- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
1. Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn dirymu ac yn ailddeddfu gyda newidiadau Reoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2010 (O.S. 2010/2394 (Cy.206)). Maent yn gwneud darpariaeth ar gyfer—
(a)parhau i weithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 76/621/EEC sy’n ymwneud â phennu’r lefel uchaf o asid erwsig mewn olewau a brasterau y bwriedir eu defnyddio fel y cyfryw ar gyfer eu bwyta gan bobl ac mewn deunyddiau bwyd sy’n cynnwys olewau neu frasterau a ychwanegwyd (OJ Rhif L202, 28.7.1976, t.35) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 80/891/EEC sy’n ymwneud â dull y Gymuned o benderfynu maint y cynnwys o asid erwsig mewn olewau a brasterau y bwriedir eu defnyddio fel y cyfryw ar gyfer eu bwyta gan bobl ac mewn deunyddiau bwyd sy’n cynnwys olewau neu frasterau a ychwanegwyd (OJ Rhif L254, 27.9.1980, t.35); a
(b)parhau i weithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1881/2006 sy’n pennu’r lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn deunyddiau bwyd (OJ Rhif L364, 20.12.2006, t.5) (“Rheoliad y Comisiwn”).
2. Mae Rheoliad y Comisiwn wedi ei ddiwygio gan—
(a)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1126/2007 (OJ Rhif L255, 29.9.2007, t.14), sy’n ymwneud â lefelau uchaf a ganiateir ar gyfer tocsinau Fusarium mewn indrawn a chynnyrch indrawn;
(b)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 565/2008 (OJ Rhif L160, 19.6.2008, t.20), sy’n ymwneud â lefelau uchaf a ganiateir ar gyfer diocsinau a biffenylau polyclorinedig (PCBau) mewn afu pysgod;
(c)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 629/2008 (OJ Rhif L173, 3.7.2008, t.6), sy’n ymwneud â lefelau uchaf a ganiateir ar gyfer metelau trwm penodol;
(d)Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 105/2010 (OJ Rhif L35, 6.2.2010, t.7), sy’n ymwneud â lefelau uchaf a ganiateir ar gyfer ochratocsin A;
(e)Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 165/2010 (OJ Rhif L50, 27.2.2010, t.8), sy’n ymwneud â lefelau uchaf ar gyfer afflatocsinau ac â thrin bwydydd penodol y canfyddir eu bod yn cynnwys afflatocsinau uwchlaw’r lefelau hynny;
(f)Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 420/2011 (OJ Rhif L111, 30.4.2011, t.3), sy’n ymwneud â chasglu data am ddigwyddiadau gan Aelod-wladwriaethau;
(g)Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 835/2011 (OJ Rhif L215, 20.8.2011, t.4), sy’n ymwneud â lefelau uchaf ar gyfer hydrocarbonau aromatig polysyclig mewn deunyddiau bwyd;
(h)Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1258/2011 (OJ Rhif L320, 3.12.2011, t.15), sy’n ymwneud â lefelau diwygiedig ar gyfer nitradau mewn llysiau deiliog;
(i)Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1259/2011 (OJ Rhif L320, 3.12.2011, t.18), sy’n ymwneud â lefelau uchaf a ganiateir ar gyfer diocsinau, biffenylau polyclorinedig (PCBau) o’r math diocsin a PCBau nid o’r math diocsin mewn deunyddiau bwyd;
(j)Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 594/2012 (OJ Rhif L176, 6.7.2012, t.43) sy’n ymwneud â lefelau uchaf a ganiateir ar gyfer ochratocsin A, PCBau nid o’r math diocsin a melamin mewn deunyddiau bwyd; a
(k)Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1058/2012 (OJ Rhif L313, 13.11.2012, t.14), sy’n ymwneud â lefelau uchaf ar gyfer afflatocsinau mewn ffigys wedi’u sychu.
3. Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu hefyd ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 124/2009 (OJ Rhif L40, 11.2.2009, t.7) (“Rheoliad 124/2009”), sy’n ymwneud â lefelau uchaf a ganiateir ar gyfer ychwanegion penodol at fwyd anifeiliaid, ac sydd weithiau, o dan amgylchiadau penodedig, i’w cael mewn bwyd. Mae’r Rheoliad hwn wedi ei ddiwygio gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 610/2012 (OJ Rhif L178, 10.7.2012, t.1).
4. Mae’r Rheoliadau yn darparu ei bod yn drosedd rhoi ar y farchnad fwydydd penodedig sy’n cynnwys asid erwsig uwchlaw’r lefelau a ganiateir (rheoliadau 3 a 4).
5. Mae’r Rheoliadau hefyd yn darparu ei bod yn drosedd, (ac eithrio mewn achosion penodol sy’n ymwneud â bwyd a roddwyd ar y farchnad cyn dyddiad a bennir yn y ddeddfwriaeth EU berthnasol)—
(a)rhoi ar y farchnad fwydydd penodol os ydynt yn cynnwys halogion o unrhyw fath a bennir yn Rheoliad y Comisiwn neu yn Rheoliad 124/2009 ar lefelau sy’n uwch na’r rhai a bennir;
(b)defnyddio bwyd sy’n cynnwys halogion ar lefelau sy’n uwch na’r rhai a ganiateir gan Reoliad y Comisiwn yn gynhwysion wrth gynhyrchu bwydydd penodol;
(c)cymysgu bwydydd, nad ydynt yn cydymffurfio â’r lefelau uchaf a ragnodir gan Reoliad y Comisiwn neu Reoliad 124/2009, gyda bwydydd sy’n cydymffurfio;
(d)cymysgu bwydydd y mae Rheoliad y Comisiwn yn ymwneud â hwy ac sydd wedi eu bwriadu i’w bwyta’n uniongyrchol neu fel cynwysyddion bwyd, gyda bwydydd y mae Rheoliad y Comisiwn yn ymwneud â hwy ac sydd wedi eu bwriadu i’w didoli neu i’w trin fel arall cyn eu bwyta;
(e)dadwenwyno trwy drin yn gemegol fwyd sy’n cynnwys lefelau mycotocsinau dros ben y terfynau a bennir yn Rheoliad y Comisiwn;
(f)peidio â chydymffurfio â gofynion labelu penodol ar gyfer rhai cnau daear, rhai hadau olew eraill, cynhyrchion sy’n deillio ohonynt a rhai ydau; ac
(g)rhoi ar y farchnad neu gymysgu bwydydd penodol sy’n cynnwys cocsidiostatau a histomonstatau penodedig dros ben y terfynau a ragnodir (rheoliad 5).
6. Yn ychwanegol, mae’r Rheoliadau hyn—
(a)yn darparu ar gyfer cosbau yn dilyn collfarn am drosedd o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 6) ac yn pennu’r awdurdodau gorfodi a chymwys (rheoliad 7);
(b)yn darparu ar gyfer cymhwyso darpariaethau penodedig o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 8);
(c)yn gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013 (rheoliad 9), sy’n cael yr effaith o ddatgymhwyso’r darpariaethau samplu a dadansoddi yn y Rheoliadau hynny, i’r graddau, yn unig, y rheoleiddir y materion hynny gan yr offerynnau UE a grybwyllir ym mharagraff 7.
7. Mae Rheoliad y Comisiwn yn pennu pa rai o ddulliau’r Undeb Ewropeaidd o samplu a dadansoddi, y mae’n ofynnol eu defnyddio i reoli’n swyddogol lefelau’r sylweddau a gwmpesir yn y Rheoliad. Nodir y dulliau hynny yn—
(a)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 401/2006 sy’n pennu’r dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli’n swyddogol y lefelau mycotocsinau mewn deunyddiau bwyd (OJ Rhif L70, 9.3.2006, t.12), fel y’i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 178/2010 (OJ Rhif L52, 3.3.2010, t.32);
(b)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1882/2006 sy’n pennu dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli’n swyddogol lefelau nitradau mewn deunyddiau bwyd penodol (OJ Rhif L364, 20.12.2006, t.25);
(c)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 333/2007 sy’n pennu’r dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli’n swyddogol y lefelau plwm, cadmiwm, mercwri, tun anorganig, 3-MCPD a benso(a)pyren mewn deunyddiau bwyd (OJ Rhif L88, 29.3.2007, t.29), fel y’i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 836/2011 (OJ Rhif L215, 20.8.2011, t.9); a
(d)Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 252/2012 sy’n pennu’r dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli’n swyddogol y lefelau diocsinau, PCBau o’r math diocsin a PCBau nid o’r math diocsin mewn deunyddiau bwyd penodol ac yn diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1883/2006 (OJ Rhif L84, 23.3.2012, t.1).
8. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad rheoleiddiol o gostau a manteision tebygol cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi ohono gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Tŷ Southgate, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys