Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 16/03/2016.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
14.—(1) Cyn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sydd, ym marn awdurdod cynllunio lleol, yn dod o fewn categori a bennir yn y Tabl yn Atodlen 4, rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol ymgynghori â'r awdurdod, corff neu berson a grybwyllir mewn perthynas â'r categori hwnnw, oni bai—
(a)mai'r awdurdod cynllunio lleol yw'r awdurdod, corff neu berson a grybwyllir felly; neu
(b)bod yr awdurdod, corff neu berson a grybwyllir felly wedi rhoi gwybod i'r awdurdod cynllunio lleol nad yw'n dymuno iddo ymgynghori ag ef[F1, neu
(c)mae erthygl 15ZA yn gymwys].
(2) Nid yw'r eithriad ym mharagraff (1)(b) yn gymwys os yw'r datblygiad, ym marn yr awdurdod cynllunio lleol, yn dod o fewn paragraff [F2(rh)] o'r Tabl yn Atodlen 4.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i awdurdod cynllunio lleol sy'n ei gwneud yn ofynnol bod yr awdurdod yn ymgynghori ag unrhyw berson neu gorff a enwir yn y cyfarwyddiadau, mewn unrhyw achos neu ddosbarth o achosion a bennir yn y cyfarwyddiadau.
(4) Os yw'n ofynnol gan neu, o dan, yr erthygl hon bod awdurdod cynllunio lleol yn ymgynghori ag unrhyw berson neu gorff (“yr ymgynghorai”) cyn rhoi caniatâd cynllunio—
(a)rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol, os nad yw'r ceisydd wedi cyflwyno copi o gais am ganiatâd cynllunio i'r ymgynghorai, roi hysbysiad o'r cais i'r ymgynghorai; a
(b)rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol beidio â phenderfynu'r cais tan [F321 diwrnod] o leiaf ar ôl y dyddiad y rhoddwyd hysbysiad o dan is-baragraff (a) neu, os yw'n gynharach, [F321 diwrnod] ar ôl dyddiad cyflwyno copi o'r cais i'r ymgynghorai gan y ceisydd.
(5) Wrth benderfynu'r cais, rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a ddaw i law gan ymgynghorai.
Diwygiadau Testunol
F1Ergl. 14(1)(c) ac gair wedi ei fewnosod (16.3.2016) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/59), erglau. 1(2), 10(3) (ynghyd ag ergl. 15(3))
F2Gair yn ergl. 14(2) wedi ei amnewid (16.3.2016) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/59), erglau. 1(2), 5(1)
F3Geiriau yn ergl. 14(4)(b) wedi eu hamnewid (22.6.2015) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2015 (O.S. 2015/1330), erglau. 1(1), 6 (ynghyd ag ergl. 12)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 14 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)
15.—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â cheisiadau a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 293A o Ddeddf 1990 (datblygiad brys y Goron: gwneud cais).
(2) Cyn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, yn dod o fewn categori a bennir yn y Tabl yn Atodlen 4, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r awdurdod, corff neu berson a grybwyllir mewn perthynas â'r categori hwnnw, ac eithrio—
(a)pan yw'n ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn ymgynghori â'r awdurdod a grybwyllir felly o dan adran 293A(9)(a) o Ddeddf 1990;
(b)pan fo'r awdurdod, corff neu berson a grybwyllir felly wedi rhoi gwybod i Weinidogion Cymru nad yw'n dymuno iddynt ymgynghori ag ef; neu
(c)pan fo'r datblygiad yn ddarostyngedig i unrhyw gyngor sefydlog, a ddarperir gan yr awdurdod, corff neu berson a grybwyllir felly, i Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r categori o ddatblygiad.
(3) Nid yw'r eithriad ym mharagraff (2)(b) yn gymwys os yw'r datblygiad, ym marn Gweinidogion Cymru, yn dod o fewn paragraff [F4(rh)] o'r Tabl yn Atodlen 4.
(4) Nid yw'r eithriad ym mharagraff (2)(c) yn gymwys—
(a)os yw'r datblygiad yn ddatblygiad AEA; neu
(b)os dyroddwyd y cyngor sefydlog fwy na 2 flynedd cyn dyddiad y cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad, ac nad yw'r canllawiau wedi eu diwygio na'u cadarnhau fel rhai sydd mewn grym, gan yr awdurdod, corff neu berson o fewn y cyfnod hwnnw.
(5) Os yw'n ofynnol, gan, neu o dan, yr erthygl hon, bod Gweinidogion Cymru yn ymgynghori ag unrhyw berson neu gorff (“yr ymgynghorai”) cyn rhoi caniatâd cynllunio—
(a)rhaid i Weinidogion Cymru, os nad yw'r ceisydd wedi cyflwyno copi o gais am ganiatâd cynllunio i'r ymgynghorai, roi hysbysiad o'r cais i'r ymgynghorai; a
(b)rhaid i Weinidogion Cymru beidio â phenderfynu'r cais tan 14 diwrnod o leiaf ar ôl y dyddiad y rhoddwyd hysbysiad o dan is-baragraff (a) neu, os yw'n gynharach, 14 diwrnod ar ôl dyddiad cyflwyno copi o'r cais i'r ymgynghorai gan y ceisydd.
(6) Wrth benderfynu'r cais, rhaid i Weinidogion Cymru gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a ddaw i law gan ymgynghorai.
Diwygiadau Testunol
F4Gair yn ergl. 15(3) wedi ei amnewid (16.3.2016) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/59), erglau. 1(2), 5(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Ergl. 15 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)
15ZA.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â chais adran 73 ac eithrio cais adran 73 sydd yn gais AEA.
(2) Cyn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer gais y mae’r erthygl hon yn gymwys iddo, caiff yr awdurdod cynllunio lleol ymgynghori ag awdurdodau neu bersonau sy’n dod o fewn categori a bennir yn y Tabl yn Atodlen 4.
(3) Pan fo awdurdod cynllunio lleol, yn rhinwedd neu o dan yr erthygl hon, yn ymgynghori ag unrhyw awdurdod neu berson (“yr ymgynghorai”) cyn rhoi caniatâd cynllunio—
(a)rhaid iddo, oni fydd ceisydd wedi cyflwyno copi o gais am ganiatâd cynllunio i’r ymgynghorai, roi hysbysiad o’r cais i’r ymgynghorai; a
(b)rhaid iddo beidio â phenderfynu’r cais tan o leiaf 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddwyd hysbysiad o dan is-baragraff (a) neu, os yw’n gynharach, 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y cyflwynwyd copi o’r cais i’r ymgynghorai gan y ceisydd.
(4) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol, wrth benderfynu’r cais, gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a gaiff gan ymgynghorai.]
Diwygiadau Testunol
F5Ergl. 15ZA wedi ei fewnosod (16.3.2016) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/59), erglau. 1(2), 10(4) (ynghyd ag ergl. 15(3))
15A.—(1) Y gofyniad i ymgynghori a ragnodir at ddibenion adran 54(2)(b) o Ddeddf 2004 (dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad) yw’r hwn sydd wedi ei gynnwys yn erthygl 14 [F7ac erthygl 15ZA].
(2) At ddibenion adran 54(4)(a) o Ddeddf 2004, 21 diwrnod yw’r cyfnod a ragnodir gan ddechrau gyda’r diwrnod—
(a)y rhoddir yr hysbysiad y cyfeirir ato yn [F8erthygl 14(4)(a) neu 15ZA(3)(a)]; neu
(b)os yn gynharach, dyddiad cyflwyno copi o’r cais i’r ymgynghorai,
neu gyfnod arall o’r fath fel y cytunir yn ysgrifenedig rhwng yr ymgynghorai a’r ymgynghorwr.
[F9(3) At ddibenion yr erthygl hon ac yn unol ag adran 54(5)(c) o Ddeddf 2004, ymateb o sylwedd yw ymateb sydd—
(a)pan na chynhaliwyd ymgynghoriad at ddibenion adran 61Z o Ddeddf 1990 (Cymru: gofyniad i gynnal ymgynghoriad cyn-ymgeisio), neu pan fo’r ymgynghorai wedi methu â rhoi ymateb yn unol ag erthygl 2E—
(i)yn datgan nad oes gan yr ymgynghorai unrhyw sylw i’w wneud;
(ii)yn datgan nad oes gan yr ymgynghorai wrthwynebiad i’r datblygiad arfaethedig ac yn cyfeirio’r person sy’n ymgynghori at y cyngor sefydlog cyfredol gan yr ymgynghorai ar destun yr ymgynghoriad;
(iii)yn rhoi gwybod i’r person sy’n ymgynghori am unrhyw bryderon a ganfuwyd mewn perthynas â’r datblygiad arfaethedig a sut y gall y ceisydd fynd i’r afael â’r pryderon hynny; neu
(iv)yn rhoi gwybod bod yr ymgynghorai yn gwrthwynebu’r datblygiad arfaethedig ac yn nodi’r rhesymau am y gwrthwynebiad; a
(b)pan fo ymgynghoriad wedi ei gynnal at ddibenion adran 61Z o Ddeddf 1990, a’r ymgynghorai wedi rhoi ymateb yn unol ag erthygl 2E—
(i)yn datgan nad oes gan yr ymgynghorai sylw pellach i’w wneud mewn cysylltiad â’r datblygiad arfaethedig ac yn cadarnhau bod unrhyw sylwadau a wnaed o dan erthygl 2E yn parhau’n berthnasol;
(ii)yn rhoi gwybod i’r person sy’n ymgynghori am unrhyw bryderon newydd a ganfuwyd mewn perthynas â’r datblygiad arfaethedig, pam nad oedd y pryderon hynny wedi eu nodi yn yr ymateb yn unol ag erthygl 2E ac—
(aa)sut y gall y ceisydd fynd i’r afael â’r pryderon; neu
(bb)bod yr ymgynghorai yn gwrthwynebu’r datblygiad arfaethedig, ac yn nodi’r rhesymau am y gwrthwynebiad.]
[F10(4) Yn yr erthygl hon ac erthygl 15B, mae cyfeiriadau at ymgynghorai yn cynnwys cyfeiriad at ymgynghorai arbenigol pan fo ymgynghoriad at ddibenion adran 61Z o Ddeddf 1990 wedi ei gynnal.]
Diwygiadau Testunol
F6Erglau. 15A, 15B wedi eu mewnosod (22.6.2015) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2015 (O.S. 2015/1330), erglau. 1(1), 7 (ynghyd ag ergl. 12)
F7Geiriau yn ergl. 15A(1) wedi eu mewnosod (16.3.2016) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/59), erglau. 1(2), 10(5)(a) (ynghyd ag ergl. 15(3))
F8Geiriau yn ergl. 15A(2)(a) wedi eu hamnewid (16.3.2016) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/59), erglau. 1(2), 10(5)(b) (ynghyd ag ergl. 15(3))
F9Ergl. 15A(3) wedi ei amnewid (16.3.2016) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/59), erglau. 1(2), 6(a)
F10Ergl. 15A(4) wedi ei fewnosod (16.3.2016) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/59), erglau. 1(2), 6(b)
15B.—(1) Rhaid i bob ymgynghorai sydd, yn rhinwedd adran 54 o Ddeddf 2004 ac erthygl 15A, o dan ddyletswydd i ymateb i ymgynghoriad roi adroddiad i Weinidogion Cymru ar gydymffurfiad yr ymgynghorai hwnnw ag adran 54(4) o Ddeddf 2004 ddim hwyrach nag 1 Gorffennaf ym mhob blwyddyn, gan ddechrau gydag 1 Gorffennaf 2017.
[F11(1A) Rhaid i bob ymgynghorai sydd o dan ddyletswydd yn rhinwedd erthygl 2E i ymateb i ymgynghoriad cyn-ymgeisio, gynnwys yn yr adroddiad a roddir i Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (1), adroddiad ar gydymffurfiaeth yr ymgynghorai â’r erthygl honno.]
(2) Rhaid i’r adroddiad ymwneud â’r cyfnod o 12 mis sy’n cychwyn ar 1 Ebrill yn y flwyddyn flaenorol (“y flwyddyn adrodd”).
(3) Rhaid i’r adroddiad gynnwys datganiad ynglŷn â’r canlynol, mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn adrodd—
(a)nifer yr achlysuron yr ymgynghorwyd â’r ymgynghorai;
(b)nifer yr achlysuron y darparwyd ymateb o sylwedd;
(c)pa bryd y darparwyd yr ymateb o sylwedd; ac
(ch)nifer yr achlysuron y rhoddodd yr ymgynghorai ymateb o sylwedd y tu allan i’r cyfnod a ragnodwyd at ddibenion adran 54(4) o Ddeddf 2004 [F12neu, yn ôl fel y digwydd, y cyfnod a bennir neu y cyfeirir ato yn erthygl 2E(1)] a chrynodeb o’r rhesymau dros hynny.]
[F13(4) Yn yr erthygl hon ystyr “ymateb o sylwedd” yw naill ai ymateb o sylwedd i’r ceisydd neu i’r awdurdod cynllunio lleol yn unol ag erthyglau 2E neu 15A.]
Diwygiadau Testunol
F6Erglau. 15A, 15B wedi eu mewnosod (22.6.2015) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2015 (O.S. 2015/1330), erglau. 1(1), 7 (ynghyd ag ergl. 12)
F11Ergl. 15B(1A) wedi ei fewnosod (16.3.2016) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/59), erglau. 1(2), 7(a)
F12Geiriau yn ergl. 15B(3)(d) wedi eu mewnosod (16.3.2016) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/59), erglau. 1(2), 7(b)
F13Ergl. 15B(4) wedi ei fewnosod (16.3.2016) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/59), erglau. 1(2), 7(c)
15C. Y cyfnod a bennir at ddibenion adran 100A(3)(a) o Ddeddf 1990 yw’r cyfnod o 21 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y mae’r ymgynghorai yn cael—
(a)y ddogfen y gofynnir am farn yr ymgyngoreion arni; neu
(b)pan fo mwy nag un o ddogfennau, a anfonir ar wahanol ddiwrnodau, yr olaf o’r dogfennau hynny.
Diwygiadau Testunol
F14Erglau. 15C-15F wedi eu mewnosod (16.3.2016) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/59), erglau. 1(2), 8
15D. Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol ddarparu’r wybodaeth ganlynol i ymgynghorai statudol at ddibenion yr ymgynghoriad neu mewn cysylltiad â’r ymgynghoriad—
(a)copi o’r ffurflen gais sy’n ymwneud â chais perthnasol(1);
(b)y rhif cyfeirnod a ddyrannwyd gan yr awdurdod cynllunio lleol i’r cais gwreiddiol(2);
(c)unrhyw luniadau sy’n gysylltiedig â’r cais perthnasol; ac
(ch)unrhyw adroddiad mewn cysylltiad â’r cais perthnasol a ddyroddwyd i’r awdurdod cynllunio lleol.
Diwygiadau Testunol
F14Erglau. 15C-15F wedi eu mewnosod (16.3.2016) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/59), erglau. 1(2), 8
15E. Ymateb o sylwedd at ddibenion adran 100A(2) o Ddeddf 1990 yw ymateb sydd yn—
(a)datgan nad oes gan yr ymgynghorai unrhyw sylw i’w wneud;
(b)datgan nad oes gan yr ymgynghorai wrthwynebiad i’r materion sy’n destun yr ymgynghoriad, ac yn cyfeirio’r person sy’n ymgynghori at y cyngor sefydlog cyfredol gan yr ymgynghorai ar destun yr ymgynghoriad;
(c)rhoi gwybod i’r person sy’n ymgynghori am unrhyw bryderon a ganfuwyd ynglŷn â’r datblygiad arfaethedig materion sy’n destun yr ymgynghoriad a sut y gall y ceisydd fynd i’r afael â’r pryderon hynny; neu
(ch)rhoi gwybod bod yr ymgynghorai yn gwrthwynebu’r materion sy’n destun yr ymgynghoriad ac yn nodi’r rhesymau am y gwrthwynebiad.
Diwygiadau Testunol
F14Erglau. 15C-15F wedi eu mewnosod (16.3.2016) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/59), erglau. 1(2), 8
15F.—(1) Rhaid i bob ymgynghorai statudol yr ymgynghorir ag ef ynghylch cais dilys roi i Weinidogion Cymru, ddim hwyrach nag 1 Gorffennaf ym mhob blwyddyn galendr, gan ddechrau ar 1 Gorffennaf 2017, adroddiad ar gydymffurfiaeth yr ymgynghorai hwnnw ag adrannau 100A(2) a (3) o Ddeddf 1990 ac erthygl 15C.
(2) Rhaid i’r adroddiad ymwneud â’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ebrill yn y flwyddyn galendr flaenorol (“y flwyddyn adroddiad”).
(3) Rhaid i’r adroddiad gynnwys, mewn cysylltiad â’r flwyddyn adroddiad o dan sylw, datganiad o’r canlynol—
(a)nifer yr achlysuron pan ymgynghorwyd â’r ymgynghorai;
(b)nifer yr achlysuron pan ddarparwyd ymateb o sylwedd;
(c)nifer yr achlysuron pan roddwyd ymateb o sylwedd gan yr ymgynghorai y tu allan i’r cyfnod rhagnodedig at ddibenion 100A(3) o Ddeddf 1990 a chrynodeb o’r rhesymau am hynny.]
Diwygiadau Testunol
F14Erglau. 15C-15F wedi eu mewnosod (16.3.2016) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/59), erglau. 1(2), 8
16.—(1) Pan roddir gwybodaeth ynglŷn â chais i gyngor cymuned yn unol â pharagraff 2(1) o Atodlen 1A i Ddeddf 1990 (dosbarthiad swyddogaethau awdurdod cynllunio lleol: Cymru)(3), rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, roi gwybod i'r awdurdod cynllunio lleol sy'n penderfynu'r cais a yw'n dymuno gwneud unrhyw sylwadau ynghylch y modd y dylid penderfynu'r cais ai peidio, a rhaid iddo gyflwyno unrhyw sylwadau i'r awdurdod hwnnw o fewn cyfnod o 14 diwrnod ar ôl i'r cyngor cymuned gael ei hysbysu ynglŷn â'r cais.
(2) Rhaid i awdurdod cynllunio lleol beidio â phenderfynu unrhyw gais, y mae'n ofynnol rhoi gwybodaeth amdano i gymuned—
(a)cyn bo'r cyngor cymuned yn rhoi gwybod iddo nad yw'n bwriadu gwneud unrhyw sylwadau;
(b)cyn bo sylwadau wedi eu gwneud gan y cyngor hwnnw; neu
(c)cyn bo'r cyfnod o 14 diwrnod a grybwyllir ym mharagraff (1) wedi dod i ben,
pa un bynnag o'r rhain sy'n digwydd gyntaf; ac wrth benderfynu'r cais, rhaid i awdurdod gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a ddaw i law gan gyngor y gymuned.
(3) Rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol hysbysu'r cyngor cymuned ynghylch telerau'r penderfyniad ar unrhyw gais o'r fath, neu, os atgyfeirir y cais at Weinidogion Cymru, rhaid iddo hysbysu'r cyngor cymuned o'r dyddiad y'i hatgyfeiriwyd felly, a phan ddônt i law, telerau penderfyniad Gweinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Ergl. 16 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)
17.—(1) Pan fo hysbysiad wedi ei roi at ddibenion yr erthygl hon i awdurdod cynllunio lleol mewn perthynas â thir sydd o fewn ei ardal, ac os pennwyd yn yr hysbysiad—
(a)gan yr Awdurdod Glo, bod y tir yn cynnwys glo;
(b)gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd, bod y tir yn cynnwys nwy neu olew; neu
(c)gan Gomisiynwyr Ystad y Goron, bod y tir yn cynnwys arian neu aur,
rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol beidio â phenderfynu unrhyw gais am ganiatâd cynllunio i ennill a gweithio unrhyw fwyn ar y tir hwnnw, heb yn gyntaf hysbysu'r corff neu'r person a roddodd yr hysbysiad, bod cais wedi ei wneud.
(2) Yn yr erthygl hon, ystyr “glo” (“coal”) yw glo ac eithrio—
(a)glo a enillwyd neu a weithiwyd yng nghwrs gweithrediadau a ymgymerir yn unig at y diben o chwilio am lo; neu
(b)glo y mae'n ofynnol ei gloddio neu ei gludo ymaith yng nghwrs gweithrediadau a ymgymerir at ddibenion nad ydynt yn cynnwys caffael glo neu unrhyw gynnyrch glo.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Ergl. 17 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)
OJ L Rhif 199/59, 30.7.1999.
1990 p.8. Mewnosodwyd Atodlen 1A gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys