Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Credyd Cynhwysol (Darpariaethau Canlyniadol) (Gofal Plant, Tai a Thrafnidiaeth) (Cymru) 2013

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â darpariaethau Rhan 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p.5) (“y Ddeddf”) sy’n ymwneud â chyflwyno credyd cynhwysol a diddymu lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm a lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm.

Mae’r Rheoliadau yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth ym meysydd gofal plant, tai a thrafnidiaeth. Mae’r diwygiadau yn ganlyniadol ar ddwyn Rhan 1 o Ddeddf 2012 i rym.

Yn benodol, mae rheoliad 2 yn diwygio adran 3 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 sy’n caniatáu ar gyfer rheoliadau i eithrio disgrifiadau o geiswyr sydd â hawl i grantiau o dan Bennod 1 o Ran 1 o’r Ddeddf honno (grantiau am adnewyddu, atgyweirio etc). Effaith y diwygiadau yw bod y cyfeiriad at gredyd cynhwysol a fewnosodwyd gan Reoliadau Credyd Cynhwysol (Darpariaethau Canlyniadol, Atodol, Cysylltiedig ac Amrywiol) 2013 (O.S. 2013/630) yn gymwys i bŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan adran 3.

Mae rheoliad 3 yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Tai 2004 o ran Cymru sydd yr un fath â’r rheini a wnaed gan reoliad 18 o Reoliadau Credyd Cynhwysol (Darpariaethau Canlyniadol, Atodol, Cysylltiedig ac Amrywiol) 2013 o ran Lloegr. Mae’r diwygiadau hyn yn mewnosod cyfeiriadau at yr elfen tai o ddyfarniad o gredyd cynhwysol yn y darpariaethau sy’n ymwneud â gorchmynion ad-dalu rhent y gall tribiwnlys eiddo preswyl eu gwneud.

Mae rheoliad 4 yn diwygio adran 22 o Ddeddf Gofal Plant 2006 er mwyn cynnwys cyfeiriad at yr elfen gofal plant o gredyd cynhwysol mewn cysylltiad â dyletswydd awdurdod lleol yng Nghymru i ddiogelu gofal plant digonol yn ei ardal.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill