Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

48.—(1Unrhyw swm o gyfalaf y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo ac—LL+C

(a)a weinyddir ar ran person gan yr Uchel Lys neu’r Llys Sirol o dan Reol 21.11(1) o Reolau Trefniadaeth Sifil 1998(1) neu gan y Llys Gwarchod;

(b)na ellir ei waredu ac eithrio drwy orchymyn neu gyfarwyddyd unrhyw lys o’r fath; neu

(c)pan fo’r person dan sylw o dan 18 mlwydd oed, na ellir ei waredu ac eithrio drwy orchymyn neu gyfarwyddyd, cyn bo’r person hwnnw’n cyrraedd 18 mlwydd oed.

(2Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i swm o gyfalaf sy’n deillio o—

(a)dyfarniad o iawndal am niwed personol i’r person hwnnw; neu

(b)digollediad am farwolaeth un neu’r ddau riant pan fo’r person dan sylw o dan 18 mlwydd oed.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 10 para. 48 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)