xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

RHAN 1LL+CRhagarweiniol

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “awdurdod bwyd” (“food authority”) yw —

(a)

cyngor sir; a

(b)

cyngor bwrdeistref sirol;

ystyr “Cyfarwyddeb 2009/32” (“Directive 2009/32”) yw Cyfarwyddeb 2009/32/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyd-ddynesiad cyfreithiau’r Aelod-wladwriaethau ynghylch toddyddion echdynnu a ddefnyddir wrth gynhyrchu deunyddiau bwyd a chynhwysion bwyd(1);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “Rheoliad 2065/2003” (“Rheoliad2065/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 2065/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyflasynnau mwg a ddefnyddir neu a fwriedir i’w defnyddio mewn bwydydd neu arnynt(2);

ystyr “Rheoliad 1332/2008” (“Rheoliad1332/2008”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1332/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ensymau bwyd (3);

ystyr “Rheoliad 1333/2008” (“Rheoliad 1333/2008”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ychwanegion bwyd(4), fel y’i darllenir gyda’r canlynol —

(c)

Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1129/2011 sy’n diwygio Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor drwy sefydlu rhestr i’r Undeb o ychwanegion bwyd(5),

(d)

Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1130/2011 sy’n diwygio Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ychwanegion bwyd drwy sefydlu rhestr i’r Undeb o ychwanegion bwyd i’w defnyddio mewn ychwanegion bwyd, ensymau bwyd, cyflasynnau bwyd a maetholion(6), ac

(e)

Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 231/2012 sy’n nodi manylebau ar gyfer ychwanegion bwyd a restrir yn Atodiadau II a III i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor(7);

ystyr “Rheoliad 1334/2008” (“Rheoliad 1334/2008”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1334/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol ac iddynt briodweddau cyflasyn bwyd i’w defnyddio mewn bwydydd ac arnynt(8), fel y’i darllenir gyda Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 873/2012 ynghylch mesurau trosiannol sy’n ymwneud â rhestr yr Undeb o gyflasynnau a deunyddiau ffynhonnell a nodir yn Atodiad I i Reoliad (EC) 1334/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor(9);

ystyr “Rheoliadau’r UE” (“the EU Regulations”) yw Rheoliad 2065/2003, Rheoliad 1332/2008, Rheoliad 1333/2008 a Rheoliad 1334/2008;

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi mewn ysgrifen, naill ai yn gyffredinol neu’n benodol, gan awdurdod bwyd i weithredu mewn materion sy’n codi o dan y Rheoliadau hyn.

(2Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadroddion Saesneg cyfatebol yn offerynnau’r UE sydd wedi eu rhestru ym mharagraff (4) yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn yr offerynnau hynny.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Erthygl neu Atodiad i unrhyw rai o offerynnau’r UE a restrir ym mharagraff (4) yn gyfeiriad at yr Erthygl honno neu’r Atodiad hwnnw fel y’u diwygiwyd o dro i dro.

(4Offerynnau’r UE yw Cyfarwyddeb 2009/32, Rheoliad 2065/2003, Rheoliad (EC) Rhif 1331/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor yn sefydlu gweithdrefn awdurdodi gyffredin ynglŷn ag ychwanegion bwyd, ensymau bwyd a chyflasynnau bwyd(10), Rheoliad 1332/2008, Rheoliad 1333/2008 a Rheoliad 1334/2008.

(5Pan aseinir unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf—

(a)drwy orchymyn o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(11), i awdurdod iechyd porthladd; neu

(b)drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(12), i gyd-fwrdd ardal unedig;

mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd i’w ddehongli, i’r graddau y mae’n ymwneud â’r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi eu haseinio felly iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 2 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1

(1)

OJ Rhif L141, 6.6.2009, t.3. Diwygiwyd yr offeryn hwn gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2010/59/EU (OJ Rhif L225, 27.8.2010, t.10).

(2)

OJ Rhif L309, 26.11.2003, t.1. Diwygiwyd yr offeryn hwn gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

(3)

OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.7. Diwygiwyd yr offeryn hwn ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1056/2012 (OJ Rhif L313, 13.11.2012, t.9).

(4)

OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.16. Diwygiwyd yr offeryn hwn ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 510/2013 (OJ Rhif L150, 4.6.2013, t.17).

(5)

OJ Rhif L295, 12.11.2011, t.1.

(6)

OJ Rhif L295, 12.11.2011, t.178.

(7)

OJ Rhif L83, 22.3.2012, t.1. Diwygiwyd yr offeryn hwn ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 497/2013 (OJ Rhif L143, 30.5.2013, t.20).

(8)

OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.34. Diwygiwyd yr offeryn hwn ddiwethaf gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 545/2013 (OJ Rhif L163, 15.6.2013, t.15).

(9)

OJ Rhif L267, 2.10.2012, t.162.

(10)

OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.1. Rhoddwyd yr offeryn hwn ar waith gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 234/2011 (OJ Rhif L64, 11.03.2011, t.15) ac mae’r Rheoliad hwnnw wedi ei ddiwygio gan reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 562/2012 (OJ Rhif L168, 28.06.2012, t.2).

(11)

1984 p.22; amnewidiwyd adran 7(3)(d) gan baragraff 27 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (p.16).

(12)

1936 p.49; mae adran 6 i’w darllen gyda pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.