Offerynnau Statudol Cymru
2013 Rhif 1561 (Cy. 142)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) (Diwygio) 2013
Gwnaed
24 Mehefin 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
27 Mehefin 2013
Yn dod i rym
18 Gorffennaf 2013
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 30(1) a (2) a 210 o Ddeddf Addysg 2002(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
(1)
2002 9.32. Diwygiwyd is-adrannau (1) a (2) o adran 30 gan Ddeddf Addysg 2005 (p.18), adran 103(1)(a). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 30 a 210 o Ddeddf Addysg 2002 i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).