Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Pysgodfa Wystrys y Mwmbwls 2013

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgodfa Wystrys y Mwmbwls 2013 a daw i rym ar 10 Medi 2013.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “yr Ardal” (“the Area”) yw’r ardal ym Mae Abertawe sydd yng nghyffiniau’r Mwmbwls ac a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn;

ystyr “y bysgodfa” (“the fishery”) yw’r hawl i bysgodfa unigol a grëir gan erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn;

ystyr “cyfesuryn” (“co-ordinate”) yw cyfesuryn lledred a hydred yn System Geodetig Fyd-eang 1984;

mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(1);

ystyr “y Grantî” (“the Grantee”) yw Mumbles Oyster Company Limited (Rhif y Cwmni: 08181012) sydd â’i swyddfa gofrestredig yn 17 Trem y Mynydd, Porth Tywyn, Sir Gaerfyrddin, SA16 OFZ neu ba berson arall bynnag sydd â hawl i’r bysgodfa am y tro;

ystyr “wystrysen frodorol” (“native oyster”) yw unrhyw bysgod cregyn o’r math Ostrea edulis; ac

ystyr “ymgymerydd statudol” (“statutory undertaker”) yw unrhyw berson sydd, neu yr ystyrir ei fod, yn ymgymerydd statudol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth o Ran 11 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(2).

Yr hawl i bysgodfa

3.  Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn, mae gan y Grantî yr hawl i bysgodfa unigol am wystrys brodorol o fewn yr Ardal am gyfnod o 15 mlynedd sy’n dechrau ar 10 Medi 2013.

Marcio terfynau’r Ardal

4.  Rhaid i’r Grantî farcio terfynau’r Ardal ym mha fodd bynnag a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd, a rhaid iddo gynnal y marcwyr hynny yn eu lleoedd ac mewn cyflwr da.

Manylion Daliadau

5.—(1Rhaid i’r Grantî gyflwyno i Weinidogion Cymru fanylion y daliadau—

(a)am y cyfnod o 10 Medi 2013 i 31 Mawrth 2014 ar 31 Gorffennaf 2014 neu cyn hynny; ac wedi hynny

(b)am y cyfnod o 1 Ebrill i 31 Mawrth ar 31 Gorffennaf neu cyn hynny yn y flwyddyn y mae’r cyfnod hwnnw’n dod i ben.

(2Rhaid i fanylion daliadau at ddibenion paragraff (1) gofnodi—

(a)cyfanswm pwysau byw blynyddol y grawn wystrys brodorol a heuwyd yn y bysgodfa;

(b)lleoliad y ffynhonnell y daeth y grawn wystrys brodorol ohoni;

(c)cyfanswm pwysau byw blynyddol yr holl wystrys brodorol a gymerwyd o’r bysgodfa;

(d)lleoliad y man y cymerwyd y wystrys brodorol ohono; a

(e)pa wybodaeth bellach bynnag a fydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd ac yr hysbysir y Grantî ohoni.

Cyfrifon o’r incwm a’r gwariant, gwybodaeth arall ac arolygu

6.—(1Rhaid i’r Grantî roi i Weinidogion Cymru gyfrifon blynyddol o incwm a gwariant y Grantî o dan y Gorchymyn hwn.

(2Heb leihau dim ar effaith paragraff (1), rhaid i’r Grantî gydymffurfio ag unrhyw gais a wneir gan Weinidogion Cymru am wybodaeth mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn.

(3Rhaid i’r Grantî ganiatáu i unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru arolygu’r Ardal a’r holl gyfrifon a dogfennau eraill sydd ym meddiant y Grantî ac sy’n ymwneud â’r Gorchymyn hwn, a rhaid iddo roi i’r person hwnnw unrhyw wybodaeth ynglŷn â’r materion hyn, y gofynnir amdani gan y person hwnnw.

Hawliau’r Goron

7.  Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy’n lleihau effaith unrhyw ystâd, hawl, pŵer, braint neu esemptiad y Goron, ac yn benodol, nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy’n awdurdodi’r Grantî i gymryd, i ddefnyddio neu i ymyrryd mewn unrhyw fodd ag unrhyw ran o lan neu wely’r môr neu lan neu wely unrhyw afon, sianel, cilfach, bae neu foryd neu unrhyw dir, hereditamentau, gwrthrychau neu hawliau o unrhyw ddisgrifiad sy’n eiddo i’w Mawrhydi drwy hawl ei Choron ac o dan reolaeth Comisiynwyr Ystad y Goron.

Hawliau ymgymerwyr statudol

8.  Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy’n lleihau effaith unrhyw swyddogaethau statudol a arferir gan ymgymerydd statudol.

Aseinio

9.  Ni chaiff y Grantî, heb ganiatâd ysgrifenedig Gweinidogion Cymru ymlaen llaw, aseinio’r hawl hon i bysgodfa, na’i drosglwyddo mewn unrhyw ffordd arall, i unrhyw berson arall.

Alun Davies

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

11 Awst 2013

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill