Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013

Cymhwyso amryw o ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990LL+C

19.—(1Mae’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni i’w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —

(a)adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall);

(b)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(1) gyda’r addasiad—

(i)bod is-adrannau (2) i (4) yn gymwys o ran trosedd o dan reoliad 3, 4, 5, 6, 7(4) neu 17(1) fel y maent yn gymwys o ran trosedd o dan adran 14 neu 15, a

(ii)y bernir bod y cyfeiriadau yn is-adran (4) at “sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “placing on the market”;

(c)adran 30(8) (sy’n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(d)adran 35(1) (cosbi troseddau)(2), i’r graddau y mae’n ymwneud â throseddau o dan adran 33(1) fel y’i cymhwysir gan baragraff (3)(b);

(e)adran 35(2) a (3)(3), i’r graddau y mae’n ymwneud â throseddau o dan adran 33(2) fel y’i cymhwysir gan baragraff (2)(c);

(f)adran 36 (troseddau gan gyrff corfforaethol); ac

(g)adran 36A (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd)(4).

(2Mae’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf i’w ddehongli fel pe bai’n cynnwys cyfeiriad at Reoliadau’r UE a’r Rheoliadau hyn—

(a)adran 3 (rhagdybio bod bwyd wedi ei fwriadu i bobl ei fwyta) gyda’r addasiad y bernir bod y cyfeiriadau at “sold” a “sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “placed on the market” a “placing on the market” yn y drefn honno;

(b)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(c)adran 33(2), gyda’r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o’r fath a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y’i cymhwysir gan is-baragraff (b); a

(d)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll).

(3Mae adran 34 o’r Ddeddf (terfyn amser ar gyfer erlyniadau) yn gymwys i droseddau o dan y Rheoliadau hyn fel y mae’n gymwys i droseddau y gellir eu cosbi o dan adran 35(2) o’r Ddeddf.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 19 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1

(1)

Diwygiwyd adran 21 gan O.S. 2004/3279.

(2)

Diwygiwyd adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p.44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i’w bennu.

(3)

Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279.

(4)

Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28), Atodlen 5, paragraff 16.