Offerynnau Statudol Cymru
2013 No. 2139 (Cy. 209)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2013
Gwnaed
27 Awst 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
29 Awst 2013
Yn dod i rym
26 Medi 2013
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 6(4)(1), 16(1)(2), 17(2)(3), 26(2)(a) a (3)(4) a 48(1)(5) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(6), a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(7).
Yn unol ag adran 48(4A)(8) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at y Rheoliadau canlynol gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y’u diwygiwyd o bryd i’w gilydd—
(a)Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000 ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu(9);
(b)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2065/2001 sy’n gosod rheolau manwl ar gymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000 o ran hysbysu defnyddwyr am gynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu(10);
(c)Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 yn sefydlu system o reolaeth Gymunedol ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin(11); a
(d)Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 404/2011 sy’n gosod rheolau manwl ar weithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/ 2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin(12).
Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(13), cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra bo’r Rheoliadau hyn yn cael eu paratoi a’u gwerthuso.
Diwygiwyd adran 6(4) gan adran 31 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p.40) a pharagraff 6 o Atodlen 9 iddi; adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28), a pharagraffau 7, 10(1) a (3) o Atodlen 5 iddi, adran 40(4) o’r Ddeddf honno, ac Atodlen 6 iddi, ac O.S. 2002/794.
Diwygiwyd adran 16(1) gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999, a pharagraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 iddi.
Diwygiwyd adran 17(2) gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999, a pharagraffau 7, 8 a 12 o Atodlen 5 iddi, ac O.S. 2011/1043.
Diddymwyd adran 26(3) yn rhannol gan adran 40(4) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999, ac Atodlen 6 iddi.
Diwygiwyd adran 48(1) gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999, a pharagraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 iddi.
1990 p.16. Trosglwyddwyd y swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers”, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y’i darllenir ar y cyd ag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999, a’u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).
1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51).
Mewnosodwyd adran 48(4A) gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999, a pharagraffau 7 ac 21 o Atodlen 5 iddi.
OJ Rhif L 17, 21.1.2000, t 22, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan OJ Rhif L 349, 19.12.2012, t 4.
OJ Rhif L 278, 23.10.2001, t 6, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan OJ Rhif L 362, 20.12.2006, t 1.
OJ Rhif L 343, 22.12.2009, t 1.
OJ Rhif L 112, 30.4.2011, t 1, fel y’i diwygiwyd gan OJ Rhif L 328, 10.12.2011, t 58.
OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan OJ Rhif L 188, 18.7.2009, t 14.