Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ciniawau Ysgol a Llaeth am Ddim (Credyd Cynhwysol) (Cymru) 2013 a daw i rym ar 6 Medi 2013.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “credyd cynhwysol” (“universal credit”) yw credyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012(1); ac
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996.
(1)