Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 30/04/2012.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
31. Mae unrhyw bŵer a roddir gan y Gorchymyn hwn i roi cyfarwyddyd yn cynnwys y pŵer i ddiddymu neu amrywio'r cyfarwyddyd hwnnw drwy gyfarwyddyd dilynol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 31 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)
32.—(1) Os gwneir cais drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, ystyrir bod y ceisydd wedi cytuno—
(a)i'r awdurdod ddefnyddio cyfathrebiadau o'r fath at ddibenion y cais;
(b)mai cyfeiriad y ceisydd at y dibenion hynny yw'r cyfeiriad sy'n gynwysedig yn y cais neu sydd, rywfodd arall, yn gysylltiedig yn rhesymegol â'r cais; ac
(c)y bydd cytundeb tybiedig y ceisydd o dan y paragraff hwn yn parhau hyd nes bo'r ceisydd yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig ei fod yn tynnu'n ôl y cydsyniad i ddefnyddio cyfathrebiadau electronig o dan baragraff (2).
(2) Os nad yw person bellach yn fodlon derbyn y defnydd o gyfathrebiadau electronig at unrhyw ddiben yn y Gorchymyn hwn y gellir ei gyflawni yn electronig, rhaid i'r person hwnnw roi hysbysiad, mewn ysgrifen, sydd—
(a)yn tynnu'n ôl unrhyw gyfeiriad yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru neu awdurdod cynllunio lleol ohono at y diben hwnnw; neu
(b)yn dirymu unrhyw gytundeb yr ymunwyd ynddo, neu y tybiwyd yr ymunwyd ynddo, gyda Gweinidogion Cymru neu gydag awdurdod cynllunio lleol at y diben hwnnw,
a bydd tynnu'n ôl neu ddirymu felly yn derfynol, ac yn cael effaith ar ddyddiad a bennir gan y person yn yr hysbysiad, ond nid yn llai na saith diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Ergl. 32 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)
33.—(1) Dirymir yr offerynnau statudol a bennir yng ngholofn gyntaf y Tabl yn Atodlen 8 i'r graddau a bennir yn y rhes gyfatebol yn nhrydedd golofn y Tabl.
(2) Mewn perthynas ag unrhyw gais am ganiatâd cynllunio, cydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth a wnaed cyn 1 Tachwedd 2011—
(a)nid yw erthyglau 26 (apelau) a 29 (cofrestr o geisiadau a gorchmynion datblygu lleol) ac Atodlen 5 (hysbysu pan wrthodir caniatâd cynllunio neu pan roddir caniatâd yn ddarostyngedig i amodau) yn gymwys; a
(b)mae erthyglau 23 (apelau) a 25 (cofrestr o geisiadau) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 a Rhan 2 o Atodlen 1 (hysbysiad sydd i'w anfon i'r ceisydd os gwrthodir caniatâd cynllunio neu os rhoddir caniatâd yn ddarostyngedig i amodau) i'r Gorchymyn hwnnw(1) yn gymwys fel yr oedd y darpariaethau hynny'n gymwys yn union cyn 1 Tachwedd 2011.
(3) Mewn perthynas ag unrhyw gais am ganiatâd cynllunio a wneir cyn 30 Ebrill 2012—
(a)nid yw erthygl 12 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio) yn gymwys; a
(b)mae erthygl 8 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio)(2) yn gymwys fel yr oedd y ddarpariaeth honno'n gymwys yn union cyn 30 Ebrill 2012.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Ergl. 33 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)
Gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 1996/525, 2004/1434, 2004/3156, 2006/1386, 2006/3390 a 2009/1024.
Gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 1999/293 a 2006/1386.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys