Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Ystyr “incwm”: pensiynwyr

10.—(1At ddibenion dosbarthiadau A a B ystyr “incwm” (“income”) yw incwm o unrhyw un o’r disgrifiadau canlynol—

(a)enillion;

(b)credyd treth gwaith;

(c)incwm pensiwn ymddeol yn yr ystyr a roddir i “retirement pension income” gan Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(1);

(d)incwm o gontractau blwydd-dal (ac eithrio incwm pensiwn ymddeol);

(e)pensiwn anabledd rhyfel neu bensiwn rhyfel gwraig neu ŵr gweddw;

(f)pensiwn anabledd rhyfel neu bensiwn rhyfel gwraig neu ŵr gweddw o dramor;

(g)taliad incwm gwarantedig;

(h)taliad a wnaed o dan erthygl 29(1)(c) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011(2), mewn unrhyw achos pan fo erthygl 31(2)(c) yn gymwys;

(i)incwm o gyfalaf ac eithrio cyfalaf a ddiystyrir o dan Ran 1 o Atodlen 5;

(j)budd-daliadau nawdd cymdeithasol, ac eithrio incwm pensiwn ymddeol neu unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol—

(i)lwfans byw i’r anabl;

(ii)taliad annibyniaeth bersonol;

(iii)TALlA;

(iv)lwfans gweini sy’n daladwy o dan adran 64 o DCBNC (hawl i gael lwfans gweini);

(v)cynnydd mewn pensiwn anabledd o dan adran 104 (cynnydd ar gyfer gweini cyson) neu 105 (cynnydd ar gyfer anabledd eithriadol o ddifrifol) o DCBNC;

(vi)budd-dal plant;

(vii)unrhyw lwfans gwarcheidwad sy’n daladwy o dan adran 77 o DCBNC (lwfans gwarcheidwad);

(viii)unrhyw gynnydd ar gyfer dibynnydd ac eithrio partner y ceisydd, sy’n daladwy yn unol â Rhan 4 o DCBNC (cynnydd ar gyfer dibynyddion);

(ix)unrhyw—

(aa)taliad cronfa gymdeithasol a wneir o dan Ran 8 o DCBNC (y gronfa gymdeithasol); neu

(bb)cymorth achlysurol;

(x)bonws Nadolig sy’n daladwy o dan Ran 10 o DCBNC (bonws Nadolig ar gyfer pensiynwyr);

(xi)budd-dal tai;

(xii)budd-dal treth gyngor;

(xiii)taliad profedigaeth;

(xiv)tâl salwch statudol;

(xv)tâl mamolaeth statudol;

(xvi)tâl tadolaeth statudol cyffredin sy’n daladwy o dan Ran 12ZA o DCBNC (tâl tadolaeth statudol)(3);

(xvii)tâl tadolaeth statudol ychwanegol sy’n daladwy o dan Ran 12ZA o DCBNC;

(xviii)tâl mabwysiadu statudol sy’n daladwy o dan Ran 12ZB o DCBNC (tâl mabwysiadu statudol);

(xix)unrhyw fudd-dal cyffelyb i’r rhai a grybwyllir yn narpariaethau blaenorol y paragraff hwn, sy’n daladwy o dan ddeddfwriaeth sy’n cael effaith yng Ngogledd Iwerddon;

(k)yr holl fudd-daliadau nawdd cymdeithasol tramor cyffelyb i’r budd-daliadau nawdd cymdeithasol a ragnodir uchod;

(l)taliad a wneir—

(i)o dan erthygl 30 o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006(4), mewn unrhyw achos pan fo erthygl 30(1)(b) yn gymwys; neu

(ii)o dan erthygl 12(8) o’r Gorchymyn hwnnw, mewn unrhyw achos pan fo is-baragraff (b) o erthygl 12(8) yn gymwys;

(m)pensiwn a delir i ddioddefwyr erledigaeth gan Sosialwyr Cenedlaethol, o dan unrhyw ddarpariaeth arbennig a wneir gan gyfraith Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, neu unrhyw ran ohoni, neu Weriniaeth Awstria;

(n)taliadau o dan gynllun a wnaed o dan Ddeddf Niwmoconiosis etc (Digolledu Gweithwyr) 1979(5);

(o)taliadau tuag at gynhaliaeth y ceisydd, a wneir gan briod, partner sifil, cyn briod neu gyn bartner sifil y ceisydd, neu tuag at gynhaliaeth partner y ceisydd gan briod, partner sifil, cyn briod neu gyn bartner sifil y person hwnnw, gan gynnwys taliadau a wneir—

(i)o dan orchymyn llys;

(ii)o dan gytundeb ar gyfer cynhaliaeth; neu

(iii)yn wirfoddol;

(p)taliadau sy’n ddyledus gan unrhyw berson mewn perthynas â phrydau bwyd a llety a ddarperir gan y ceisydd;

(q)breindaliadau neu symiau eraill a delir yn gyfnewid am ddefnyddio, neu’r hawl i ddefnyddio, unrhyw hawlfraint, dyluniad, patent neu nod masnach;

(r)unrhyw daliad mewn perthynas ag—

(i)unrhyw lyfr a gofrestrwyd o dan Gynllun Hawliau Benthyg i’r Cyhoedd 1982(6); neu

(ii)unrhyw waith a wnaed o dan unrhyw gynllun hawliau benthyg i’r cyhoedd rhyngwladol cyfatebol i Gynllun Hawliau Benthyg i’r Cyhoedd 1982;

(s)unrhyw daliad, ac eithrio taliad a orchmynnwyd gan lys neu a wnaed i setlo hawliad, a wnaed gan neu ar ran cyn gyflogwr person, oherwydd ymddeoliad cynnar y person hwnnw ar sail afiechyd neu anabledd;

(t)unrhyw swm sy’n daladwy fel pensiwn allan o arian a ddarperir o dan—

(i)Deddf Rhestr Sifil 1837(7),

(ii)Deddf Rhestr Sifil 1937(8),

(iii)Deddf Rhestr Sifil 1952(9),

(iv)Deddf Rhestr Sifil 1972(10), neu

(v)Deddf Rhestr Sifil 1975(11);

(u)unrhyw incwm sydd yn lle incwm a bennir ym mharagraffau (a) i (r);

(v)unrhyw daliad o rent a wneir i geisydd sydd—

(i)yn berchen y buddiant rhydd-ddaliad neu lesddaliad mewn unrhyw eiddo, neu sy’n denant unrhyw eiddo;

(ii)yn meddiannu rhan o’r eiddo; a

(iii)sydd â chytundeb gyda pherson arall sy’n caniatáu i’r person hwnnw feddiannu’r eiddo hwnnw ar ôl talu rhent;

(w)unrhyw daliad a wneir fesul cyfnod rheolaidd o dan gynllun rhyddhau ecwiti;

(x)taliadau cyfnodol o’r Gronfa Diogelu Pensiynau yn yr ystyr a roddir i “PPF periodic payments” gan adran 17(1) o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002.

(2Os yw’r taliad o unrhyw fudd-dal nawdd cymdeithasol y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yn ddarostyngedig i unrhyw ddidyniad (ac eithrio addasiad a bennir yn is-baragraff (4)) y swm sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan is-baragraff (1) yw’r swm cyn gwneud y didyniad.

(3Os yw dyfarniad o unrhyw gredyd treth gwaith neu gredyd treth plant yn ddarostyngedig i ddidyniad, er mwyn adennill gordaliad o gredyd treth gwaith neu gredyd treth plant a ddigwyddodd mewn blwyddyn dreth flaenorol, y swm sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan is-baragraff (1) yw swm y credyd treth gwaith neu gredyd treth plant a ddyfarnwyd, llai swm y didyniad hwnnw.

(4Yr addasiadau a bennir yn yr is-baragraff hwn yw’r addasiadau a wneir yn unol ag—

(a)Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Budd-daliadau Gorgyffyrddol) 1979(12);

(b)Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cleifion Mewnol mewn Ysbytai) 2005(13);

(c)adran 30DD neu adran 30E o DCBNC(14) (gostyngiadau mewn budd-dal analluogrwydd mewn perthynas â phensiynau a lwfansau cynghorwyr);

(d)adran 3 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 (didyniadau o lwfans cyflogaeth a chymorth cyfrannol mewn perthynas â phensiynau a lwfansau cynghorwyr) a rheoliadau a wneir o dan yr adran honno.

(5Yn is-baragraff (1)(w), ystyr “cynllun rhyddhau ecwiti” (“equity release scheme”) yw benthyciad—

(a)a wnaed rhwng person (“y rhoddwr benthyg”) a’r ceisydd;

(b)sy’n fodd i drosglwyddo swm o arian oddi ar y rhoddwr benthyg i’r ceisydd ar ffurf taliadau ar adegau rheolaidd; ac

(c)a sicrheir gydag annedd y mae gan y ceisydd ystad neu fuddiant ynddi, ac y mae’r ceisydd yn ei meddiannu fel ei gartref.

(1)

Gweler adran 16 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 (p.16).

(3)

Mewnosodwyd Rhan 12ZA gan adran 2 a mewnosodwyd Rhan 12ZB gan adran 4 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p.22).

(6)

Mae’r Cynllun Hawliau Benthyg i’r Cyhoedd wedi ei gynnwys fel atodiad i O.S. 1982/719; amnewidiwyd gan Atodiad 2 i O.S. 1990/2360. Gwnaed diwygiadau iddo yn y cyfamser, ond nid ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(10)

1972 p.7.

(11)

1975 p.82.

(14)

1992 p.4; mewnosodwyd adran 30DD gan adran 63 o Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p.30). Mewnosodwyd adran 30E gan adran 3 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Analluogrwydd i Weithio) 1994 (p.18). Diddymir y ddwy adran gan Atodlen 8 i Ddeddf Diwygio Lles 2007 (p.5) (nad yw eto mewn grym).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open yr Offeryn Cyfan

Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill