- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005 (“y Rheoliadau Cymorth Mabwysiadu”) a Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) 2005 (“y Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig”).
Mae’r Rheoliadau Cymorth Mabwysiadu yn gwneud darpariaeth i awdurdodau lleol yng Nghymru ddarparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu fel rhan o’r gwasanaeth y maent yn ei gynnal o dan adran 3(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.
Mae’r Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â gwarcheidiaeth arbennig gan gynnwys gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig sy’n cynnwys gwasanaethau ar ffurf cymorth ariannol.
Gwneir y diwygiadau o ganlyniad i Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 er mwyn cynnwys cyfeiriad, o fewn y Rheoliadau Cymorth Mabwysiadu a’r Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig, at gredyd cynhwysol yn ogystal â’r cyfeiriad presennol at fudd-daliadau a fydd, yn y pen draw, yn cael eu disodli gan gredyd cynhwysol.
Mae rheoliad 2 yn diwygio’r Rheoliadau Cymorth Mabwysiadu mewn perthynas â swm y cymorth ariannol sydd i’w ddarparu a pha bryd y dylai cymorth o’r fath beidio â pharhau.
Mae rheoliad 3 yn diwygio’r Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig mewn perthynas â pha bryd y dylai cymorth ariannol beidio â pharhau.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r buddiannau sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Polisi a Strategaethau Gwasanaethau Cymdeithasol, Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys