- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
2.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (4), uchafswm gostyngiad treth gyngor person mewn perthynas â diwrnod yw 100 y cant o’r swm A/B, os—
(a)A yw’r swm a bennir gan yr awdurdod fel y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol berthnasol mewn perthynas â’r annedd y mae’r person yn preswylio ynddi ac y mae’r person yn atebol amdano, yn ddarostyngedig i unrhyw ddisgownt a allai fod yn briodol i’r annedd honno o dan Ddeddf 1992; a
(b)B yw nifer y diwrnodau yn y flwyddyn ariannol honno,
llai unrhyw ddidyniadau mewn perthynas ag annibynyddion sydd i’w gwneud o dan baragraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr).
(2) Wrth gyfrifo uchafswm gostyngiad treth gyngor person o dan gynllun awdurdod, rhaid cymryd i ystyriaeth unrhyw ostyngiad yn y swm y mae’r person hwnnw’n atebol i’w dalu mewn perthynas â’r dreth gyngor a wnaed o ganlyniad i unrhyw ddeddfiad yn Neddf 1992, neu ddeddfiad a wnaed o dan y Ddeddf honno (ac eithrio gostyngiad o dan gynllun awdurdod).
(3) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), pan fo ceisydd yn atebol ar y cyd ac yn unigol am dreth gyngor mewn perthynas ag annedd y mae’r ceisydd yn preswylio ynddi ar y cyd ag un neu ragor o bersonau eraill, wrth benderfynu’r uchafswm gostyngiad treth gyngor yn achos y ceisydd yn unol ag is-baragraff (1), rhaid rhannu’r swm A gyda nifer y personau sy’n atebol ar y cyd ac yn unigol am y dreth honno.
(4) Pan fo ceisydd yn atebol ar y cyd ac yn unigol am dreth gyngor mewn perthynas ag annedd gyda phartner yn unig, nid yw is-baragraff (3) yn gymwys yn achos y ceisydd hwnnw.
(5) Nid yw’r cyfeiriad yn is-baragraff (3) at berson y mae ceisydd yn atebol ar y cyd ag ef ac yn unigol am dreth gyngor yn cynnwys myfyriwr y mae paragraff 3 o Atodlen 11 (myfyrwyr a eithrir o hawlogaeth i ostyngiad o dan gynllun awdurdod) yn gymwys iddo.
(6) Yn y paragraff hwn, ystyr “blwyddyn ariannol berthnasol” (“relevant financial year”), mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod penodol, yw’r flwyddyn ariannol y mae’r diwrnod dan sylw’n digwydd ynddi.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y paragraff hwn, y didyniadau annibynyddion mewn perthynas â diwrnod, y cyfeirir atynt ym mharagraff 2 yw—
(a)mewn perthynas ag annibynnydd 18 mlwydd oed neu’n hŷn sy’n gweithio am dâl, £10.95 x 1/7;
(b)mewn perthynas ag annibynnydd 18 mlwydd oed neu’n hŷn nad yw paragraff (a) yn gymwys iddo, £3.65 x 1/7.
(2) Yn achos annibynnydd 18 mlwydd oed neu’n hŷn y mae is-baragraff (1)(a) yn gymwys iddo, os dangosir i’r awdurdod fod incwm wythnosol gros arferol yr annibynnydd hwnnw—
(a)yn llai na £186.00, y didyniad sydd i’w wneud o dan y paragraff hwn yw’r didyniad a bennir yn is-baragraff (1)(b);
(b)yn ddim llai na £186.00 ond yn llai na £322.00, y didyniad sydd i’w wneud o dan y paragraff hwn yw £7.25 x 1/7;
(c)yn ddim llai na £322.00 ond yn llai na £401.00, y didyniad sydd i’w wneud o dan y paragraff hwn yw £9.15 x 1/7.
(3) Un didyniad yn unig sydd i’w wneud o dan y paragraff hwn mewn perthynas â chwpl neu, yn ôl fel y digwydd, mewn perthynas ag aelodau priodas amlbriod, ac os byddai’r swm y byddid yn ei ddidynnu mewn perthynas ag un aelod o gwpl neu o briodas amlbriod, oni bai am y paragraff hwn, yn uwch na’r swm (os oes swm) y byddid yn ei ddidynnu mewn perthynas â’r aelod arall, neu unrhyw aelod arall, rhaid didynnu’r swm uchaf.
(4) Wrth gymhwyso darpariaethau is-baragraff (2) yn achos cwpl, neu, yn ôl fel y digwydd, priodas amlbriod, at ddibenion yr is-baragraff hwnnw rhaid rhoi sylw i gyfanswm incwm gros wythnosol y cwpl neu, yn ôl fel y digwydd, gyfanswm incwm gros wythnosol holl aelodau’r briodas amlbriod.
(5) Mewn perthynas â diwrnod, os yw—
(a)person yn breswylydd mewn annedd, ond nad yw’r person hwnnw’n atebol am dreth gyngor mewn perthynas â’r annedd honno a’r diwrnod hwnnw;
(b)preswylwyr eraill yn yr annedd honno (y personau atebol) yn atebol ar y cyd ac yn unigol am dreth gyngor mewn perthynas â’r annedd honno a’r diwrnod hwnnw, ac eithrio yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf 1992 (atebolrwydd gwŷr priod a gwragedd priod, a phartneriaid sifil); ac
(c)y person y mae paragraff (a) yn cyfeirio ato yn annibynnydd dau neu ragor o’r personau atebol,
rhaid dosrannu’r didyniad mewn perthynas â’r annibynnydd hwnnw yn gyfartal rhwng y personau atebol hynny.
(6) Rhaid peidio â gwneud unrhyw ddidyniad mewn perthynas ag annibynyddion sy’n meddiannu annedd y ceisydd os yw’r ceisydd neu bartner y ceisydd—
(a)yn ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall yn rhinwedd paragraff 20 o Atodlen 1 (amod ychwanegol ar gyfer y premiwm anabledd); neu
(b)yn cael, mewn perthynas â’r ceisydd—
(i)lwfans gweini, neu byddai’n cael y lwfans hwnnw oni bai am—
(aa)atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 113(2) o DCBNC; neu
(bb)lleihad o ganlyniad i draddodi i’r ysbyty; neu
(ii)elfen ofal y lwfans byw i’r anabl, neu byddai’n cael yr elfen honno oni bai am—
(aa)atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 113(2) o DCBNC; neu
(bb)lleihad o ganlyniad i draddodi i’r ysbyty; neu
(iii)elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol, neu byddai’n cael y lwfans hwnnw pe na bai’r budd-dal wedi ei atal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 86 o Ddeddf Diwygio Lles 2012(1) (cleifion mewnol mewn ysbyty); neu
(iv)TALlA, neu byddai’n cael y taliad hwnnw pe na bai wedi ei atal dros dro yn unol ag unrhyw delerau cynllun digolledu’r lluoedd arfog a’r lluoedd wrth gefn, sy’n caniatáu ataliad dros dro oherwydd bod person yn cael triniaeth feddygol mewn ysbyty neu sefydliad cyffelyb.
(7) Rhaid peidio â gwneud didyniad mewn perthynas ag annibynnydd—
(a)er bod yr annibynnydd hwnnw yn preswylio gyda’r ceisydd, os yw’n ymddangos i’r awdurdod, fod cartref arferol yr annibynnydd hwnnw yn rhywle arall; neu
(b)os yw’r annibynnydd yn cael lwfans hyfforddi a delir mewn cysylltiad â hyfforddiant ieuenctid a sefydlwyd o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(2) neu adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990(3); neu
(c)os yw’r annibynnydd yn fyfyriwr amser llawn o fewn yr ystyr yn Atodlen 11 (Myfyrwyr); neu
(d)os nad yw’r annibynnydd yn preswylio gyda’r ceisydd oherwydd bod yr annibynnydd wedi bod yn glaf am gyfnod hwy na 52 wythnos, ac at y dibenion hyn—
(i)mae i “claf” (“patient”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 24(6), a
(ii)os yw person wedi bod yn glaf am ddau neu ragor o gyfnodau ar wahân, a wahenir gan un neu ragor o ysbeidiau nad oes yr un ohonynt yn hwy na 28 diwrnod, rhaid trin y person hwnnw fel pe bai wedi bod yn glaf yn barhaus am gyfnod sydd â’i hyd yn hafal i gyfanswm y cyfnodau ar wahân hynny.
(8) Rhaid peidio â gwneud didyniad mewn perthynas ag annibynnydd—
(a)sydd ar gymhorthdal incwm, credyd pensiwn y wladwriaeth, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm; neu
(b)y mae Atodlen 1 i Ddeddf 1992 yn gymwys iddo (personau a ddiystyrir at ddibenion disgownt); ond nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i annibynnydd sy’n fyfyriwr y cyfeirir ato ym mharagraff 4 o’r Atodlen honno.
(9) Wrth gymhwyso is-baragraff (2), rhaid diystyru o incwm gros wythnosol yr annibynnydd unrhyw lwfans gweini, lwfans byw i’r anabl, taliad annibyniaeth bersonol neu TALlA a dderbynnir gan yr annibynnydd.
1973 p.50; amnewidiwyd adran 2 gan adran 25 o Ddeddf Cyflogaeth 1988 (p.19) a diwygiwyd hi yn ddiweddarach gan adran 29 o Ddeddf Cyflogaeth 1989 (p.38) a Rhan 1 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno ac, mewn perthynas â’r Alban yn unig, adran 47 o Ddeddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p.19).
1990 p.35; diwygiwyd adran 2 gan adran 47 o Ddeddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p.19); erthygl 4 o O.S. 1999/1820 a pharagraff 100 o Atodlen 2 i’r offeryn hwnnw; a pharagraff 20 o Atodlen 26 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p.15).
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys