- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae adran 13A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn cysylltiad â chynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor. Mae’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol bod pob awdurdod bilio yng Nghymru yn gwneud cynllun a fydd yn pennu pa ostyngiadau a fydd yn gymwys i’r symiau o’r dreth gyngor a fydd yn daladwy gan bersonau, neu ddosbarthiadau o bersonau, yr ystyrir eu bod mewn angen ariannol. Mae paragraffau 2 i 7 o Atodlen 1B i Ddeddf 1992 yn galluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi, drwy reoliadau, faterion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun, ynghyd â gofynion ychwanegol y mae’n rhaid naill ai eu cynnwys neu beidio â’u cynnwys mewn cynllun.
Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol a diffiniadau o’r geiriau a’r ymadroddion allweddol. Yn Rhan 2 gwneir darpariaeth ynglŷn â gofynion cynlluniau mewn perthynas ag awdurdodau bilio yng Nghymru, gan gynnwys dosbarthiadau o bersonau, gostyngiadau a gofynion gweithdrefnol y cynlluniau. Yn Rhan 3 rhagnodir dosbarthiadau o bersonau y mae’n rhaid eu cynnwys yng nghynllun awdurdod. Mae Rhan 4 yn rhagnodi dosbarthiadau o bersonau na chaniateir eu cynnwys yng nghynllun awdurdod.
Mae Rhan 5 ac Atodlenni 1 i 5 yn rhagnodi’r materion y mae’n rhaid eu cynnwys yng nghynllun awdurdod mewn perthynas â phensiynwyr. Yn Atodlenni 1 i 5 pennir y rheolau sy’n berthnasol wrth benderfynu a yw pensiynwyr yn gymwys am ostyngiad, a maint unrhyw ostyngiad o dan gynllun, ac yn pennu sut y dylid trin incwm a chyfalaf pensiynwyr wrth gyfrifo’u cymhwystra am ostyngiad.
Mae Rhan 5 ac Atodlenni 6 i 10 yn rhagnodi’r materion y mae’n rhaid eu cynnwys yng nghynllun awdurdod mewn perthynas â phersonau nad ydynt yn bensiynwyr. Yn Atodlenni 6 i 10 pennir y rheolau sy’n berthnasol wrth benderfynu a yw person nad yw’n bensiynwr yn gymwys am ostyngiad, a maint unrhyw ostyngiad o dan gynllun, ac yn pennu sut y dylid trin incwm a chyfalaf person nad yw’n bensiynwr wrth gyfrifo’i gymhwystra am ostyngiad, gan gynnwys achosion pan ddyfarnwyd credyd cynhwysol i’r person nad yw’n bensiynwr neu i’w bartner.
Mae Atodlen 11 yn darparu ar gyfer cymhwyso’r cynllun i fyfyrwyr.
Mae Rhan 5 ac Atodlenni 12 i 14 yn rhagnodi’r materion y mae’n rhaid eu cynnwys yng nghynllun awdurdod mewn perthynas â phob ceisydd.
Yr oedd yn ofynnol i’r awdurdodau bilio yng Nghymru wneud a gweithredu cynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol oedd yn dechrau ar 1 Ebrill 2013. Yn Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn pennir y darpariaethau trosiannol a fydd yn gymwys i’r personau sydd yn derbyn gostyngiad o dan gynllun gostyngiad presennol, neu sydd wedi gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun o’r fath, pan fydd y cynlluniau newydd yn dod yn weithredol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r buddiannau sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Gellir cael copi gan yr Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol a Pherfformiad Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys