NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae adran 69(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, roi i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru unrhyw swyddogaethau atodol yn ymwneud â darparu addysg sydd yn eu barn hwy yn briodol neu osod y swyddogaethau atodol hynny arno.
Mae’r Gorchymyn hwn yn rhoi swyddogaethau atodol i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae’r swyddogaethau a roddir gan y Gorchymyn hwn yn swyddogaethau y caiff Gweinidogion Cymru eu harfer mewn rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.
Mae’r swyddogaethau a roddir i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru gan erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â thalu’r grant newydd at ffioedd i sefydliadau addysg uwch (ac adennill gordaliadau o’r grant hwnnw) a gofyn am wybodaeth sy’n gysylltiedig â thalu’r grant newydd at ffioedd, a chael yr wybodaeth honno. Mae’r swyddogaethau hyn yn gymwys mewn cysylltiad â myfyrwyr sy’n dechrau cyrsiau addysg uwch dynodedig ar 1 Medi 2013 neu ar ôl hynny.