- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
3.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y paragraff hwn, y didyniadau annibynyddion mewn perthynas â diwrnod, y cyfeirir atynt ym mharagraff 2 yw—
(a)mewn perthynas ag annibynnydd 18 mlwydd oed neu’n hŷn sy’n gweithio am dâl, [F1£11.30 ]x 1/7;
(b)mewn perthynas ag annibynnydd 18 mlwydd oed neu’n hŷn nad yw paragraff (a) yn gymwys iddo, [F2£3.75 ]x 1/7.
(2) Yn achos annibynnydd 18 mlwydd oed neu’n hŷn y mae is-baragraff (1)(a) yn gymwys iddo, os dangosir i’r awdurdod fod incwm wythnosol gros arferol yr annibynnydd hwnnw—
(a)yn llai na [F3£188.00,] y didyniad sydd i’w wneud o dan y paragraff hwn yw’r didyniad a bennir yn is-baragraff (1)(b);
(b)yn ddim llai na [F4£188.00 ]ond yn llai na [F4£326.00,] y didyniad sydd i’w wneud o dan y paragraff hwn yw [F4£7.50 ]x 1/7;
(c)yn ddim llai na [F5£326.00 ]ond yn llai na [F5£406.00,] y didyniad sydd i’w wneud o dan y paragraff hwn yw [F5£9.45 ]x 1/7.
(3) Un didyniad yn unig sydd i’w wneud o dan y paragraff hwn mewn perthynas â chwpl neu, yn ôl fel y digwydd, mewn perthynas ag aelodau priodas amlbriod, ac os byddai’r swm y byddid yn ei ddidynnu mewn perthynas ag un aelod o gwpl neu o briodas amlbriod, oni bai am y paragraff hwn, yn uwch na’r swm (os oes swm) y byddid yn ei ddidynnu mewn perthynas â’r aelod arall, neu unrhyw aelod arall, rhaid didynnu’r swm uchaf.
(4) Wrth gymhwyso darpariaethau is-baragraff (2) yn achos cwpl, neu, yn ôl fel y digwydd, priodas amlbriod, at ddibenion yr is-baragraff hwnnw rhaid rhoi sylw i gyfanswm incwm gros wythnosol y cwpl neu, yn ôl fel y digwydd, gyfanswm incwm gros wythnosol holl aelodau’r briodas amlbriod.
(5) Mewn perthynas â diwrnod, os yw—
(a)person yn breswylydd mewn annedd, ond nad yw’r person hwnnw’n atebol am dreth gyngor mewn perthynas â’r annedd honno a’r diwrnod hwnnw;
(b)preswylwyr eraill yn yr annedd honno (y personau atebol) yn atebol ar y cyd ac yn unigol am dreth gyngor mewn perthynas â’r annedd honno a’r diwrnod hwnnw, ac eithrio yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf 1992 (atebolrwydd gwŷr priod a gwragedd priod, a phartneriaid sifil); ac
(c)y person y mae paragraff (a) yn cyfeirio ato yn annibynnydd dau neu ragor o’r personau atebol,
rhaid dosrannu’r didyniad mewn perthynas â’r annibynnydd hwnnw yn gyfartal rhwng y personau atebol hynny.
(6) Rhaid peidio â gwneud unrhyw ddidyniad mewn perthynas ag annibynyddion sy’n meddiannu annedd y ceisydd os yw’r ceisydd neu bartner y ceisydd—
(a)yn ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall yn rhinwedd paragraff 20 o Atodlen 1 (amod ychwanegol ar gyfer y premiwm anabledd); neu
(b)yn cael, mewn perthynas â’r ceisydd—
(i)lwfans gweini, neu byddai’n cael y lwfans hwnnw oni bai am—
(aa)atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 113(2) o DCBNC; neu
(bb)lleihad o ganlyniad i draddodi i’r ysbyty; neu
(ii)elfen ofal y lwfans byw i’r anabl, neu byddai’n cael yr elfen honno oni bai am—
(aa)atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 113(2) o DCBNC; neu
(bb)lleihad o ganlyniad i draddodi i’r ysbyty; neu
(iii)elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol, neu byddai’n cael y lwfans hwnnw pe na bai’r budd-dal wedi ei atal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 86 o Ddeddf Diwygio Lles 2012(1) (cleifion mewnol mewn ysbyty); neu
(iv)TALlA, neu byddai’n cael y taliad hwnnw pe na bai wedi ei atal dros dro yn unol ag unrhyw delerau cynllun digolledu’r lluoedd arfog a’r lluoedd wrth gefn, sy’n caniatáu ataliad dros dro oherwydd bod person yn cael triniaeth feddygol mewn ysbyty neu sefydliad cyffelyb.
(7) Rhaid peidio â gwneud didyniad mewn perthynas ag annibynnydd—
(a)er bod yr annibynnydd hwnnw yn preswylio gyda’r ceisydd, os yw’n ymddangos i’r awdurdod, fod cartref arferol yr annibynnydd hwnnw yn rhywle arall; neu
(b)os yw’r annibynnydd yn cael lwfans hyfforddi a delir mewn cysylltiad â hyfforddiant ieuenctid a sefydlwyd o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(2) neu adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990(3); neu
(c)os yw’r annibynnydd yn fyfyriwr amser llawn o fewn yr ystyr yn Atodlen 11 (Myfyrwyr); neu
(d)os nad yw’r annibynnydd yn preswylio gyda’r ceisydd oherwydd bod yr annibynnydd wedi bod yn glaf am gyfnod hwy na 52 wythnos, ac at y dibenion hyn—
(i)mae i “claf” (“patient”) yr ystyr a roddir yn [F6rheoliad 26(6)], a
(ii)os yw person wedi bod yn glaf am ddau neu ragor o gyfnodau ar wahân, a wahenir gan un neu ragor o ysbeidiau nad oes yr un ohonynt yn hwy na 28 diwrnod, rhaid trin y person hwnnw fel pe bai wedi bod yn glaf yn barhaus am gyfnod sydd â’i hyd yn hafal i gyfanswm y cyfnodau ar wahân hynny.
(8) Rhaid peidio â gwneud didyniad mewn perthynas ag annibynnydd—
(a)sydd ar gymhorthdal incwm, credyd pensiwn y wladwriaeth, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm; neu
(b)y mae Atodlen 1 i Ddeddf 1992 yn gymwys iddo (personau a ddiystyrir at ddibenion disgownt); ond nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i annibynnydd sy’n fyfyriwr y cyfeirir ato ym mharagraff 4 o’r Atodlen honno.
(9) Wrth gymhwyso is-baragraff (2), rhaid diystyru o incwm gros wythnosol yr annibynnydd unrhyw lwfans gweini, lwfans byw i’r anabl, taliad annibyniaeth bersonol neu TALlA a dderbynnir gan yr annibynnydd.
Diwygiadau Testunol
F1Swm in Atod. 1 para. 3(1)(a) wedi ei amnewid (15.1.2014) gan Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/66), rhlau. 1, 6(a)(i)
F2Swm in Atod. 1 para. 3(1)(b) wedi ei amnewid (15.1.2014) gan Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/66), rhlau. 1, 6(a)(ii)
F3Swm in Atod. 1 para. 3(2)(a) wedi ei amnewid (15.1.2014) gan Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/66), rhlau. 1, 6(a)(iii)
F4Swms in Atod. 1 para. 3(2)(b) wedi ei amnewid (15.1.2014) gan Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/66), rhlau. 1, 6(a)(iv)
F5Swms in Atod. 1 para. 3(2)(c) wedi ei amnewid (15.1.2014) gan Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/66), rhlau. 1, 6(a)(v)
F6Geiriau yn Atod. 1 para. 3(7)(d)(i) wedi eu hamnewid (15.1.2014) gan Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/66), rhlau. 1, 6(a)(vi)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
1973 p.50; amnewidiwyd adran 2 gan adran 25 o Ddeddf Cyflogaeth 1988 (p.19) a diwygiwyd hi yn ddiweddarach gan adran 29 o Ddeddf Cyflogaeth 1989 (p.38) a Rhan 1 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno ac, mewn perthynas â’r Alban yn unig, adran 47 o Ddeddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p.19).
1990 p.35; diwygiwyd adran 2 gan adran 47 o Ddeddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p.19); erthygl 4 o O.S. 1999/1820 a pharagraff 100 o Atodlen 2 i’r offeryn hwnnw; a pharagraff 20 o Atodlen 26 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p.15).
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys