Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 09/01/2020.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Rheoliad 33(2)
1. Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw ofal plant, teithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd yn y Cynllun Peilot Gweithio Am Eich Budd-dal, ond am 52 wythnos yn unig, sy’n cychwyn gyda dyddiad cael y taliad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 10 para. 1 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
2. Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw deithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd yn y Cynllun Gweithgaredd Gwaith Gorfodol, ond am 52 wythnos yn unig, sy’n cychwyn gyda dyddiad cael y taliad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 10 para. 2 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
[F1(2A) Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw deithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd mewn cynllun a ragnodir yn rheoliad 3 o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith (Cynlluniau i Gynorthwyo Personau i Gael Cyflogaeth) 2013 ond am 52 o wythnosau yn unig gan ddechrau gyda dyddiad derbyn y taliad.]
3. Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw deithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd yn y Cynllun Cyflogaeth, Sgiliau a Menter, ond am 52 wythnos yn unig, sy’n cychwyn gyda dyddiad cael y taliad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 10 para. 3 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
4. Yr annedd ynghyd ag unrhyw garej, gardd ac adeiladau allanol, a feddiennir fel arfer gan y ceisydd fel cartref i’r ceisydd, gan gynnwys unrhyw fangre nas meddiennir felly ac y mae’n anymarferol neu’n afresymol ei gwerthu ar wahân, ond, er gwaethaf paragraff 7 o Atodlen 6 (cyfrifo incwm a chyfalaf aelodau o deulu’r ceisydd ac o briodas amlbriod), un annedd yn unig y caniateir ei diystyru o dan y paragraff hwn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 10 para. 4 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
5. Unrhyw fangre a gaffaelwyd i’w meddiannu gan y ceisydd ac y mae’r ceisydd yn bwriadu ei meddiannu fel cartref i’r ceisydd o fewn 26 wythnos ar ôl y dyddiad caffael neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i alluogi’r ceisydd i gael meddiant a dechrau meddiannu’r fangre.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 10 para. 5 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
6. Unrhyw swm sy’n briodoladwy’n uniongyrchol i dderbyniadau gwerthiant unrhyw fangre a feddiennid gynt gan y ceisydd fel cartref i’r ceisydd, ac sydd i’w ddefnyddio i brynu mangre arall y bwriedir ei meddiannu felly o fewn 26 wythnos ar ôl dyddiad y gwerthiant neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i alluogi’r ceisydd i gwblhau’r pryniant.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 10 para. 6 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
7. Unrhyw fangre a feddiennir yn gyfan gwbl neu’n rhannol—LL+C
(a)gan bartner neu berthynas ceisydd sengl neu unrhyw aelod o’r teulu fel cartref i’r person hwnnw pan fo’r person hwnnw wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth neu’n analluog;
(b)gan gyn-bartner y ceisydd fel cartref i’r person hwnnw; ond nid yw’r ddarpariaeth hon yn gymwys os yw’r cyn-bartner yn berson y mae’r ceisydd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, neu y ffurfiodd y ceisydd bartneriaeth sifil ag ef, sydd bellach wedi ei diddymu.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 10 para. 7 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
8. Pan fo ceisydd yn cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, y cyfan o gyfalaf y ceisydd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 10 para. 8 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
9. Pan fo’r ceisydd yn aelod o gwpl cyd-hawliad yn yr ystyr o “joint-claim couple” at ddibenion Deddf Ceiswyr Gwaith 1995 a phartner y ceisydd yn cael lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, y cyfan o gyfalaf y ceisydd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 10 para. 9 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
10. Unrhyw fuddiant yn y dyfodol mewn eiddo o unrhyw fath, ac eithrio tir neu fangre a osodwyd gan y ceisydd o dan brydles neu denantiaeth sy’n parhau mewn grym, gan gynnwys is-brydles neu is-denantiaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 10 para. 10 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
11.—(1) Asedau unrhyw fusnes sy’n eiddo, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, i’r ceisydd, pan fo’r ceisydd yn gweithredu fel enillydd hunangyflogedig at ddibenion y busnes hwnnw, neu, os yw’r ceisydd wedi peidio â gweithredu felly, am ba gyfnod bynnag sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i ganiatáu gwaredu unrhyw ased o’r fath.LL+C
(2) Asedau unrhyw fusnes sy’n eiddo, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, i’r ceisydd—
(a)os nad yw’r ceisydd yn gweithredu fel enillydd hunangyflogedig yn y busnes hwnnw, oherwydd rhyw glefyd neu anabledd corfforol neu feddyliol; ond
(b)bod y ceisydd yn bwriadu gweithredu, neu, yn ôl fel y digwydd, gweithredu drachefn, fel enillydd hunangyflogedig yn y busnes hwnnw cyn gynted ag y bo’n gwella neu’n alluog i weithredu neu weithredu drachefn yn y busnes hwnnw,
am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y gwneir y cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, neu y trinnir y cais fel pe bai wedi ei wneud felly, neu, os yw’n afresymol disgwyl i’r ceisydd ddechrau gweithredu neu weithredu drachefn yn y busnes hwnnw o fewn y cyfnod hwnnw, am ba bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau, i alluogi’r ceisydd i ddechrau gweithredu felly neu weithredu felly drachefn.
(3) Yn achos person sy’n cael cymorth o dan y llwybr hunangyflogaeth, yr asedau a gaffaelwyd gan y person hwnnw at y diben o sefydlu neu gyflawni’r gweithgaredd masnachol y cafwyd cymorth o’r fath mewn perthynas ag ef.
(4) Yn achos person sydd wedi peidio ymgymryd â’r gweithgaredd masnachol y cafwyd cymorth mewn perthynas ag ef fel a bennir yn is-baragraff (3), yr asedau sy’n berthynol i’r gweithgaredd hwnnw am ba gyfnod bynnag sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i ganiatáu gwaredu unrhyw ased o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 10 para. 11 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
12.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw ôl-daliad, neu unrhyw daliad consesiynol a wnaed i ddigolledu am ôl-ddyled oherwydd methiant i dalu’r canlynol—LL+C
(a)unrhyw daliad a bennir ym mharagraffau 11, 13 neu 14 o Atodlen 9;
(b)budd-dal ar sail incwm o dan Ran 7 o DCBNC;
(c)lwfans ceisio gwaith ar sail incwm;
(d)unrhyw daliad tai disgresiynol a delir yn unol â rheoliad 2(1) o Reoliadau Cymorth Ariannol Disgresiynol 2001(1);
(e)credyd treth gwaith a chredyd treth plant;
(f)lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm[F2;]
[F3(g)credyd cynhwysol,]
ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir yr ôl-daliad neu’r taliad consesiynol.
(2) Mewn achos pan fo cyfanswm unrhyw ôl-daliadau ac, os yw’n briodol, unrhyw daliad consesiynol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) mewn perthynas ag un o’r taliadau penodedig, budd-daliadau neu lwfansau, yn £5,000 neu’n fwy (y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwn ac yn is-baragraff (3) fel “y swm perthnasol”) ac—
(a)y’i talwyd er mwyn unioni neu ddigolledu am gamgymeriad swyddogol yn yr ystyr a roddir i “official error” fel y’i diffinnir gan reoliad 1(2) o Reoliadau Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor (Penderfyniadau ac Apelau) 2001 (2); a
(b)y’i cafwyd gan y ceisydd yn llawn ar neu ar ôl 14 Hydref 2001,
bydd is-baragraff (1) yn cael effaith mewn perthynas ag ôl-daliad neu daliad consesiynol o’r fath naill ai am gyfnod o 52 wythnos o’r dyddiad y’i cafwyd, neu, os ceir y cyfan o’r swm perthnasol yn ystod cyfnod dyfarniad o ostyngiad o dan gynllun awdurdod, am weddill y cyfnod hwnnw os yw’r cyfnod hwnnw’n hwy.
(3) At ddibenion is-baragraff (2), ystyr “cyfnod dyfarniad o ostyngiad o dan gynllun awdurdod” (“the period of an award of a reduction under an authority’s scheme”) yw—
(a)y dyfarniad y cafwyd y swm perthnasol ynddo gyntaf (neu ran gyntaf y swm perthnasol os telir ef mewn mwy nag un rhandaliad); a
(b)os dilynir y dyfarniad hwnnw gan un neu ragor o ddyfarniadau pellach, sy’n dechrau yn union wedi i’r dyfarniad blaenorol ddod i ben, neu sydd bob un yn dechrau yn union wedi i’r un blaenorol ddod i ben, y cyfryw ddyfarniad pellach, ar yr amod, ar gyfer y cyfryw ddyfarniad pellach, mai’r ceisydd—
(i)yw’r person a gafodd y swm perthnasol; neu
(ii)yw partner y person a gafodd y swm perthnasol, neu a oedd yn bartner y person hwnnw ar ddyddiad marwolaeth y person hwnnw.
Diwygiadau Testunol
F2Atod. 10 para. 12(1)(f): semi-colon wedi ei amnewid ar gyfer comma (15.1.2014) gan Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/66), rhlau. 1, 11(b)(i)
F3Atod. 10 para. 12(1)(g) wedi ei fewnosod (15.1.2014) gan Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/66), rhlau. 1, 11(b)(ii)
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 10 para. 12 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
13. Unrhyw swm—LL+C
(a)a delir i’r ceisydd o ganlyniad i ddifrodi neu i golli’r cartref neu unrhyw eiddo personol, ac a fwriedir ar gyfer ei atgyweirio neu’i amnewid; neu
(b)a gaffaelwyd gan y ceisydd (boed ar ffurf benthyciad neu fel arall) yn benodol ar yr amod y’i defnyddir i wneud atgyweiriadau hanfodol neu welliant i’r cartref,
a ddefnyddir at y diben a fwriedir, am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y’i talwyd neu’i caffaelwyd felly, neu am ba bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau ar gyfer cyflawni’r atgyweiriadau, yr amnewidiad neu’r gwelliant.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 10 para. 13 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
14. Unrhyw swm—LL+C
(a)a adneuwyd gyda chymdeithas dai yn yr ystyr o “housing association” fel y’i diffinnir yn adran 1(1) o Ddeddf Cymdeithasau Tai 1985(3) fel amod o feddiannu’r cartref;
(b)a adneuwyd felly ac sydd i’w ddefnyddio i brynu cartref arall,
am gyfnod o 26 wythnos neu am ba bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i alluogi’r ceisydd i gwblhau’r pryniant.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 10 para. 14 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
15. Unrhyw feddiannau personol ac eithrio rhai a gaffaelwyd gan y ceisydd gyda’r bwriad o leihau ei gyfalaf er mwyn sicrhau hawl i ostyngiad o dan gynllun awdurdod, neu gynyddu swm y gostyngiad hwnnw.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 10 para. 15 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
16. Gwerth yr hawl i gael unrhyw incwm o dan flwydd-dal neu werth ildio (os oes gwerth ildio) blwydd-dal o’r fath.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 10 para. 16 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
17. Pan fo cyllid ymddiriedolaeth yn deillio o daliad a wnaed o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd, gwerth cronfa’r ymddiriedolaeth a gwerth yr hawl i gael unrhyw daliad o dan yr ymddiriedolaeth honno.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 10 para. 17 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
18.—(1) Unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd neu bartner y ceisydd o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd neu, yn ôl fel y digwydd, partner y ceisydd.LL+C
(2) Ond—
(a)mae is-baragraff (1) yn gymwys, yn unig, am y cyfnod o 52 wythnos sy’n cychwyn gyda’r diwrnod pan fo’r ceisydd yn cael gyntaf unrhyw daliad o ganlyniad i’r niwed personol hwnnw;
(b)nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i unrhyw daliad dilynol a wneir i’r ceisydd o ganlyniad i’r niwed hwnnw (pa un a wneir y taliad gan yr un person ynteu berson arall);
(c)bydd is-baragraff (1) yn peidio â bod yn gymwys i’r taliad, neu i unrhyw ran ohono, o’r diwrnod pan na fydd y ceisydd bellach yn ei feddu;
(d)nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i unrhyw daliad gan ymddiriedolaeth pan fo cyllid yr ymddiriedolaeth yn deillio o daliad a wnaed o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd.
(3) At ddibenion is-baragraff (2)(c), mae’r amgylchiadau pan nad yw ceisydd bellach yn meddu taliad neu ran ohono yn cynnwys amgylchiad pan fo ceisydd wedi defnyddio taliad neu ran ohono i brynu ased.
(4) Rhaid dehongli cyfeiriadau yn is-baragraffau (2) a (3) at y ceisydd fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at bartner y ceisydd (pan fo’n gymwys).
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 10 para. 18 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
19. Gwerth yr hawl i gael unrhyw incwm o dan fuddiant am oes neu o dan rent am oes.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 10 para. 19 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
20. Gwerth yr hawl i gael unrhyw incwm a ddiystyrir o dan baragraff 15 o Atodlen 8 neu baragraff 29 o Atodlen 9.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 10 para. 20 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
21. Gwerth ildio unrhyw bolisi yswiriant bywyd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 10 para. 21 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
22. Pan fo unrhyw daliad o gyfalaf yn ddyladwy i’w dalu mewn rhandaliadau, gwerth yr hawl i gael y rhandaliadau sydd eto i’w talu.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 10 para. 22 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
23. Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 17, 23B, 23C neu 24A o Ddeddf Plant 1989(4) neu, yn ôl fel y digwydd, adran 12 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(5) neu adrannau 22, 29 neu 30 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(6) (darparu gwasanaethau i blant a’u teuluoedd a chyngor a chymorth i blant penodol).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 10 para. 23 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
24.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw daliad (neu ran o daliad) a wneir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 23C o Ddeddf Plant 1989 neu adran 29 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995 (dyletswydd awdurdodau lleol o hyrwyddo lles plant a phwerau i roi cymorth ariannol i bersonau sydd neu a fu yn eu gofal) i berson (“A”), ac a drosglwyddir ymlaen gan A i’r ceisydd.LL+C
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys ac eithrio pan fo A—
(a)wedi bod gynt yng ngofal y ceisydd, a
(b)yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn, ac
(c)yn parhau i fyw gyda’r ceisydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 10 para. 24 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
25. Unrhyw—LL+C
(a)taliad cronfa gymdeithasol a wnaed yn unol â Rhan 8 o DCBNC (y gronfa gymdeithasol); neu
(b)cymorth achlysurol.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 10 para. 25 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
26. Unrhyw ad-daliad o dreth sydd i’w ddidynnu o dan adran 369 o Ddeddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 1988(7) (didynnu treth o log ar fenthyciadau penodol) ar daliad o log benthyciad perthnasol at y diben o gaffael buddiant yn y cartref, neu wneud atgyweiriadau neu welliannau yn y cartref.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I26Atod. 10 para. 26 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
27. Unrhyw gyfalaf sydd i gael ei drin fel incwm yn rhinwedd paragraff 18 o Atodlen 6 (cyfalaf a drinnir fel incwm) neu baragraff 9 o Atodlen 11 (trin benthyciadau myfyriwr).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 10 para. 27 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
28. Pan wneir unrhyw daliad o gyfalaf mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, unrhyw gostau bancio neu gomisiwn sy’n daladwy am drosi’r taliad hwnnw i sterling.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I28Atod. 10 para. 28 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
29.—(1) Unrhyw daliad a wnaed o dan neu gan yr Ymddiriedolaethau, y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, y Gronfa Byw’n Annibynnol (2006), Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton, neu Gronfa Cymorth Elusennol Bomiau Llundain.LL+C
(2) Unrhyw daliad gan neu ar ran person sy’n dioddef neu a fu’n dioddef o haemoffilia, neu sydd neu a oedd yn berson cymwys, sy’n deillio o daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) ac a wneir i, neu er budd—
(a)partner neu gyn-bartner y person hwnnw nad yw wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrth y person hwnnw, neu, os bu farw’r person hwnnw, nad oedd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, neu a ffurfiodd bartneriaeth sifil gyda’r person hwnnw, nad yw wedi ei diddymu, neu, os bu farw’r person hwnnw, nad oedd wedi ei diddymu pan fu farw;
(b)unrhyw blentyn sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac y sydd yn aelod o deulu’r ceisydd; neu
(c)unrhyw berson ifanc sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac y sydd yn aelod o deulu’r ceisydd.
(3) Unrhyw daliad gan neu ar ran partner neu gyn-bartner person sy’n dioddef neu a fu’n dioddef o haemoffilia, neu sydd neu a oedd yn berson cymwys, ar yr amod nad yw’r partner neu gyn-bartner a’r person hwnnw wedi ymwahanu neu ysgaru neu, os bu farw’r naill neu’r llall, nad oeddent wedi ymwahanu neu ysgaru, neu os ffurfiodd y partner neu gyn-bartner a’r person hwnnw bartneriaeth sifil, nad yw’r bartneriaeth sifil honno wedi ei diddymu, neu os bu farw’r naill neu’r llall, nad oedd y bartneriaeth wedi ei diddymu ar adeg y farwolaeth, sy’n deillio o daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) ac a wneir i, neu er budd—
(a)y person sy’n dioddef o haemoffilia neu sy’n berson cymwys;
(b)unrhyw blentyn sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac y sydd yn aelod o deulu’r ceisydd; neu
(c)unrhyw berson ifanc sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac y sydd yn aelod o deulu’r ceisydd.
(4) Unrhyw daliad gan berson sy’n dioddef o haemoffilia neu sy’n berson cymwys, a’r taliad yn deillio o daliad o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), pan—
(a)nad oes gan y person hwnnw bartner na chyn-bartner nad yw wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, na neb y ffurfiodd bartneriaeth sifil ag ef ac na ddiddymwyd y bartneriaeth honno, nac unrhyw blentyn neu berson ifanc sydd, neu a fu, yn aelod o deulu’r person hwnnw; a
(b)gwneir y taliad naill ai—
(i)i riant neu lys-riant y person hwnnw; neu
(ii)os yw’r person hwnnw, ar y dyddiad y gwneir y taliad, yn blentyn, person ifanc neu’n fyfyriwr nad yw wedi cwblhau ei addysg amser llawn ac nad oes ganddo riant neu lys-riant, i warcheidwad y plentyn neu’r person ifanc hwnnw neu warcheidwad y myfyriwr hwnnw,
ond hynny am y cyfnod, yn unig, o’r dyddiad y gwneir y taliad hyd at ddiwedd cyfnod o ddwy flynedd ar ôl marwolaeth y person hwnnw.
(5) Unrhyw daliad allan o ystad person a oedd yn dioddef o haemoffilia neu a oedd yn berson cymwys, a’r taliad yn deillio o daliad o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), pan—
(a)nad oedd gan y person hwnnw, ar ddyddiad ei farwolaeth (y dyddiad perthnasol) bartner na chyn-bartner nad oedd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, na neb yr oedd wedi ffurfio partneriaeth sifil ag ef ac na ddiddymwyd y bartneriaeth honno, nac unrhyw blentyn neu berson ifanc a oedd, neu a oedd wedi bod, yn aelod o deulu’r person hwnnw; a
(b)gwneir y taliad naill ai—
(i)i riant neu lys-riant y person hwnnw; neu
(ii)os oedd y person hwnnw, ar y dyddiad perthnasol, yn blentyn, person ifanc neu’n fyfyriwr nad oedd wedi cwblhau ei addysg amser llawn ac nad oedd ganddo riant neu lys-riant, i warcheidwad y plentyn neu’r person ifanc hwnnw neu warcheidwad y myfyriwr hwnnw,
ond hynny am gyfnod, yn unig, o ddwy flynedd o’r dyddiad perthnasol.
(6) Yn achos person y gwneir taliad, y cyfeirir ato yn y paragraff hwn, iddo neu er ei fudd, unrhyw adnodd cyfalaf sy’n deillio o unrhyw daliad o incwm neu gyfalaf a wneir o dan, neu sy’n deillio o, unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau.
(7) At ddibenion is-baragraffau (2) i (6), rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at yr Ymddiriedolaethau fel pe bai’n cynnwys cyfeiriad at y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton, a Chronfa Cymorth Elusennol Bomiau Llundain.
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 10 para. 29 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
30.—(1) Pan fo ceisydd wedi peidio â meddiannu’r hyn a oedd gynt yn annedd a feddiennid fel y cartref, yn dilyn ymwahaniad neu ysgariad y ceisydd oddi wrth ei bartner blaenorol, neu’n dilyn diddymu partneriaeth sifil rhwng y ceisydd a’i bartner blaenorol, yr annedd honno am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y peidiodd y ceisydd â meddiannu’r annedd neu, os meddiennir yr annedd fel cartref y partner blaenorol sydd yn unig riant, cyhyd ag y’i meddiennir felly.LL+C
(2) Yn y paragraff hwn, mae “annedd” (“dwelling”) yn cynnwys unrhyw garej, gardd ac adeiladau allanol, a feddiennid gynt gan y ceisydd fel cartref i’r ceisydd, ac unrhyw fangre nas meddiennid felly, ond y byddai’n anymarferol neu’n afresymol ei gwerthu ar wahân, megis, yn benodol, yn yr Alban, unrhyw dir crofft y lleolir yr annedd arno.
Gwybodaeth Cychwyn
I30Atod. 10 para. 30 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
31. Unrhyw fangre pan fo’r ceisydd yn cymryd camau rhesymol i waredu’r fangre honno, am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y cymerodd y ceisydd y camau cyntaf o’r fath neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau, i alluogi’r ceisydd i waredu’r fangre honno.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. 10 para. 31 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
32. Unrhyw fangre y mae’r ceisydd yn bwriadu ei meddiannu fel cartref i’r ceisydd, ac y mae’r ceisydd yn cymryd camau i gael meddiant ohoni ac wedi ceisio cyngor cyfreithiol, neu wedi cychwyn achos cyfreithiol gyda’r bwriad o gael meddiant, am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y ceisiodd y ceisydd gyntaf y cyfryw gyngor neu y cychwynnodd gyntaf achos o’r fath, pa un bynnag yw’r cynharaf, neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i alluogi’r ceisydd i gael meddiant a dechrau meddiannu’r fangre.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I32Atod. 10 para. 32 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
33. Unrhyw fangre y bwriada’r ceisydd ei meddiannu fel cartref iddo ac y mae angen gwneud atgyweiriadau neu newidiadau hanfodol iddi, er mwyn iddi fod yn addas i’w meddiannu felly, am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y mae’r ceisydd yn cymryd y camau gyntaf i gyflawni’r atgyweiriadau neu’r newidiadau hynny, neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n angenrheidiol er mwyn galluogi cyflawni’r atgyweiriadau neu’r newidiadau hynny.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I33Atod. 10 para. 33 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
34. Unrhyw daliad a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol i ddigolledu am golli (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) yr hawlogaeth i gael budd-dal tai.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I34Atod. 10 para. 34 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
35. Gwerth yr hawl i gael pensiwn galwedigaethol neu bersonol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I35Atod. 10 para. 35 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
36. Gwerth unrhyw gronfeydd a ddelir o dan gynllun pensiwn personol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I36Atod. 10 para. 36 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
37. Gwerth yr hawl i gael unrhyw rent, ac eithrio pan fo gan y ceisydd fuddiant atchweliadol yn yr eiddo y mae’r rhent yn ddyladwy amdano.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I37Atod. 10 para. 37 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
38. Unrhyw daliad mewn nwyddau neu wasanaethau gan elusen neu o dan neu gan yr Ymddiriedolaethau, y Gronfa, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton neu’r Gronfa Byw’n Annibynnol (2006).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I38Atod. 10 para. 38 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
39. Unrhyw daliad a wneir yn unol ag adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(8) neu adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990(9), ond am y cyfnod o 52 wythnos yn unig, sy’n cychwyn ar y diwrnod y ceir y taliad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I39Atod. 10 para. 39 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
40. Unrhyw daliad o ganlyniad i ostyngiad o’r dreth gyngor o dan adran 13 o Ddeddf 1992, (gostyngiad atebolrwydd am dreth gyngor), ond am y cyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir y taliad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I40Atod. 10 para. 40 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
41. Unrhyw grant a wnaed yn unol â chynllun a wnaed o dan adran 129 o Ddeddf Tai 1988(10) neu adran 66 o Ddeddf Tai (Yr Alban) 1988(11) (cynlluniau ar gyfer taliadau i gynorthwyo tenantiaid awdurdodau tai lleol ac awdurdodau lleol i gael llety arall) sydd i’w ddefnyddio—LL+C
(a)i brynu mangre y bwriedir ei meddiannu fel cartref i’r ceisydd; neu
(b)i gyflawni atgyweiriadau neu newidiadau sy’n ofynnol er mwyn gwneud mangre’n addas i’w meddiannu fel cartref i’r ceisydd,
ond am y cyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y cafodd y ceisydd grant o’r fath, neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i alluogi cwblhau’r pryniant, yr atgyweirio neu’r newidiadau a galluogi’r ceisydd i ddechrau meddiannu’r fangre honno fel cartref i’r ceisydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I41Atod. 10 para. 41 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
42. Unrhyw ôl-daliad o bensiwn atodol a ddiystyrir o dan baragraff 53 o Atodlen 9 (symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion) neu o unrhyw swm a ddiystyrir o dan baragraff 54 neu 55 o’r Atodlen honno, ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir yr ôl-daliad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I42Atod. 10 para. 42 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
43.—(1) Unrhyw daliad neu ad-daliad a wneir—LL+C
(a)o ran Lloegr, o dan reoliad 5, 6 neu 12 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 2003(12) (treuliau teithio a chyflenwadau gwasanaeth iechyd);
(b)o ran Cymru, o dan reoliad 5, 6 neu 11 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007(13) (treuliau teithio a chyflenwadau gwasanaeth iechyd);
(c)o ran yr Alban, o dan reoliad 3, 5 neu 11 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Yr Alban) (Rhif 2) 2003(14) (treuliau teithio a chyflenwadau gwasanaeth iechyd),
ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir y taliad neu’r ad-daliad.
(2) Unrhyw daliad neu ad-daliad a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, Gweinidogion yr Alban neu Weinidogion Cymru sy’n gyfatebol i daliad neu ad-daliad a grybwyllir yn is-baragraff (1), ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir y taliad neu’r ad-daliad.
Gwybodaeth Cychwyn
I43Atod. 10 para. 43 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
44. Unrhyw daliad a wneir i’r cyfryw bersonau sydd â hawl i gael buddion fel y penderfynir gan neu o dan gynllun a wnaed yn unol ag adran 13 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988(15) yn lle talebau neu drefniadau cyffelyb mewn cysylltiad â darparu’r buddion hynny (gan gynnwys taliadau a wneir yn lle talebau cychwyn iach, talebau llaeth neu gyflenwi fitaminau), ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir y taliad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I44Atod. 10 para. 44 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
45. Unrhyw daliad a wneir gan naill ai’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder neu Weinidogion yr Alban o dan gynllun a sefydlwyd i gynorthwyo perthnasau a phersonau eraill i ymweld â phersonau a gedwir yn y ddalfa, ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir y taliad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I45Atod. 10 para. 45 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
46. Unrhyw daliad (ac eithrio lwfans hyfforddi) a wneir, boed gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu unrhyw berson arall, o dan Ddeddf Personau Anabl (Cyflogaeth) 1944(16) i gynorthwyo personau anabl i gael neu gadw cyflogaeth er gwaethaf eu hanabledd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I46Atod. 10 para. 46 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
47. Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 3 o Ddeddf Personau Anabl (Cyflogaeth) 1958(17) i weithwyr gartref o dan y Cynllun Gweithwyr Gartref Dall.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I47Atod. 10 para. 47 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
48.—(1) Unrhyw swm o gyfalaf y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo ac—LL+C
(a)a weinyddir ar ran person gan yr Uchel Lys neu’r Llys Sirol o dan Reol 21.11(1) o Reolau Trefniadaeth Sifil 1998(18) neu gan y Llys Gwarchod;
(b)na ellir ei waredu ac eithrio drwy orchymyn neu gyfarwyddyd unrhyw lys o’r fath; neu
(c)pan fo’r person dan sylw o dan 18 mlwydd oed, na ellir ei waredu ac eithrio drwy orchymyn neu gyfarwyddyd, cyn bo’r person hwnnw’n cyrraedd 18 mlwydd oed.
(2) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i swm o gyfalaf sy’n deillio o—
(a)dyfarniad o iawndal am niwed personol i’r person hwnnw; neu
(b)digollediad am farwolaeth un neu’r ddau riant pan fo’r person dan sylw o dan 18 mlwydd oed.
Gwybodaeth Cychwyn
I48Atod. 10 para. 48 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
49. Unrhyw swm o gyfalaf a weinyddir ar ran person yn unol â gorchymyn a wneir o dan adran 13 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995, neu o dan Reol 36.14 o Ddeddf Sesiwn (Rheolau Achosion Cyffredin Llysoedd Siryf) 1993(19) neu o dan Reol 128 o’r Rheolau hynny, pan fo’r cyfryw swm yn deillio o—LL+C
(a)dyfarniad o iawndal am niwed personol i’r person hwnnw; neu
(b)digollediad am farwolaeth un neu’r ddau riant pan fo’r person dan sylw o dan 18 mlwydd oed.
Gwybodaeth Cychwyn
I49Atod. 10 para. 49 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
50. Unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd fel deiliad Croes Fictoria neu Groes Siôr.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I50Atod. 10 para. 50 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
51. Yn achos person sy’n cael, neu sydd wedi cael, cymorth o dan y llwybr hunangyflogaeth, unrhyw swm o gyfalaf a gaffaelir gan y person hwnnw at y diben o sefydlu neu gyflawni’r gweithgaredd masnachol y ceir neu y cafwyd cymorth o’r fath mewn perthynas ag ef ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y caffaelwyd y swm hwnnw.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I51Atod. 10 para. 51 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
52.—(1) Unrhyw daliad o ddyfarniad chwaraeon am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y cafwyd y taliad hwnnw ac eithrio i’r graddau y’i gwnaed mewn perthynas ag un neu ragor o’r eitemau a bennir yn is-baragraff (2).LL+C
(2) Yr eitemau a bennir at ddibenion is-baragraff (1) yw bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd cartref neu rent y ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o deulu, unrhyw aelod arall o deulu’r ceisydd, neu unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd neu’r aelod hwnnw’n atebol amdanynt.
(3) At ddibenion is-baragraff (2) nid yw “bwyd” (“food”) yn cynnwys fitaminau, mwynau neu atchwanegiadau dietegol arbennig eraill a fwriedir ar gyfer gwella perfformiad y person yn y gamp y gwnaed y dyfarniad mewn perthynas â hi.
Gwybodaeth Cychwyn
I52Atod. 10 para. 52 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
53.—(1) Unrhyw daliad—LL+C
(a)ar ffurf lwfans cynhaliaeth addysg a wnaed yn unol ag—
(i)rheoliadau a wnaed o dan adran 518 o Ddeddf Addysg 1996(20);
(ii)rheoliadau a wnaed o dan adran 49 neu 73(f) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(21);
(iii)cyfarwyddiadau a wnaed o dan adran 73ZA o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980 ac a dalwyd o dan adran 12(2)(c) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Yr Alban) 1992(22);
(b)cyfatebol i lwfans cynhaliaeth addysg o’r fath, a wnaed yn unol ag—
(i)adran 14 neu adran 181 o Ddeddf Addysg 2002(23) (pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru i roi cymorth ariannol at ddibenion sy’n ymwneud ag addysg neu ofal plant, a lwfansau mewn perthynas ag addysg neu hyfforddiant); neu
(ii)rheoliadau a wnaed o dan adran 181 o’r Ddeddf honno; neu
(c)yng Nghymru a Lloegr, ar ffurf cymorth ariannol a roddir yn unol ag adran 14 o Ddeddf Addysg 2002.
(2) Unrhyw daliad, ac eithrio taliad y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo, a wnaed yn unol ag—
(a)rheoliadau a wnaed o dan adran 518 o Ddeddf Addysg 1996;
(b)rheoliadau a wnaed o dan adran 49 o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980; neu
(c)cyfarwyddiadau a wnaed o dan adran 73ZA o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980 ac a dalwyd o dan adran 12(2)(c) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Yr Alban) 1992,
mewn perthynas â chwrs astudio a ddilynir gan blentyn neu berson ifanc neu berson sy’n cael lwfans cynhaliaeth addysg neu daliad arall a wnaed yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a bennir yn is-baragraff (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I53Atod. 10 para. 53 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
54. Yn achos ceisydd sy’n cymryd rhan mewn rhaglen parth cyflogaeth, unrhyw daliad disgresiynol a wneir gan gontractwr parth cyflogaeth i’r ceisydd, boed ar ffurf ffi, grant, benthyciad neu rywfodd arall, ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir y taliad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I54Atod. 10 para. 54 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
55. Unrhyw ôl-daliad o lwfans cynhaliaeth a delir fel cyfandaliad, ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir y taliad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I55Atod. 10 para. 55 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
56. Pan fo taliad ex gratia o £10,000 wedi ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar neu ar ôl 1 Chwefror 2001 o ganlyniad i garcharu neu gaethiwo—LL+C
(a)y ceisydd;
(b)partner y ceisydd;
(c)priod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig y ceisydd; neu
(d)priod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig partner y ceisydd,
gan y Japaneaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd, £10,000.
Gwybodaeth Cychwyn
I56Atod. 10 para. 56 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
57.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), swm unrhyw daliad ymddiriedolaeth a wneir i geisydd neu aelod o deulu’r ceisydd sydd yn—LL+C
(a)person â diagnosis;
(b)partner i berson â diagnosis, neu’r person a oedd yn bartner i berson â diagnosis ar y dyddiad y bu farw’r person â diagnosis;
(c)rhiant person â diagnosis, person yn gweithredu yn lle rhieni’r person â diagnosis, neu berson a oedd yn gweithredu felly ar ddyddiad marwolaeth y person â diagnosis; neu
(d)aelod o deulu’r person â diagnosis (ac eithrio partner y person hwnnw) neu berson a oedd yn aelod o deulu’r person â diagnosis (ac eithrio partner y person hwnnw) ar ddyddiad marwolaeth y person â diagnosis.
(2) Pan wneir taliad ymddiriedolaeth i—
(a)person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(a) neu (b), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad ymddiriedolaeth ac yn diweddu ar ddyddiad marwolaeth y person hwnnw;
(b)person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(c), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad ymddiriedolaeth ac yn diweddu ddwy flynedd ar ôl y dyddiad hwnnw;
(c)person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(d), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad ymddiriedolaeth ac yn diweddu—
(i)dwy flynedd ar ôl y dyddiad hwnnw; neu
(ii)ar y diwrnod cyn y diwrnod y bydd y person hwnnw—
(aa)yn peidio â chael addysg amser llawn; neu
(bb)yn cyrraedd 20 mlwydd oed,
pa un bynnag yw’r diweddaraf.
(3) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), swm unrhyw daliad gan berson y gwnaed taliad ymddiriedolaeth iddo neu unrhyw daliad allan o ystad person y gwnaed taliad ymddiriedolaeth iddo, a wneir i geisydd neu aelod o deulu’r ceisydd sydd—
(a)yn bartner y person â diagnosis neu’n berson a oedd yn bartner y person â diagnosis ar y dyddiad y bu farw’r person â diagnosis;
(b)yn rhiant person â diagnosis, person yn gweithredu yn lle rhieni’r person â diagnosis, neu berson a oedd yn gweithredu felly ar ddyddiad marwolaeth y person â diagnosis; neu
(c)yn aelod o deulu’r person â diagnosis (ac eithrio partner y person hwnnw) neu’n berson a oedd yn aelod o deulu’r person â diagnosis (ac eithrio partner y person hwnnw) ar y dyddiad y bu farw’r person â diagnosis,
ond i’r graddau, yn unig, na fydd taliadau o’r fath yn fwy na chyfanswm unrhyw daliadau ymddiriedolaeth a wnaed i’r person hwnnw.
(4) Pan wneir taliad o’r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (3) i—
(a)person y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(a), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad hwnnw ac yn diweddu ar ddyddiad marwolaeth y person hwnnw;
(b)person y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(b), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad hwnnw ac yn diweddu ddwy flynedd ar ôl y dyddiad hwnnw; neu
(c)person y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(c), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad hwnnw ac yn diweddu—
(i)dwy flynedd ar ôl y dyddiad hwnnw; neu
(ii)ar y diwrnod cyn y diwrnod y bydd y person hwnnw—
(aa)yn peidio â chael addysg amser llawn; neu
(bb)yn cyrraedd 20 mlwydd oed,
pa un bynnag yw’r diweddaraf.
(5) Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriad at berson—
(a)sy’n bartner y person â diagnosis;
(b)sy’n aelod o deulu’r person â diagnosis;
(c)yn gweithredu yn lle rhieni’r person â diagnosis,
ar ddyddiad marwolaeth y person â diagnosis yn cynnwys person a fyddai wedi bod yn berson o’r fath neu’n berson a fyddai’n gweithredu felly, pe na bai’r person â diagnosis yn preswylio mewn cartref gofal, cartref Abbeyfield neu ysbyty annibynnol ar y dyddiad hwnnw.
(6) In y paragraff hwn—
ystyr “person â diagnosis” (“diagnosed person”) yw person y gwnaed diagnosis ei fod yn dioddef o glefyd amrywiolyn Creutzfeldt-Jakob, neu y gwnaed diagnosis ar ôl marwolaeth y person hwnnw ei fod wedi dioddef o’r clefyd hwnnw;
ystyr “ymddiriedolaeth berthnasol” (“relevant trust”) yw ymddiriedolaeth a sefydlwyd gyda chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â phersonau a oedd yn dioddef, neu sydd yn dioddef, o glefyd amrywiolyn Creutzfeldt-Jakob, er budd personau sy’n gymwys i gael taliadau yn unol â’i darpariaethau;
ystyr “taliad ymddiriedolaeth” (“trust payment”) yw taliad o dan ymddiriedolaeth berthnasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I57Atod. 10 para. 57 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
58. Swm unrhyw daliad, ac eithrio pensiwn rhyfel, a wneir i ddigolledu oherwydd bod y ceisydd, partner y ceisydd, priod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig y ceisydd neu briod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig partner y ceisydd—LL+C
(a)wedi bod yn gaeth lafurwr neu’n llafurwr dan orfodaeth;
(b)wedi dioddef colled eiddo neu wedi dioddef niwed personol; neu
(c)yn rhiant plentyn a fu farw,
yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Gwybodaeth Cychwyn
I58Atod. 10 para. 58 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
59. Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol neu gan Weinidogion Cymru, i neu ar ran y ceisydd neu bartner y ceisydd mewn perthynas â gwasanaeth a ddarperir i ddatblygu neu gynnal gallu’r ceisydd neu bartner y ceisydd i fyw’n annibynnol yn llety’r ceisydd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I59Atod. 10 para. 59 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
60. Unrhyw daliad a wneir o dan reoliadau a wnaed o dan adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001(24), neu [F4ar ffurf taliad uniongyrchol fel y’i diffinnir yn adran 4(2) o Ddeddf Gofal Cymdeithasol (Cymorth Hunangyfeiriedig) (Yr Alban) 2013], neu o dan adrannau 12A i 12D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(25) (taliadau uniongyrchol am ofal iechyd).LL+C
Diwygiadau Testunol
F4Geiriau yn Atod. 10 para. 60 wedi eu hamnewid (1.4.2014) gan The Social Care (Self-directed Support) (Scotland) Act 2013 (Consequential Modifications and Savings) Order 2014 (O.S. 2014/513), ergl. 1(2), Atod. para. 25(4)(b) (ynghyd ag ergl. 3)
Gwybodaeth Cychwyn
I60Atod. 10 para. 60 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
61. Unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd yn unol â rheoliadau o dan adran 2(6)(b), 3 neu 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(26).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I61Atod. 10 para. 61 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
62. Unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd yn unol â rheoliadau a wnaed yn unol ag adran 14F o Ddeddf Plant 1989 (gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I62Atod. 10 para. 62 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
[F563. Unrhyw daliad a wneir gan y Trysorlys i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd o dan Reoliadau Taliadau ar Sail Oed 2013 (Equitable Life) fel derbynnydd blwydd-dal Equitable Life cymwys.]LL+C
Diwygiadau Testunol
1988 p.7 .
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys