xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
11. Mae awdurdod yng Nghymru yn gorff penodedig at ddibenion adran 13A(4)(a) o Ddeddf 1992.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 11 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
12.—(1) Rhaid i bob awdurdod yng Nghymru wneud cynllun a fydd yn pennu’r gostyngiadau a gymhwysir i’r symiau o dreth gyngor a fydd yn daladwy gan bersonau y mae’r cynllun yn gymwys iddynt mewn perthynas ag anheddau a leolir yn ardal yr awdurdod.
(2) Ni chaiff y swyddogaeth o wneud cynllun, fel sy’n ofynnol gan y Rheoliadau hyn fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod o dan drefniadau gweithredol.
(3) Nid yw adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys mewn perthynas â chyflawni’r swyddogaeth a grybwyllir ym mharagraff (1).
(4) Yn y rheoliad hwn, mae i’r cyfeiriadau at “gweithrediaeth” a “trefniadau gweithredol” yr un ystyron a roddir, yn eu trefn i “executive” ac “executive arrangements” gan Ran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(2) neu offeryn a wnaed o dan y Rhan honno o’r Ddeddf honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 12 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
13. Rhaid i bob awdurdod yng Nghymru wneud cynllun erbyn 31 Ionawr 2014 fan bellaf, a rhaid i’r flwyddyn ariannol sy’n cychwyn ar 1 Ebrill 2014 fod yn flwyddyn ariannol gyntaf y bydd y cynllun hwnnw’n ymwneud â hi.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 13 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
14. Rhaid i gynllun—
(a)datgan pa ddosbarthiadau o bersonau sydd â hawl i gael gostyngiad;
(b)cynnwys y dosbarthiadau hynny o bersonau a ragnodir yn rheoliadau 22 i 25;
(c)peidio â chynnwys y dosbarthiadau hynny o bersonau a ragnodir yn rheoliadau 28 i 31.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 14 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
15.—(1) Rhaid i gynllun bennu’r gostyngiad y bydd hawl gan bersonau ym mhob dosbarth i’w gael.
(2) Bydd hawl o dan gynllun, gan y dosbarthiadau o bersonau a ragnodir yn rheoliadau 22 a 23, i’r gostyngiadau a ragnodir yn Rhan 3 o Atodlen 1 (pensiynwyr).
(3) Bydd hawl o dan gynllun, gan y dosbarthiadau o bersonau a ragnodir yn rheoliadau 24 a 25, i’r gostyngiadau a ragnodir yn Rhan 3 o Atodlen 6 (personau nad ydynt yn bensiynwyr).
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 15 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
16. Rhaid i gynllun ddatgan—
(a)y weithdrefn y caiff person wneud cais am ostyngiad o dan gynllun yn unol â hi;
(b)y weithdrefn y caiff person apelio yn unol â hi, yn erbyn penderfyniad awdurdod mewn perthynas ag—
(i)hawl person i gael gostyngiad o dan gynllun; neu
(ii)swm unrhyw ostyngiad y mae hawl gan y person i’w gael.
(c)y weithdrefn y caiff person wneud cais i awdurdod yn unol â hi am ostyngiad o dan adran 13A(1)(c) o Ddeddf 1992.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 16 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
17.—(1) Cyn gwneud cynllun rhaid i’r awdurdod—
(a)cyhoeddi cynllun drafft yn y cyfryw ffurf yr ystyria’n briodol, a
(b)ymgynghori ag unrhyw bersonau eraill yr ystyria’n debygol bod ganddynt ddiddordeb yng ngweithrediad ei gynllun.
(2) Ar ôl gwneud cynllun, rhaid i’r awdurdod gyhoeddi’r cynllun hwnnw yn y cyfryw ffurf yr ystyria’n briodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 17 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
18.—(1) Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i awdurdod ystyried a ddylai ddiwygio ei gynllun neu ei amnewid gan gynllun arall.
(2) Rhaid i awdurdod wneud unrhyw ddiwygiad yn ei gynllun, neu unrhyw gynllun a amnewidir, ddim hwyrach na 31 Ionawr yn y flwyddyn ariannol sy’n rhagflaenu’r flwyddyn ariannol pan fo’r diwygiad neu’r cynllun a amnewidir i gael effaith.
(3) Os bydd unrhyw ddiwygiad mewn cynllun, neu unrhyw gynllun a amnewidir, yn cael yr effaith o leihau neu ddiddymu gostyngiad y mae hawl gan unrhyw ddosbarth o bersonau i’w gael, rhaid i’r diwygiad neu’r cynllun a amnewidir gynnwys pa bynnag ddarpariaeth drosiannol a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod mewn perthynas â’r diwygiad neu’r diddymiad hwnnw.
(4) Mae rheoliad 17 yn gymwys i awdurdod pan fo’n diwygio cynllun fel y mae’n gymwys i awdurdod pan fo’n gwneud cynllun.
(5) Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at gynllun yn cynnwys cynllun a amnewidir.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 18 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
19.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i awdurdod yng Nghymru sy’n ei gwneud yn ofynnol bod yr awdurdod yn cyflenwi iddynt ba bynnag wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad ac y gofynnir amdani ganddynt hwy at y diben o arfer, neu benderfynu a ddylid arfer, unrhyw swyddogaeth mewn perthynas â chynlluniau.
(2) Rhaid i’r awdurdod gyflenwi’r wybodaeth y gofynnir amdani os yw’r wybodaeth yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth, a rhaid iddo wneud hynny yn y cyfryw ffurf a modd ac yn y cyfryw amser a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Os yw awdurdod yn methu â chydymffurfio â pharagraff (2), caiff Gweinidogion Cymru arfer y swyddogaeth ar sail pa bynnag ragdybiaethau ac amcangyfrifon yr ystyriant yn briodol.
(4) Wrth arfer, neu benderfynu a ddylid arfer, unrhyw swyddogaeth mewn perthynas â chynlluniau, caiff Gweinidogion Cymru gymryd i ystyriaeth hefyd unrhyw wybodaeth arall sydd ar gael, o ba bynnag ffynhonnell, pa un a gafwyd yr wybodaeth honno o dan ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw Ddeddf neu a wnaed odanynt, ai peidio.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 19 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
20. Yn ddarostyngedig i reoliad 19, caiff awdurdod godi tâl rhesymol am gyflenwi copïau o ddogfennau sy’n ymwneud â’i gynllun.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 20 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)