xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
3 Gorffennaf 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 85(5) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Derbyniadau Ysgol (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2013.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Y diwrnod a bennir fel y diwrnod y daw’r Cod Derbyniadau Ysgol (y gosodwyd copi o ddrafft ohono gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 15 Mai 2013) i rym yw 8 Gorffennaf 2013.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
3 Gorffennaf 2013
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn pennu 8 Gorffennaf 2013 fel y diwrnod y daw’r Cod Derbyniadau Ysgol (“y Cod”) a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adrannau 84 a 85 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“DSFfY 1998”) i rym. Mae’r Cod yn gymwys o ran Cymru ac mewn cysylltiad â derbyniadau i Flwyddyn Ysgol 2014/2015 a’r blynyddoedd dilynol. Mae’r Cod yn disodli’r Cod Derbyniadau Ysgol a ddaeth i rym ar 15 Gorffennaf 2009.
Mae’r Cod yn gosod gofynion ac yn cynnwys canllawiau sy’n nodi nodau, amcanion neu faterion eraill mewn perthynas â’r trefniadau ar gyfer derbyn i ysgolion. O dan adran 84(3) o DSFfY 1998, dyletswydd awdurdodau addysg lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, fforymau derbyn a phaneli apêl, wrth arfer swyddogaethau o dan Bennod 1 o Ran 3 o DSFfY 1998, yw gweithredu yn unol ag unrhyw ddarpariaethau perthnasol yn y Cod. Yn ogystal, rhaid i unrhyw berson arall, wrth arfer unrhyw swyddogaeth at ddiben cyflawni swyddogaethau gan awdurdod addysg lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir o dan y Bennod honno, weithredu yn unol ag unrhyw ddarpariaethau perthnasol yn y Cod.
Mae’r prif newidiadau a gyflwynir yn y Cod hwn yn cynnwys:
(a)gofyniad bod meini prawf gordanysgrifio awdurdodau derbyn yn cynnwys, ochr yn ochr â ‘plant sy’n derbyn gofal’, ‘plant a oedd yn derbyn gofal o’r blaen’ fel y maen prawf cyntaf ym mhob achos;
(b)pennu dyddiadau cynnig cyffredin pan fydd rhaid anfon llythyrau penderfyniad o fewn pob awdurdod lleol gam wrth gam;
(c)gofyniad bod rhestrau aros yn cael eu cynnal hyd 30 Medi pan fo ysgolion wedi eu gordanysgrifio;
(d)eithriadau ychwanegol i’r ddeddfwriaeth ynghylch maint dosbarthiadau;
(e)mwy o gyfleoedd i amrywio’r trefniadau derbyn presennol heb gyfeirio at Weinidogion Cymru.
1998 p.31 Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).