Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2013.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ond nid ydynt yn gymwys o ran adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Tachwedd 2013.
(4) Yn y rheoliad hwn, mae i “adeilad ynni a eithrir” (“excepted energy building”) yr un ystyr ag yn Erthygl 1(3) a’r Atodlen i Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009(1).
(1)