rhaid iddynt ddangos cyfeiriad y gogledd.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (5) o erthygl 3, yn achos cais am ganiatâd cynllunio amlinellol, nid oes raid rhoi manylion ynghylch unrhyw faterion a gedwir yn ôl.

(4Rhaid i gais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sy'n cynnwys gweithrediadau mwyngloddio neu ddefnyddio tir ar gyfer dyddodion o weithfeydd mwynau—

(a)cael ei wneud ar ffurflen a ddarperir gan yr awdurdod cynllunio lleol;

(b)cynnwys y manylion a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen; ac

(c)cydymffurfio â gofynion paragraff (1)(c).

(5Pan wneir cais drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig mae darpariaethau erthygl 32 yn gymwys.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Ergl. 5 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Ceisiadau mewn perthynas â thir y GoronLL+C

6.  Rhaid cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio mewn perthynas â thir y Goron ynghyd ag—

(a)datganiad i'r perwyl y gwneir y cais mewn perthynas â thir y Goron; a

(b)os gwneir y cais gan berson a awdurdodwyd mewn ysgrifen gan yr awdurdod priodol, copi o'r awdurdodiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Ergl. 6 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Datganiadau dylunio a mynediadLL+C

[F27.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae paragraff (3) yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio—

(a)ar gyfer datblygiad mawr;

(b)pan fo unrhyw ran o’r datblygiad mewn ardal ddynodedig, ar gyfer datblygiad a gyfansoddir o—

(i)darparu un neu ragor o dai annedd; neu

(ii)darparu adeilad neu adeiladau lle mae’r arwynebedd llawr a grëir gan y datblygiad yn 100 metr sgwâr neu ragor.

(2) Nid yw paragraff (3) yn gymwys i—

(a)cais adran 73;

(b)cais am ganiatâd cynllunio—

(i)ar gyfer gweithrediadau mwyngloddio;

(ii)ar gyfer newid sylweddol yn y defnydd o dir neu adeiladau; neu

(iii)ar gyfer datblygiad gwastraff.

(3) Rhaid i gais am ganiatâd cynllunio y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo gael ei gyflwyno ynghyd â datganiad (“datganiad dylunio a mynediad”) sy’n cydymffurfio â pharagraff (4).

(4) Rhaid i ddatganiad dylunio a mynediad—

(a)esbonio’r egwyddorion a chysyniadau dylunio a gymhwyswyd i’r datblygiad;

(b)dangos pa gamau a gymerwyd i arfarnu cyd-destun y datblygiad a’r modd y mae dyluniad y datblygiad yn cymryd i ystyriaeth y cyd-destun hwnnw;

(c)esbonio’r polisi neu’r dull a fabwysiadwyd o ran mynediad, a’r modd y mae’r polisïau ynglŷn â mynediad yn y cynllun datblygu wedi eu cymryd i ystyriaeth; ac

(ch)esbonio sut y rhoddwyd sylw i faterion penodol allai effeithio ar y datblygiad.

(5) Ym mharagraff (1) ystyr “ardal ddynodedig” (“designated area”) yw—

(a)ardal gadwraeth; neu

(b)eiddo sy’n ymddangos yn Rhestr Treftadaeth y Byd a gedwir o dan erthygl 11(2) o Gonfensiwn UNESCO ar Amddiffyn Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd 1972 (Safle Treftadaeth y Byd).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5Ergl. 7 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Darpariaethau cyffredinol ynglŷn â cheisiadauLL+C

8.—(1Pan fo'r awdurdod cynllunio lleol yn cael—

[F3(a)cais sy’n cydymffurfio â gofynion erthygl 5;]

(b)pan wneir cais mewn perthynas â thir y Goron, y dogfennau sy'n ofynnol gan erthygl 6;

[F4(ba)mewn achos y mae erthygl 2F yn gymwys iddo, yr adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio sy’n ofynnol gan yr erthygl honno;]

(c)mewn achos y mae erthygl 7 yn gymwys iddo, y datganiad dylunio a mynediad F5...;

(ch)mewn achos y mae erthygl 9 yn gymwys iddo, y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol gan yr erthygl honno;

(d)y dystysgrif sy'n ofynnol gan erthygl 11;

(dd)yn ddarostyngedig i baragraff (2), y manylion y gofynnir amdanynt, neu'r dystiolaeth y gofynnir amdani, gan yr awdurdod o dan adran 62(3) o Ddeddf 1990 (ceisiadau am ganiatâd cynllunio)(2); ac

(e)unrhyw ffi y mae'n ofynnol ei thalu mewn perthynas â'r cais,

rhaid i'r awdurdod, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, anfon at y ceisydd i gydnabod y cais yn y termau a bennir yn Atodlen 1 (neu dermau o'r un sylwedd).

(2Nid yw paragraff (1)(dd) yn gymwys ac eithrio—

(a)pan fo'r cais ar gyfer datblygiad mawr; a

(b)yr awdurdod cynllunio lleol, cyn bo'r cais yn cael ei wneud, yn cyhoeddi rhestr o ofynion ar ei wefan at ddibenion erthygl 22(3); ac

(c)y manylion y gofynnir gan yr awdurdod am eu cynnwys yn y cais, neu'r dystiolaeth y gofynnir am ei chynnwys, yn dod o fewn y rhestr honno.

[F6(3) Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol o’r farn nad yw unrhyw ffi, y mae’n ofynnol ei thalu mewn perthynas â’r cais, wedi ei thalu (ac eithrio pan fo siec wedi ei dychwelyd a pharagraffau (2)(c) a (3)(e) o erthygl 22 yn gymwys) rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd i ddatgan bod y cais yn annilys. Rhaid i’r hysbysiad hysbysu’r ceisydd o swm y ffi y mae’n ofynnol ei thalu a sut y gellir ei thalu]

[F7(3) Os yw’r awdurdod cynllunio lleol o’r farn bod adran 62ZA(2) o Ddeddf 1990 yn gymwys i’r cais, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd i ddatgan bod y cais yn annilys. Rhaid i’r hysbysiad a roddir yn unol ag adran 62ZA(2) o Ddeddf 1990 hysbysu’r ceisydd ynghylch—

(a)yr hawl i apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 62ZB o Ddeddf 1990, a

(b)y terfyn amser yn erthygl 24C(2) ar y cyfnod a ganiateir i’r ceisydd ar gyfer rhoi hysbysiad o apêl.]

(4Yn yr erthygl hon, mae cais yn annilys os nad yw'n gais dilys o fewn ystyr erthygl 22(3).

Datganiad sydd i'w gyflwyno ynghyd â chais i awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad cyfathrebiadau electronig penodolLL+C

9.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw gais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sy'n cynnwys adeiladu neu osod un neu ragor o antenau at y diben o weithredu rhwydwaith cyfathrebiadau electronig.

(2At ddibenion yr erthygl hon mae i “rhwydwaith cyfathrebiadau electronig” yr ystyr a roddir i'r term “electronic communications network” gan adran 32(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (ystyr rhwydweithiau cyfathrebiadau a gwasanaethau electronig)(3).

(3Rhaid i gais y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo gael ei gyflwyno ynghyd â datganiad ysgrifenedig i'r perwyl bod y cyfarpar a'r gosodiad y mae'r cais yn ymwneud ag ef wedi ei ddylunio fel y bydd, ar ôl ei adeiladu neu'i osod, o ystyried ei leoliad a'r modd y'i hadeiladwyd neu'i gosodwyd, yn gweithredu mewn modd sy'n cydymffurfio'n llawn â gofynion canllawiau'r Comisiwn Rhyngwladol ar Ddiogelu rhag Pelydredd nad yw'n Ïoneiddio ar gyffyrddiad y cyhoedd ag amleddau radio, fel y'u mynegir yn argymhelliad Cyngor yr UE ar 12 Gorffennaf 1999, ar gyfyngu ar gyffyrddiad y cyhoedd â meysydd electromagnetig (0 Hz i 300 GHz)(4).

Gwybodaeth Cychwyn

I7Ergl. 9 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Hysbysiadau o geisiadau am ganiatâd cynllunioLL+C

10.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i geisydd am ganiatâd cynllunio roi hysbysiad gofynnol ynglŷn â'r cais i unrhyw berson (ac eithrio'r ceisydd) sydd, ar y dyddiad rhagnodedig, yn berchennog unrhyw ran o'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef, neu'n denant—

(a)drwy gyflwyno'r hysbysiad i bob cyfryw berson y mae ei enw a'i gyfeiriad yn hysbys i'r ceisydd; a

(b)pan fo'r ceisydd wedi cymryd camau rhesymol i ddarganfod enwau a chyfeiriadau pob cyfryw berson, ond heb lwyddo i wneud hynny, drwy gyhoeddi'r hysbysiad ar ôl y dyddiad rhagnodedig mewn papur newydd sy'n cylchredeg yn y gymdogaeth lle mae'r tir yr ymwneir ag ef yn y cais.

(2Yn achos cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sy'n cynnwys ennill a gweithio mwynau drwy weithrediadau tanddaearol, yn hytrach na rhoi hysbysiad yn y modd y darperir ar ei gyfer gan baragraff (1), rhaid i'r ceisydd roi hysbysiad gofynnol ynglŷn â'r cais i unrhyw berson (ac eithrio'r ceisydd) sydd, ar y dyddiad rhagnodedig, yn berchennog unrhyw ran o'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef, neu'n denant,—

(a)drwy gyflwyno'r hysbysiad i bob cyfryw berson y gŵyr y ceisydd ei fod yn berson o'r fath ac y mae ei enw a'i gyfeiriad yn hysbys i'r ceisydd;

(b)drwy gyhoeddi'r hysbysiad ar ôl y dyddiad rhagnodedig mewn papur newydd sy'n cylchredeg yn y gymdogaeth lle mae'r tir yr ymwneir ag ef yn y cais; ac

(c)drwy arddangos ar y safle mewn o leiaf un man ym mhob cymuned y lleolir ynddi unrhyw ran o'r tir yr ymwneir ag ef yn y cais, a chan adael yr hysbysiad yn ei le am gyfnod o ddim llai na 7 diwrnod yn ystod y cyfnod o 21 diwrnod yn union cyn gwneud y cais i'r awdurdod cynllunio lleol.

(3Rhaid i'r hysbysiad sy'n ofynnol gan baragraff (2)(c) (yn ychwanegol at unrhyw faterion eraill y mae'n ofynnol eu cynnwys ynddo) enwi man, sydd o fewn ardal yr awdurdod cynllunio lleol y cyflwynir y cais iddo, lle gall y cyhoedd archwilio copi o'r cais am ganiatâd cynllunio ac o'r holl blaniau a dogfennau eraill a gyflwynwyd ynghyd â'r cais, ar unrhyw oriau rhesymol yn ystod pa bynnag gyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(4Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn cynnal gwefan at y diben o hysbysebu ceisiadau am ganiatâd cynllunio, rhaid i'r hysbysiad sy'n ofynnol gan baragraff (2)(c) (yn ychwanegol at unrhyw faterion eraill y mae'n ofynnol eu cynnwys ynddo) ddatgan cyfeiriad y wefan lle cyhoeddir copi o'r cais, ac o'r holl blaniau a dogfennau eraill a gyflwynwyd ynghyd â'r cais.

(5Os caiff hysbysiad ei dynnu ymaith, ei guddio neu'i ddifwyno cyn bo'r cyfnod o 7 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(c) wedi dod i ben, a hynny pan nad oes unrhyw fai ar y ceisydd na bwriad ganddo i wneud hynny, rhaid trin y ceisydd fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff hwnnw, os cymerodd y ceisydd gamau rhesymol i ddiogelu'r hysbysiad ac i'w ailosod pe bai angen.

(6Y dyddiad a ragnodir at ddibenion adran 65(2) o Ddeddf 1990 (hysbysiad etc o geisiadau am ganiatâd cynllunio)(5), a'r “dyddiad rhagnodedig” (“prescribed date”) at ddibenion yr erthygl hon, yw'r diwrnod 21 diwrnod cyn dyddiad y cais.

(7Y ceisiadau a ragnodir at ddibenion paragraff (c) o'r diffiniad o “owner” yn adran 65(8) o Ddeddf 1990 yw ceisiadau mwynau, a'r mwynau a ragnodir at ddibenion y paragraff hwnnw yw unrhyw fwynau ac eithrio olew, nwy, glo, aur neu arian.

(8Yn yr erthygl hon—

ystyr “ceisiadau mwynau” (“minerals applications”) yw ceisiadau am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sy'n cynnwys ennill a gweithio mwynau;

ystyr “hysbysiad gofynnol” (“requisite notice”) yw hysbysiad yn y ffurf briodol a bennir yn Atodlen 2 neu ffurf sylweddol gyffelyb o ran ei heffaith, ond ni fydd yn cynnwys hysbysiad a gyflwynir gan ddefnyddio cyfathrebiad electronig; ac

ystyr “tenant” (“tenant”) yw tenant amaethyddol fel y diffinnir “agricultural tenant” yn adran 65(8) o Ddeddf 1990, o dir y mae unrhyw ran ohono'n gynwysedig yn y tir y mae cais yn ymwneud ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Ergl. 10 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Tystysgrifau mewn perthynas â hysbysiadau o geisiadau am ganiatâd cynllunioLL+C

11.—(1Pan wneir cais am ganiatâd cynllunio rhaid i'r ceisydd ardystio, mewn ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru neu ffurf sylweddol gyffelyb o ran ei heffaith, bod gofynion erthygl 10 wedi eu bodloni.

(2Os bydd gan geisydd achos i ddibynnu ar baragraff (5) o erthygl 10, rhaid i'r dystysgrif ddatgan yr amgylchiadau perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Ergl. 11 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunioLL+C

12.—(1Rhaid i awdurdod cynllunio lleol y gwneir cais iddo am ganiatâd cynllunio roi cyhoeddusrwydd i'r cais yn y modd a ragnodir gan yr erthygl hon.

(2Yn achos cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad—

(a)sy'n gais AEA a gyflwynir ynghyd â datganiad amgylcheddol;

(b)nad yw'n cydweddu â darpariaethau'r cynllun datblygu sydd mewn grym yn yr ardal lle mae'r tir yr ymwneir ag ef yn y cais; neu

(c)a fyddai'n effeithio ar hawl tramwy y mae Rhan 3 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (hawliau tramwy cyhoeddus)(6) yn gymwys iddi,

rhaid rhoi cyhoeddusrwydd i'r cais yn y modd a bennir ym mharagraff (3).

(3Rhaid rhoi cyhoeddusrwydd i gais sy'n dod o fewn paragraff (2) (“cais paragraff (2)”) drwy roi hysbysiad gofynnol—

(a)drwy arddangos ar y safle mewn o leiaf un man ar neu gerllaw'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef, am gyfnod o ddim llai nag 21 diwrnod; a

(b)drwy gyhoeddi'r hysbysiad mewn papur newydd sy'n cylchredeg yn y gymdogaeth lle mae'r tir yr ymwneir ag ef yn y cais.

(4Yn achos cais am ganiatâd cynllunio nad yw'n gais paragraff (2) [F8nac yn gais sy’n dod o fewn paragraff (4A)], os yw'r datblygiad arfaethedig yn ddatblygiad mawr, rhaid rhoi cyhoeddusrwydd i'r cais drwy roi hysbysiad gofynnol—

(a)(i)drwy arddangos ar y safle mewn o leiaf un man ar neu gerllaw'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef, am gyfnod o ddim llai nag 21 diwrnod; neu

(ii)drwy gyflwyno'r hysbysiad i unrhyw berchennog neu feddiannydd cyffiniol; a

(b)drwy gyhoeddi'r hysbysiad mewn papur newydd sy'n cylchredeg yn y gymdogaeth lle mae'r tir yr ymwneir ag ef yn y cais.

[F9(4A) Yn achos cais adran 73 nad yw’n dod o fewn is-baragraff (2)(a) neu (c), rhaid hysbysebu’r cais drwy roi hysbysiad gofynnol—

(a)drwy arddangos ar y safle mewn o leiaf un man ar neu gerllaw’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, am o leiaf 21 diwrnod; a

(b)ym mha bynnag fodd arall a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod cynllunio lleol.]

(5Mewn achos nad yw paragraff (2) [F10, paragraff (4) na pharagraff (4A)] yn gymwys iddo, rhaid rhoi cyhoeddusrwydd i'r cais drwy roi hysbysiad gofynnol—

(a)drwy arddangos ar y safle mewn o leiaf un man ar neu gerllaw'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef, am gyfnod o ddim llai nag 21 diwrnod; neu

(b)drwy gyflwyno'r hysbysiad i unrhyw berchennog neu feddiannydd cyffiniol.

(6Os caiff hysbysiad ei dynnu ymaith, ei guddio neu'i ddifwyno cyn bo'r cyfnod o 21 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(a), (4)(a)(i) [F11, (4A)] neu (5)(a) wedi dod i ben, a hynny pan nad oedd bai ar yr awdurdod cynllunio lleol na bwriad ganddo i wneud hynny, rhaid trin yr awdurdod fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff perthnasol, os cymerodd gamau rhesymol i ddiogelu'r hysbysiad ac i'w ailosod pe bai angen.

(7Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn cynnal gwefan at y diben o roi cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio, rhaid cyhoeddi'r wybodaeth ganlynol ar y wefan—

(a)cyfeiriad neu leoliad y datblygiad arfaethedig;

(b)disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig;

(c)erbyn pa ddyddiad y bydd rhaid gwneud unrhyw sylwadau, sef dyddiad na chaiff fod yn gynharach na diwrnod olaf y cyfnod o 14 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r dyddiad y cyhoeddir yr wybodaeth;

(ch)ymhle a pha bryd y ceir archwilio'r cais; F12...

(d)sut y gellir gwneud sylwadau ynglŷn â'r cais.

[F13; ac

(dd)yn achos cais deiliad tŷ neu gais masnachol bach, os digwydd apêl sy’n dilyn y weithdrefn hwylusach, y bydd unrhyw sylwadau a wneir ynglŷn â’r cais yn cael eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru ac na fydd cyfle i wneud sylwadau pellach.]

(8Os bydd yr awdurdod cynllunio lleol wedi methu â bodloni gofynion yr erthygl hon mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio ar yr adeg yr atgyfeirir y cais at Weinidogion Cymru o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol)(7) neu y gwneir unrhyw apêl i Weinidogion Cymru o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o'r fath)(8), bydd yr erthygl hon yn parhau'n gymwys fel pe na bai'r cyfryw atgyfeiriad neu apêl i Weinidogion Cymru wedi ei wneud.

(9Os yw paragraff (8) yn gymwys, pan fydd yr awdurdod cynllunio lleol wedi bodloni gofynion yr erthygl hon, rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru ei fod wedi gwneud hynny.

(10Yn yr erthygl hon—

ystyr “hysbysiad gofynnol” (“requisite notice”) yw hysbysiad yn y ffurf briodol a bennir yn Atodlen 3 neu ffurf sylweddol gyffelyb o ran effaith; ac

ystyr “perchennog neu feddiannydd cyffiniol” (“adjoining owner or occupier”) yw unrhyw berchennog neu feddiannydd unrhyw dir cyffiniol i'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef.

(11Mae paragraffau (1) i (6) yn gymwys i geisiadau a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 293A o Ddeddf 1990 (datblygiad brys y Goron: gwneud cais)(9) fel pe bai'r cyfeiriadau at awdurdod cynllunio lleol yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru.

Hysbysiad o atgyfeirio ceisiadau at Weinidogion CymruLL+C

13.  Wrth atgyfeirio unrhyw gais at Weinidogion Cymru o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol) yn unol â chyfarwyddyd i'r perwyl hwnnw, rhaid i awdurdod cynllunio lleol gyflwyno i'r ceisydd hysbysiad sydd—

(a)yn nodi telerau'r cyfarwyddyd ac unrhyw resymau a roddir gan Weinidogion Cymru dros ei ddyroddi;

(b)yn datgan bod y cais wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru; ac

(c)yn cynnwys datganiad y bydd Gweinidogion Cymru, os yw'r ceisydd yn dymuno hynny, yn rhoi cyfle i'r ceisydd ymddangos gerbron person a benodir gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw a chael ei glywed ganddo, ac y bydd penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais yn derfynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Ergl. 13 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

(1)

Diwygiwyd adran 73 gan adrannau 42(2), 51(3) a 120 o Ddeddf 2004, ac Atodlen 9 i'r Ddeddf honno. Mewnosodwyd adran 73A gan adran 32 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34) a pharagraff 16 o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno.

(2)

Amnewidiwyd adran 62 gan adran 42(1) o Ddeddf 2004.

(4)

OJ L Rhif 199/59, 30.7.1999.

(5)

Amnewidiwyd adran 65 gan adran 16(1) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34) a diwygiwyd hi gan adran 40 o Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 (p.8) a pharagraff 35 o'r Atodlen i'r Ddeddf honno.

(6)

1981 p.69; gweler adran 66. Ceir diwygiadau i Ran 3 nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

(7)

Diwygiwyd adran 77 gan adran 32 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34) a pharagraff 18 o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno, ac adran 40(2)(d) o Ddeddf 2004.

(8)

Diwygiwyd adran 78 gan adran 17(2) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34) ac adrannau 40(2)(e) a 43(2) o Ddeddf 2004.

(9)

Mewnosodwyd adran 293A gan adran 82(1) o Ddeddf 2004.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill