Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Awdurdodaeth Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl) (Cymru) 2012

Diwygio Deddf 1983

3.—(1Mae Deddf 1983 wedi ei diwygio yn unol â'r paragraffau canlynol.

(2Yn adran 1(5) a (6) (manylion cytundebau) yn lle “court” rhodder “appropriate judicial body”.

(3Yn adran 2 (telerau cytundebau) yn is-adrannau (2), (3) a (4) yn lle “court”, pryd bynnag y mae'n ymddangos, rhodder “appropriate judicial body”.

(4Yn adran 2A (pŵer i ddiwygio telerau ymhlyg) yn is-adran (3)(a) ar ôl “the court”, yn y ddau le, mewnosoder “or a tribunal”.

(5Yn adran 4 (awdurdodaeth tribiwnlys neu'r llys: Cymru a Lloegr)—

(a)yn is-adrannau (1) a (3), ar ôl “England” mewnosoder “or in Wales”;

(b)hepgorer is-adran (7).

(6Yn is-adran (1) o adran 5 (dehongli)—

(a)o flaen y diffiniad o “the appropriate national authority” mewnosoder—

“the appropriate judicial body” means whichever of the court or a tribunal has jurisdiction under section 4;,

(b)ar ôl y diffiniad o “the appropriate national authority” mewnosoder—

“arbitration agreement” means an agreement in writing to submit to arbitration any question arising under this Act or any agreement to which it applies;,

(c)yn y diffiniad o “the court” ym mharagraff (a) yn lle'r geiriau o “agreed” i “arbitration” rhodder “entered into an arbitration agreement that applies to the question to be determined”, ac

(ch)ar ôl y diffiniad o “protected site” mewnosoder—

“a tribunal” means a residential property tribunal(1) or, where the parties have entered into an arbitration agreement that applies to the question to be determined and that question arose before the agreement was made, the arbitrator.

(7Ym Mhennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 (cytundebau sy'n ymwneud â lleiniau yng Nghymru a Lloegr ac eithrio lleiniau yn Lloegr ar safleoedd sipsiwn a theithwyr awdurdodau lleol a safleoedd sipsiwn a theithwyr cynghorau sir)—

(a)ym mharagraff 1 (cyfnod y cytundeb) yn lle “or 6” rhodder “or 5A”,

(b)ym mharagraff 4 (terfynu gan y perchennog) yn lle “court” rhodder “appropriate judicial body”,

(c)ym mharagraff 5 (terfynu gan y perchennog) yn lle “court” rhodder “appropriate judicial body”,

(ch)ym mharagraff 5A, hepgorer is-baragraff (1),

(d)hepgorer paragraff 6,

(dd)ym mharagraff 8 (gwerthu cartref symudol i berson a gymeradwywyd gan y perchennog)—

(i)yn is-baragraff (1E), yn lle “court”, pryd bynnag y mae'n ymddangos, rhodder “appropriate judicial body”, a

(ii)ar ôl is-baragraff (1G), mewnosoder—

(1H) Subject to sub-paragraph (1I), an application to a tribunal under sub-paragraph (1E) by an occupier must be made—

(a)within the period of three months beginning with the day after the date on which the occupier receives notice of the owner’s decision under sub-paragraph (1B); or

(b)where the occupier receives no notice from the owner as required b y sub-paragraph (1B), within the period of three months beginning with the date which is 29 days after the date upon which the occupier served the request under sub-paragraph (1A).

(1I) A tribunal may permit an application under sub-paragraph (1E) to be made to the tribunal after the applicable period specified in sub-paragraph (1H) if it is satisfied that, in all the circumstances, there are good reasons for the failure to apply before the end of that period and for any delay since then in applying for permission to make the application out of time.

(e)ym mharagraff 9 (rhodd cartref symudol), yn is-baragraff (2) yn lle “(1G)” rhodder “(1I)”,

(f)ym mharagraff 10 (ail-leoli cartref symudol), yn is-baragraffau (1)(a) a (2), yn lle “court” rhodder “appropriate judicial body”,

(ff)ym mharagraff 16 (y ffi llain), ym mharagraff (b), yn lle “court” rhodder “appropriate judicial body”,

(g)ym mharagraff 17 (adolygu'r ffi llain)—

(i)yn lle “court”, pryd bynnag y mae'n ymddangos, rhodder “appropriate judicial body”,

(ii)yn is-baragraff (5) hepgorer y geiriau “, in the case of an application in relation to a protected site in England,”,

(iii)yn is-baragraff (9) hepgorer y geiriau “, in the case of an application in relation to a protected site in England,”, a

(iv)yn is-baragraff (9A) hepgorer y geiriau “in relation to a protected site in England”,

(ng)ym mharagraff 18 (penderfynu ffi llain), yn is-baragraff (1)(a)(iii), yn lle “court” rhodder “appropriate judicial body”,

(h)ym mharagraff 19 (penderfynu ffi llain), yn is-baragraff (2) hepgorer y geiriau “In the case of a protected site in England,”, ac

(i)ym mharagraff 28 (cymdeithas preswylwyr cymwys), yn is-baragraff (1)(h), yn lle “court” rhodder “appropriate judicial body”.

(8Ym mhennawd Rhan 2 o Atodlen 1 (materion y gall telerau gael eu hymhlygu amdanynt gan lys) yn lle “court” rhodder “appropriate judicial body”.

(1)

Drwy adran 229 o Ddeddf Tai 2004 (p. 34) caniateir i unrhyw awdurdodaeth tribiwnlys eiddo preswyl gan neu o dan ddeddfiad gael ei harfer gan bwyllgor asesu rhenti sydd wedi ei gyfansoddi'n unol ag Atodlen 10 i Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42).