Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Rheoliad 31(3)

ATODLEN 11Myfyrwyr

RHAN 1Cyffredinol

Dehongli

1.—(1Yn yr Atodlen hon—

ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis sy’n cychwyn ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi, yn ôl pa un a yw’r cwrs dan sylw’n cychwyn yn y gaeaf, y gwanwyn, yr haf ynteu’r hydref, yn eu trefn; ond os gwneir yn ofynnol bod myfyrwyr yn dechrau mynychu eu cwrs yn Awst neu Fedi a pharhau i’w fynychu drwy gydol yr hydref, ystyrir bod blwyddyn academaidd y cwrs hwnnw’n cychwyn yn yr hydref yn hytrach na’r haf;

ystyr “cronfeydd mynediad” (“access funds”) yw—

(a)

grantiau a roddir o dan adran 68 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(1) at y diben o ddarparu cyllid i’w dalu ar sail ddisgresiynol i fyfyrwyr;

(b)

grantiau a roddir o dan adrannau 73(a) ac (c) a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(2);

(c)

grantiau a roddir o dan erthygl 30 o Orchymyn Addysg a Llyfrgelloedd (Gogledd Iwerddon) 1993(3) neu grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill a wneir o dan erthygl 5 o Orchymyn Addysg Bellach (Gogledd Iwerddon) 1997(4) sef, ym mhob achos, grantiau, neu grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill, yn ôl fel y digwydd, at y diben o gynorthwyo myfyrwyr sydd mewn anawsterau ariannol;

(d)

taliadau disgresiynol a elwir “cronfeydd cymorth i ddysgwyr”, a roddir ar gael i fyfyrwyr addysg bellach gan sefydliadau, allan o gyllid a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Lloegr neu Weinidogion Cymru o ran Cymru o dan adran 14 o Ddeddf Addysg 2002(5) neu Brif Weithredwr Ariannu Sgiliau o dan adrannau 100 a 101 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009(6); neu

(e)

Cronfeydd Ariannol Wrth Gefn a roddir ar gael gan Weinidogion Cymru;

mae i “coleg addysg bellach” yr ystyr a roddir i “college of further education” gan Ran 1 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Yr Alban) 1992(7);

ystyr “cyfraniad” (“contribution”) yw—

(a)

unrhyw gyfraniad mewn perthynas ag incwm myfyriwr neu unrhyw berson y mae’r Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion Cymru, Gweinidogion yr Alban neu awdurdod addysg yn ei gymryd i ystyriaeth wrth ganfod swm grant myfyriwr neu fenthyciad myfyriwr; neu

(b)

unrhyw symiau, a gymerir i ystyriaeth gan Weinidogion yr Alban neu awdurdod addysg wrth benderfynu swm lwfans neu fwrsari myfyriwr yn yr Alban o dan Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980, sef symiau y mae Gweinidogion yr Alban neu awdurdod addysg o’r farn y byddai’n rhesymol i’r personau canlynol eu cyfrannu tuag at dreuliau’r deiliad—

(i)

deiliad y lwfans neu fwrsari;

(ii)

rhieni’r deiliad;

(iii)

priod neu bartner sifil rhiant y deiliad, neu berson sydd fel arfer yn byw gyda rhiant y deiliad fel pe bai’r person hwnnw’n briod neu’n bartner sifil y rhiant hwnnw; neu

(iv)

priod neu bartner sifil y deiliad;

ystyr “cwrs astudio” (“course of study”) yw unrhyw gwrs astudio, boed yn gwrs rhyngosod ai peidio a pha un a roddir grant am fynychu neu ymgymryd â’r cwrs ai peidio;

ystyr “incwm cyfamod” (“covenant income”) yw’r incwm gros sy’n daladwy i fyfyriwr amser llawn o dan Weithred Cyfamod gan riant y myfyriwr hwnnw;

ystyr “awdurdod addysg” (“education authority”) yw adran llywodraeth, awdurdod lleol yn yr ystyr a roddir i “local authority” fel y’i diffinnir gan adran 579 o Ddeddf Addysg 1996(8) (dehongli), awdurdod addysg lleol yn yr ystyr a roddir i “local education authority” fel y’i diffinnir gan adran 123 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1973(9), bwrdd addysg a llyfrgelloedd yn yr ystyr a roddir i “education and library board” a sefydlwyd o dan erthygl 3 o Orchymyn Addysg a Llyfrgelloedd (Gogledd Iwerddon) 1986(10), unrhyw gorff sy’n gyngor ymchwil yn yr ystyr a roddir i “research council” at ddibenion Deddf Gwyddoniaeth a Thechnoleg 1965(11) neu unrhyw adran llywodraeth, awdurdod, bwrdd neu gorff cyfatebol o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu unrhyw wlad arall y tu allan i Brydain Fawr;

ystyr “cwrs astudio amser llawn” (“full-time course of study”) yw cwrs astudio amser llawn—

(a)

nas cyllidir yn gyfan gwbl nac yn rhannol gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Lloegr neu Weinidogion Cymru o ran Cymru o dan adran 14 o Ddeddf Addysg 2002 neu Brif Weithredwr Ariannu Sgiliau, neu gwrs astudio amser llawn nas cyllidir yn gyfan gwbl nac yn rhannol gan Weinidogion yr Alban mewn coleg addysg bellach, neu gwrs astudio amser llawn sy’n gwrs o addysg uwch ac a gyllidir yn gyfan gwbl neu’n rhannol gan Weinidogion yr Alban;

(b)

a gyllidir yn gyfan gwbl neu’n rhannol gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Lloegr neu Weinidogion Cymru o ran Cymru o dan adran 14 o Ddeddf Addysg 2002 neu Brif Weithredwr Ariannu Sgiliau os yw’n cynnwys mwy nag 16 o oriau dysgu dan arweiniad bob wythnos i’r myfyriwr dan sylw, yn ôl y nifer o oriau dysgu dan arweiniad bob wythnos ar gyfer y myfyriwr hwnnw a bennir—

(i)

yn achos cwrs a gyllidir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 14 o Ddeddf Addysg 2002 neu Brif Weithredwr Ariannu Sgiliau, yng nghytundeb dysgu’r myfyriwr hwnnw a lofnodwyd ar ran y sefydliad a gyllidir gan y naill neu’r llall o’r personau hynny i gyflenwi’r cwrs hwnnw; neu

(ii)

yn achos cwrs a gyllidir gan Weinidogion Cymru, mewn dogfen a lofnodir ar ran y sefydliad a gyllidir gan Weinidogion Cymru i gyflenwi’r cwrs hwnnw; neu

(c)

nad yw’n addysg uwch, a gyllidir yn gyfan gwbl neu’n rhannol gan Weinidogion yr Alban mewn coleg addysg bellach, ac sy’n cynnwys—

(i)

mwy nag 16 awr yr wythnos o ddysgu rhaglenedig mewn ystafell ddosbarth neu ar ffurf gweithdai o dan arweiniad uniongyrchol staff addysgu, yn unol â’r nifer o oriau a bennir mewn dogfen a lofnodir ar ran y coleg; neu

(ii)

16 awr neu lai bob wythnos o ddysgu rhaglenedig mewn ystafell ddosbarth neu ar ffurf gweithdai o dan arweiniad uniongyrchol staff addysgu, ac oriau ychwanegol o ddefnyddio pecynnau dysgu strwythuredig gyda chymorth gan y staff addysgu, a’r cyfanswm oriau yn fwy nag 21 awr yr wythnos ac yn unol â’r nifer o oriau a bennir mewn dogfen a lofnodir ar ran y coleg;

ystyr “myfyriwr amser llawn” (“full-time student”) yw person sy’n mynychu neu’n ymgymryd â chwrs astudio amser llawn, ac mae’n cynnwys myfyriwr ar gwrs rhyngosod;

ystyr “grant” (“grant”) (ac eithrio yn y diffiniad o “cronfeydd mynediad”) yw unrhyw fath o grant neu ddyfarniad addysgol, gan gynnwys unrhyw ysgoloriaeth, ysgoloriaeth ymchwil, arddangostal, lwfans neu fwrsari, ond nid yw’n cynnwys taliad o gronfeydd mynediad nac unrhyw daliad y mae paragraff 16 o Atodlen 9 neu baragraff 53 o Atodlen 10 yn gymwys iddo;

ystyr “incwm grant” (“grant income”) yw—

(a)

unrhyw incwm ar ffurf grant;

(b)

unrhyw gyfraniad, pa un a delir y cyfraniad ai peidio;

mae i “addysg uwch” yr ystyr a roddir i “higher education” gan Ran 2 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Yr Alban) 1992;

ystyr “diwrnod olaf y cwrs” (“last day of the course”) yw—

(a)

yn achos cwrs cymwys, yw naill ai dyddiad diwrnod olaf y cwrs neu’r dyddiad y cwblheir yr arholiad terfynol mewn perthynas â’r cwrs hwnnw, pa un bynnag yw’r diweddaraf;

(b)

mewn unrhyw achos arall, dyddiad diwrnod olaf tymor academaidd terfynol y cwrs y cofrestrwyd y myfyriwr arno;

ystyr “cyfnod astudio” (“period of study”) yw—

(a)

yn achos cwrs astudio am un flwyddyn neu lai, y cyfnod sy’n cychwyn gyda dechrau’r cwrs ac yn diweddu gyda diwrnod olaf y cwrs;

(b)

yn achos cwrs astudio am fwy nag un flwyddyn, yn y flwyddyn gyntaf neu, yn ôl fel y digwydd, unrhyw flwyddyn ddilynol y cwrs ac eithrio blwyddyn derfynol y cwrs, y cyfnod sy’n cychwyn gyda dechrau’r cwrs neu, yn ôl fel y digwydd, dechrau’r flwyddyn honno ac yn diweddu gyda naill ai—

(i)

y diwrnod cyn dechrau blwyddyn nesaf y cwrs mewn achos pan asesir grant neu fenthyciad y myfyriwr ar gyfradd sy’n briodol i fyfyriwr yn astudio drwy gydol y flwyddyn, neu, os nad oes gan y myfyriwr grant neu fenthyciad, pan fyddid wedi asesu benthyciad ar gyfradd o’r fath pe bai gan y myfyriwr hwnnw fenthyciad; neu

(ii)

mewn unrhyw achos arall, y diwrnod cyn dechrau’r gwyliau haf arferol sy’n briodol i gwrs y myfyriwr;

(c)

ym mlwyddyn derfynol cwrs astudio o fwy nag un flwyddyn, y cyfnod sy’n cychwyn gyda dechrau’r flwyddyn honno ac yn diweddu gyda diwrnod olaf y cwrs;

ystyr “cyfnodau o brofiad” (“periods of experience”) yw cyfnodau o brofiad gwaith sy’n ffurfio rhan o gwrs rhyngosod;

mae i “cwrs cymwys” yr ystyr a roddir i “qualifying course” fel y’i diffinnir at ddibenion Rhannau 2 a 4 o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996(12);

mae i “cwrs rhyngosod” yr ystyr a ragnodir ar gyfer “sandwich course” yn rheoliad 2(10) o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2011(13), rheoliad 2(6) o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2012(14), rheoliad 4(2) o Reoliadau Addysg (Benthyciadau Myfyriwr) (Yr Alban) 2007(15) neu reoliad 2(10) o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) (Gogledd Iwerddon) 2009(16), yn ôl fel y digwydd;

ystyr “grant cynhaliaeth safonol” (“standard maintenance grant”) yw—

(a)

ac eithrio pan fo paragraff (b) neu (c) yn gymwys, yn achos myfyriwr sy’n mynychu neu’n ymgymryd â chwrs astudio ym Mhrifysgol Llundain neu sefydliad o fewn yr ardal a gyfansoddir o Ddinas Llundain a’r Dosbarth Heddlu Metropolitan, y swm a bennir am y tro ym mharagraff 2(2)(a) o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003(17) (“Rheoliadau 2003”) ar gyfer myfyriwr o’r fath;

(b)

ac eithrio pan fo paragraff (c) yn gymwys, yn achos myfyriwr sy’n preswylio yng nghartref rhiant y myfyriwr hwnnw, y swm a bennir ym mharagraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau 2003;

(c)

yn achos myfyriwr sy’n cael lwfans neu fwrsari o dan Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980, y swm o arian a bennir fel y “standard maintenance allowance” am y flwyddyn berthnasol briodol i’r myfyriwr a bennir yn y Student Support in Scotland Guide a ddyroddir gan Asiantaeth Dyfarniadau Myfyrwyr yr Alban, neu’r hyn sy’n cyfateb agosaf yn achos bwrsari a ddarperir gan goleg addysg bellach neu awdurdod addysg lleol;

(d)

mewn unrhyw achos arall, y swm a bennir ym mharagraff 2(2) o Atodlen 2 i Reoliadau 2003 ac eithrio’r symiau a bennir yn is-baragraff (2)(a) neu (b) o’r paragraff hwnnw;

ystyr “myfyriwr” (“student”) yw person, ac eithrio person sy’n cael lwfans hyfforddi, sy’n mynychu neu’n ymgymryd ag—

(a)

cwrs astudio mewn sefydliad addysgol; neu

(b)

cwrs cymwys;

ystyr “benthyciad myfyriwr” (“student loan”) yw benthyciad tuag ar gynhaliaeth myfyriwr yn unol ag unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(18), adran 73 o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980 neu erthygl 3 o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(19) ac mae’n cynnwys, yn yr Alban, bwrsari myfyriwr ifanc a delir o dan reoliad 4(1)(c) o Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr (Yr Alban) 2007(20).

(2At ddibenion y diffiniad o “myfyriwr amser llawn” yn is-baragraff (1), rhaid ystyried bod person yn mynychu neu, yn ôl fel y digwydd, yn ymgymryd â chwrs astudio amser llawn, neu ei fod ar gwrs rhyngosod—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), yn achos person sy’n mynychu neu’n ymgymryd â rhan o gwrs modiwlaidd a fyddai’n gwrs astudio amser llawn at ddibenion y Rhan hon, am y cyfnod sy’n cychwyn ar y diwrnod y mae’r rhan honno o’r cwrs yn dechrau ac yn diweddu—

(i)ar y diwrnod olaf y mae’r person wedi ei gofrestru gyda’r sefydliad addysgol fel un sy’n mynychu neu’n ymgymryd â’r rhan honno fel cwrs astudio amser llawn; neu

(ii)ar ba bynnag ddyddiad cynharach (os oes un) pan fo’r person yn gadael y cwrs yn derfynol neu’n cael ei ddiarddel ohono;

(b)mewn unrhyw achos arall, drwy gydol y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad pan fo’r person yn dechrau mynychu neu ymgymryd â’r cwrs ac yn diweddu ar ddiwrnod olaf y cwrs neu ar ba bynnag ddyddiad cynharach (os oes un) pan fo’r person yn gadael y cwrs yn derfynol neu’n cael ei ddiarddel ohono.

(3At ddibenion paragraff (a) o is-baragraff (2), mae’r cyfnod y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw’n cynnwys—

(a)pan fo person wedi methu arholiadau neu wedi methu â chwblhau’n llwyddiannus fodiwl a berthynai i gyfnod pan oedd y person yn mynychu neu’n ymgymryd â rhan o’r cwrs fel cwrs astudio amser llawn, unrhyw gyfnod yr oedd y person yn mynychu neu’n ymgymryd â’r cwrs mewn perthynas ag ef at y diben o ailsefyll yr arholiadau hynny neu’r modiwl hwnnw;

(b)unrhyw gyfnod o wyliau o fewn y cyfnod a bennir yn y paragraff hwnnw neu sy’n dilyn yn union ar ôl y cyfnod hwnnw, ac eithrio pan fo’r person wedi cofrestru gyda’r sefydliad addysgol i fynychu neu ymgymryd â’r modiwl terfynol yn y cwrs hwnnw, a’r gwyliau hynny yn dilyn yn union ar ôl y diwrnod olaf pan yw’n ofynnol i’r person fynychu neu ymgymryd â’r cwrs.

(4Yn is-baragraff (2), ystyr “cwrs modiwlaidd” (“modular course”) yw cwrs astudio sy’n cynnwys dau neu ragor o fodiwlau, y mae’n ofynnol bod person wedi cwblhau nifer penodedig ohonynt yn llwyddiannus cyn y bydd y sefydliad addysgol yn ystyried bod y person hwnnw wedi cwblhau’r cwrs.

Trin myfyrwyr

2.  Rhaid i gynllun awdurdod gael effaith mewn perthynas â myfyrwyr yn ddarostyngedig i reoliad 31 (personau a eithrir o gynllun awdurdod: myfyrwyr) a darpariaethau canlynol yr Atodlen hon.

Myfyrwyr a eithrir o’r hawlogaeth i gael gostyngiad treth gyngor o dan gynllun awdurdod

3.—(1Y myfyrwyr a eithrir o’r hawlogaeth i gael gostyngiad treth gyngor o dan gynllun awdurdod yw’r canlynol—

(a)myfyrwyr sy’n bensiynwyr; a

(b)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (7)—

(i)myfyrwyr amser llawn, a

(ii)myfyrwyr sy’n bersonau a drinnir fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr.

(2Nid yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys i fyfyriwr—

(a)sy’n berson sy’n cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm;

(b)sy’n unig riant;

(c)y byddai ei swm cymwysadwy, oni bai am y paragraff hwn, yn cynnwys y premiwm anabledd neu’r premiwm anabledd difrifol;

(d)y byddai ei swm cymwysadwy, yn cynnwys y premiwm anabledd pe na bai’r myfyriwr yn cael ei drin fel pe bai’n alluog i weithio yn rhinwedd penderfyniad a wnaed yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 171E o DCBNC;

(e)sydd yn analluog i weithio, neu’n cael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio, ac wedi bod yn analluog felly neu’n cael ei drin felly yn unol â darpariaethau Rhan 12A o DCBNC (analluedd i weithio) a rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno am gyfnod di-dor o ddim llai na 196 diwrnod; ac at y diben hwn rhaid trin unrhyw ddau neu ragor o gyfnodau ar wahân, a wahenir gan doriad o ddim mwy na 56 diwrnod fel un cyfnod di-dor;

(f)sydd â’i alluedd ar gyfer gwaith yn gyfyngedig, neu a drinnir ef fel pe bai ei alluedd ar gyfer gwaith yn gyfyngedig, ac y bu ganddo, neu y triniwyd ef fel pe bai ganddo, alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith yn unol â Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008(21) am gyfnod di-dor o ddim llai na 196 diwrnod; ac at y diben hwn rhaid trin unrhyw ddau neu ragor o gyfnodau ar wahân a wahenir gan doriad o ddim mwy na 84 diwrnod fel un cyfnod di-dor;

(g)sydd â phartner sydd hefyd yn fyfyriwr amser llawn, os trinnir y myfyriwr neu’r partner hwnnw fel pe bai’n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc;

(h)sy’n geisydd sengl y lleolwyd plentyn gydag ef gan awdurdod lleol neu gorff gwirfoddol o fewn yr ystyr a roddir i “placed” gan Ddeddf Plant 1989(22) neu, yn yr Alban, wedi ei letya gydag ef yn yr ystyr a roddir i “boarded out” gan Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(23);

(i)sydd—

(i)o dan 21 mlwydd oed ac nad yw ei gwrs astudio yn gwrs addysg uwch,

(ii)yn 21 mlwydd oed ac wedi cyrraedd yr oedran hwnnw yn ystod cwrs astudio nad yw’n gwrs addysg uwch, neu

(iii)yn berson ifanc cymwys neu’n blentyn yn yr ystyron a roddir, yn eu trefn, i “qualifying young person” a “child” gan adran 142 o DCBNC (plentyn a pherson ifanc cymwys);

(j)os, mewn perthynas ag ef—

(i)penderfynwyd ar ofyniad atodol yn yr ystyr a roddir i “supplementary requirement” o dan baragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003;

(ii)rhoddwyd lwfans neu, yn ôl fel y digwydd, bwrsari, sy’n cynnwys swm o dan reoliad 4 o Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr (Yr Alban) 2007 neu, yn ôl fel y digwydd, o dan Reoliadau Awdurdodau Addysg (Bwrsariaethau) (Yr Alban) 2007(24), mewn perthynas â threuliau a dynnir;

(iii)gwnaed taliad o dan adran 2 o Ddeddf Addysg 1962(25) neu o dan neu yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

(iv)rhoddwyd grant o dan reoliad 13 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005(26), rheoliad 13 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 2000(27), neu reoliad 41 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) (Gogledd Iwerddon) 2009; neu

(v)penderfynwyd ar ofyniad atodol yn yr ystyr a roddir i “supplementary requirement” o dan baragraff 9 o Atodlen 6 i Reoliadau Dyfarniadau Myfyrwyr (Gogledd Iwerddon) 2003(28) neu gwnaed taliad o dan erthygl 50(3) o Orchymyn Addysg a Llyfrgelloedd (Gogledd Iwerddon) 1986,

o ganlyniad i anabledd y myfyriwr oherwydd byddardod.

(3Mae is-baragraff (2)(i)(ii) yn gymwys i geisydd hyd at ddiwedd y cwrs, yn unig, y cyrhaeddodd y ceisydd yr oedran o 21 ynddo.

(4At ddibenion is-baragraff (2), unwaith y bydd is-baragraff (2)(e) yn gymwys i fyfyriwr amser llawn, os yw’r myfyriwr hwnnw wedyn, am gyfnod o 56 diwrnod neu lai, yn peidio â bod yn analluog i weithio, neu gael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio, yna, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, pan â’r myfyriwr yn analluog i weithio drachefn, neu pan drinnir ef drachefn fel pe bai’n analluog i weithio, rhaid cymhwyso’r is-baragraff hwnnw i’r myfyriwr hwnnw ar unwaith, am gyhyd ag y bo’n parhau’n analluog i weithio, neu cyhyd ag y’i trinnir fel pe bai’n analluog i weithio.

(5Yn is-baragraff (2)(i) mae’r cyfeiriad at gwrs addysg uwch yn gyfeiriad at gwrs o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988(29).

(6Rhaid trin myfyriwr amser llawn y mae paragraff (i) o is-baragraff (2) yn gymwys iddo fel pe bai’n bodloni’r is-baragraff hwnnw o’r dyddiad y gwnaeth y myfyriwr hwnnw gais am y gofyniad atodol, lwfans, bwrsari neu daliad, yn ôl fel y digwydd.

(7Nid yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys i fyfyriwr amser llawn am y cyfnod a bennir yn is-baragraff (8) os—

(a)yw’r myfyriwr, ar unrhyw adeg yn ystod blwyddyn academaidd, gyda chydsyniad y sefydliad addysgol perthnasol, yn peidio â mynychu neu ymgymryd â chwrs oherwydd bod y myfyriwr—

(i)yn ymgymryd â gofalu am berson arall; neu

(ii)yn sâl;

(b)yw’r myfyriwr yn ddiweddarach wedi peidio ag ymgymryd â gofalu am y person hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, os yw’r myfyriwr yn ddiweddarach wedi gwella o’r salwch hwnnw; ac

(c)nad yw’r myfyriwr yn gymwys i gael grant neu fenthyciad myfyriwr mewn perthynas â’r cyfnod a bennir yn is-baragraff (8).

(8Y cyfnod a bennir at ddibenion is-baragraff (7) yw’r cyfnod, na fydd yn hwy nag un flwyddyn, sy’n cychwyn ar y diwrnod y peidiodd y myfyriwr ag ymgymryd â gofalu am y person hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, y diwrnod y cafodd y myfyriwr adferiad o’r salwch hwnnw ac yn diweddu ar y diwrnod cyn—

(a)y diwrnod y mae’r myfyriwr yn ailddechrau mynychu neu ymgymryd â’r cwrs; neu

(b)y diwrnod y bydd y sefydliad addysgol perthnasol wedi cytuno y caiff y myfyriwr ailddechrau mynychu neu ymgymryd â’r cwrs,

pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf.

RHAN 2Incwm

Cyfrifo incwm grant

4.—(1Rhaid i’r swm o incwm grant myfyriwr a gymerir i ystyriaeth wrth asesu incwm y myfyriwr, yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), fod y cyfan o incwm grant y myfyriwr.

(2Rhaid hepgor o incwm grant myfyriwr unrhyw daliad—

(a)a fwriedir i ddiwallu ffioedd dysgu neu ffioedd arholiad;

(b)mewn perthynas ag anabledd y myfyriwr;

(c)a fwriedir i ddiwallu gwariant ychwanegol mewn cysylltiad ag astudiaeth breswyl yn ystod y tymor, i ffwrdd o sefydliad addysgol y myfyriwr;

(d)oherwydd bod y myfyriwr yn cynnal cartref yn rhywle arall, ar wahân i’r man lle mae’r myfyriwr yn preswylio yn ystod ei gwrs;

(e)ar gyfer unrhyw berson arall, ond hynny yn unig os yw’r person hwnnw’n preswylio y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nad oes swm cymwysadwy mewn perthynas â’r person hwnnw;

(f)a fwriedir i ddiwallu cost llyfrau a chyfarpar;

(g)a fwriedir i ddiwallu costau teithio a dynnir o ganlyniad i bresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs;

(h)a fwriedir ar gyfer costau gofal plant i ddibynnydd sy’n blentyn;

(i)o fwrsari addysg uwch i ymadawyr gofal, a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf Plant 1989.

(3Pan nad oes gan fyfyriwr fenthyciad myfyriwr ac nas trinnir ef fel pe bai’n meddu benthyciad o’r fath, rhaid hepgor o incwm grant y myfyriwr—

(a)y swm o £303 am bob blwyddyn academaidd mewn perthynas â chostau teithio; a

(b)y swm o £390 am bob blwyddyn academaidd tuag at gostau llyfrau a chyfarpar,

pa un a dynnir y cyfryw gostau ai peidio.

(4Rhaid hepgor hefyd, o incwm grant myfyriwr y grant ar gyfer dibynyddion a elwir yn lwfans dysgu rhieni, a delir yn unol â rheoliadau a wnaed o dan erthygl 3 o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998 neu adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.

(5Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (6) a (7), rhaid dosrannu incwm grant myfyriwr—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (8), mewn achos yw’n briodoladwy i’r cyfnod astudio, yn gyfartal rhwng yr wythnosau yn y cyfnod hwnnw sy’n cychwyn gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl, diwrnod cyntaf y cyfnod astudio ac yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod olaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n union ragflaenu, diwrnod olaf y cyfnod astudio;

(b)mewn unrhyw achos arall, yn gyfartal rhwng yr wythnosau yn y cyfnod sy’n cychwyn gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl, diwrnod cyntaf y cyfnod y mae’n daladwy ar ei gyfer ac yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod olaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n union ragflaenu, diwrnod olaf y cyfnod y mae’n daladwy ar ei gyfer.

(6Rhaid dosrannu unrhyw grant mewn perthynas â dibynyddion a delir o dan adran 63(6) o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968(30) (grantiau mewn perthynas â darparu hyfforddiant i swyddogion awdurdodau ysbyty) ac unrhyw swm a fwriedir ar gyfer cynhaliaeth dibynyddion o dan Ran 3 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003 yn gyfartal dros y cyfnod o 52 wythnos neu, os oes 53 o wythnosau gostyngiad (gan gynnwys rhan-wythnosau) yn y flwyddyn, 53 wythnos.

(7Mewn achos pan fo myfyriwr yn cael benthyciad myfyriwr, neu y gallai’r myfyriwr fod wedi caffael benthyciad myfyriwr drwy gymryd camau rhesymol ond nad oedd wedi gwneud hynny, rhaid i unrhyw swm a fwriadwyd ar gyfer cynnal dibynyddion ac nad yw is-baragraff (6) na pharagraff 8(2) (symiau eraill sydd i’w diystyru) yn gymwys iddo, gael ei ddosrannu dros yr un cyfnod ag y dosrennir y benthyciad myfyriwr neu, yn ôl fel y digwydd, y byddid wedi ei ddosrannu.

(8Yn achos myfyriwr ar gwrs rhyngosod, rhaid hepgor unrhyw gyfnodau o brofiad sydd o fewn y cyfnod astudio, a rhaid dosrannu incwm grant y myfyriwr yn gyfartal rhwng yr wythnosau yn y cyfnod sy’n cychwyn gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn dilyn yn union ar ôl diwrnod olaf y cyfnod o brofiad ac yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod olaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n union ragflaenu, diwrnod olaf y cyfnod astudio.

Cyfrifo incwm cyfamod pan asesir cyfraniad

5.—(1Pan fo myfyriwr yn cael incwm ar ffurf grant yn ystod cyfnod astudio a chyfraniad wedi ei asesu, rhaid i’r swm o incwm cyfamod y myfyriwr, a gymerir i ystyriaeth ar gyfer y cyfnod hwnnw ac unrhyw wyliau haf sy’n dilyn yn union wedyn, fod y swm cyfan o’r incwm cyfamod, llai, yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), swm y cyfraniad.

(2Rhaid penderfynu swm wythnosol incwm cyfamod y myfyriwr—

(a)drwy rannu swm yr incwm sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan is-baragraff (1) gyda 52 neu 53, pa un bynnag sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau; a

(b)drwy ddiystyru £5 o’r swm canlyniadol.

(3At ddibenion is-baragraff (1), rhaid trin y cyfraniad fel pe bai wedi ei gynyddu o ba bynnag swm (os oes un) y mae’r swm a hepgorir o dan baragraff 4(2)(g) (cyfrifo incwm grant) yn brin o’r swm a bennir ym mharagraff 7(2) o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003 (gwariant teithio).

Incwm cyfamod pan nad asesir incwm grant neu nad asesir cyfraniad

6.—(1Pan nad yw myfyriwr yn cael incwm ar ffurf grant, rhaid cyfrifo swm incwm cyfamod y myfyriwr fel a ganlyn—

(a)rhaid diystyru unrhyw symiau a fwriadwyd ar gyfer unrhyw wariant a bennir ym mharagraff 4(2)(a) i (e) (cyfrifo incwm grant) ac sy’n angenrheidiol o ganlyniad i bresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs;

(b)rhaid dosrannu unrhyw incwm cyfamod, hyd at swm y grant cynhaliaeth safonol, nas diystyrir felly, yn gyfartal rhwng wythnosau’r cyfnod astudio;

(c)rhaid diystyru, o’r swm a ddosrannwyd felly, y swm y byddid wedi ei ddiystyru o dan baragraff 4(2)(f) a (3) (cyfrifo incwm grant) pe bai’r myfyriwr wedi bod yn cael y grant cynhaliaeth safonol; a

(d)rhaid rhannu’r balans, os oes un, gyda 52 neu 53, pa un bynnag sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau, a’i drin fel incwm wythnosol y mae’n rhaid diystyru £5 ohono.

(2Pan fo myfyriwr yn cael incwm ar ffurf grant ac nad oes cyfraniad wedi ei asesu, rhaid cyfrifo swm incwm cyfamod y myfyriwr yn unol â pharagraffau (a) i (d) o is-baragraff (1), ac eithrio—

(a)rhaid lleihau gwerth y grant cynhaliaeth safonol o swm y cyfryw incwm grant llai swm sy’n hafal i gyfanswm unrhyw symiau a ddiystyrir o dan baragraff 4(2)(a) i (e); a

(b)rhaid lleihau’r swm sydd i’w ddiystyru o dan is-baragraff (1)(c) o swm sy’n hafal i gyfanswm unrhyw symiau a ddiystyrir o dan baragraff 4(2)(f) ac (g) a (3).

Y berthynas â symiau sydd i’w diystyru o dan Atodlen 9

7.  Rhaid peidio â diystyru unrhyw ran o incwm cyfamod neu incwm grant myfyriwr o dan baragraff 19 o Atodlen 9 (diystyru rhai taliadau elusennol a gwirfoddol etc.).

Symiau eraill sydd i’w diystyru

8.—(1At y diben o ganfod incwm arall ac eithrio incwm grant, incwm cyfamod a benthyciadau a drinnir fel incwm yn unol â pharagraff 9 (trin benthyciadau myfyriwr), rhaid diystyru unrhyw symiau a fwriadwyd ar gyfer unrhyw wariant a bennir ym mharagraff 4(2) (cyfrifo incwm grant), sy’n angenrheidiol o ganlyniad i bresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs.

(2Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys onid yw, ac i’r graddau y mae, y gwariant angenrheidiol yn fwy, neu’n debygol o fod yn fwy, na chyfanswm y symiau a ddiystyrir o dan baragraff 4(2) neu (3), 5(3), 6(1)(a) neu (c) neu 9(5) (cyfrifo incwm grant, incwm cyfamod a thrin benthyciadau myfyriwr) ynglŷn â gwariant cyffelyb.

Trin benthyciadau myfyriwr

9.—(1Rhaid trin benthyciad myfyriwr fel incwm.

(2Wrth gyfrifo’r swm wythnosol o’r benthyciad sydd i’w gymryd i ystyriaeth fel incwm—

(a)mewn perthynas â chwrs sy’n parhau am un flwyddyn academaidd neu lai, rhaid dosrannu benthyciad sy’n daladwy mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw yn gyfartal rhwng yr wythnosau yn y cyfnod, sy’n dechrau gydag—

(i)ac eithrio mewn achos pan fo is-baragraff (ii) yn gymwys, yr wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl, diwrnod cyntaf yr un flwyddyn academaidd;

(ii)pan yw’n ofynnol bod y myfyriwr yn dechrau mynychu’r cwrs yn Awst, neu pan fo hyd y cwrs yn llai nag un flwyddyn academaidd, yr wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl, diwrnod cyntaf y cwrs,

ac yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod olaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n union ragflaenu, diwrnod olaf y cwrs;

(b)mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs sy’n cychwyn ac eithrio ar 1 Medi, rhaid dosrannu benthyciad sy’n daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn gyfartal rhwng yr wythnosau yn y cyfnod—

(i)sy’n dechrau gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl, diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd honno; a

(ii)yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod olaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n union ragflaenu, diwrnod olaf y flwyddyn academaidd honno,

ond gan hepgor unrhyw wythnosau gostyngiad sy’n digwydd yn gyfan gwbl o fewn y chwarter pan, ym marn yr awdurdod, y cymerir y cyfnod hwyaf o unrhyw wyliau, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae i “chwarter” yr ystyr a roddir i “quarter” at ddibenion Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005;

(c)mewn perthynas â blwyddyn academaidd derfynol cwrs (nad yw’n gwrs sy’n parhau am un flwyddyn), rhaid dosrannu benthyciad sy’n daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd derfynol honno yn gyfartal rhwng yr wythnosau yn y cyfnod, sy’n dechrau gydag—

(i)ac eithrio mewn achos pan fo is-baragraff (ii) yn gymwys, yr wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl, diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd honno;

(ii)pan fo’r flwyddyn academaidd derfynol yn cychwyn ar 1 Medi, yr wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl y cynharaf o 1 Medi neu ddiwrnod cyntaf tymor yr hydref,

ac yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod olaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n union ragflaenu, diwrnod olaf y cwrs;

(d)mewn unrhyw achos arall, rhaid dosrannu’r benthyciad yn gyfartal rhwng yr wythnosau yn y cyfnod sy’n dechrau gyda’r cynharaf o’r canlynol—

(i)diwrnod cyntaf yr wythnos ostyngiad gyntaf ym Medi; neu

(ii)yr wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl diwrnod cyntaf tymor yr hydref,

ac yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod olaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n union ragflaenu’r diwrnod olaf ym Mehefin, ac ym mhob achos, o’r swm wythnosol fel y’i dosrannwyd rhaid diystyru £10.

(3Rhaid trin myfyriwr fel pe bai’n meddu benthyciad myfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd os—

(a)rhoddwyd benthyciad myfyriwr i’r myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno; neu

(b)y gallai’r myfyriwr gaffael benthyciad o’r fath mewn perthynas â’r flwyddyn honno drwy gymryd camau rhesymol i wneud hynny.

(4Pan drinnir myfyriwr fel pe bai’n meddu benthyciad myfyriwr o dan is-baragraff (3), mae swm y benthyciad myfyriwr y mae’n rhaid ei gymryd i ystyriaeth fel incwm, yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), fel a ganlyn—

(a)yn achos myfyriwr y rhoddir benthyciad myfyriwr iddo mewn perthynas â blwyddyn academaidd, swm sy’n hafal i—

(i)swm y benthyciad myfyriwr mwyaf y gall y myfyriwr hwnnw ei gaffael mewn perthynas â’r flwyddyn honno drwy gymryd camau rhesymol i wneud hynny; a

(ii)unrhyw gyfraniad, pa un a dalwyd y cyfraniad hwnnw i’r myfyriwr ai peidio;

(b)yn achos myfyriwr na roddwyd benthyciad myfyriwr iddo mewn perthynas â blwyddyn academaidd, swm y benthyciad myfyriwr mwyaf y byddid yn ei roi i’r myfyriwr hwnnw—

(i)pe bai’r myfyriwr yn cymryd pob cam rhesymol i gael y benthyciad myfyriwr mwyaf y mae modd iddo’i gaffael mewn perthynas â’r flwyddyn honno; a

(ii)pe na wneid unrhyw ddidyniad o’r benthyciad hwnnw yn rhinwedd gweithredu prawf modd.

(5Rhaid didynnu o swm yr incwm a gymerir i ystyriaeth o dan is-baragraff (4)—

(a)y swm o £303 am bob blwyddyn academaidd mewn perthynas â chostau teithio; a

(b)y swm o £390 am bob blwyddyn academaidd tuag at gost llyfrau a chyfarpar,

pa un a dynnir costau o’r fath ai peidio.

Trin benthyciadau ffioedd

10.  Rhaid diystyru fel incwm unrhyw fenthyciad ar gyfer ffioedd, a elwir hefyd yn fenthyciad ffioedd neu’n fenthyciad cyfrannu at ffioedd, a roddir yn unol â rheoliadau a wnaed o dan erthygl 3 o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1988, adran 22 o Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 neu adran 73(f) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980.

Trin taliadau o gronfeydd mynediad

11.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys i daliadau o gronfeydd mynediad nad ydynt yn daliadau y mae paragraff 14(2) neu (3) (incwm a drinnir fel cyfalaf) yn gymwys iddynt.

(2Rhaid diystyru fel incwm unrhyw daliad o gronfeydd mynediad, ac eithrio taliad y mae is-baragraff (3) yn gymwys iddo.

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4) o’r paragraff hwn a pharagraff 40 o Atodlen 9, rhaid diystyru fel incwm—

(a)unrhyw daliadau o gronfeydd mynediad a fwriedir ac a ddefnyddir ar gyfer eitem o fwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd cartref, neu rent ceisydd sengl neu, yn ôl fel y digwydd, y ceisydd neu unrhyw aelod arall o deulu’r ceisydd, a

(b)unrhyw daliadau o gronfeydd mynediad a ddefnyddir ar gyfer unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd neu unrhyw aelod arall o deulu’r ceisydd yn atebol,

hyd at £20 yr wythnos.

(4Pan wneir taliad o gronfeydd mynediad—

(a)ar neu ar ôl 1 Medi neu ddiwrnod cyntaf y cwrs, pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf, ond cyn cael unrhyw fenthyciad myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, a’r taliad wedi ei fwriadu at y diben o bontio’r cyfnod hyd nes ceir y benthyciad myfyriwr; neu

(b)cyn diwrnod cyntaf y cwrs i berson gan ddisgwyl y bydd y person hwnnw’n dod yn fyfyriwr,

rhaid diystyru’r taliad hwnnw fel incwm.

Diystyru cyfraniad

12.  Pan fo’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn fyfyriwr ac at y diben o asesu cyfraniad i grant neu fenthyciad myfyriwr y myfyriwr, cymerwyd i ystyriaeth incwm y partner arall, rhaid diystyru swm sy’n hafal i’r cyfraniad hwnnw at y diben o asesu incwm y partner arall hwnnw.

Diystyriad pellach o incwm myfyriwr

13.  Pan fo unrhyw ran o incwm myfyriwr wedi ei chymryd i ystyriaeth eisoes at y diben o asesu hawlogaeth y myfyriwr hwnnw i gael grant neu fenthyciad myfyriwr, rhaid diystyru’r swm a gymerwyd i ystyriaeth wrth asesu incwm y myfyriwr hwnnw.

Incwm a drinnir fel cyfalaf

14.—(1Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw swm ar ffurf ad-daliad o dreth a ddidynnwyd o incwm cyfamod myfyriwr.

(2Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw swm a delir o gronfeydd mynediad fel cyfandaliad sengl.

(3Rhaid i swm a delir o gronfeydd mynediad fel cyfandaliad sengl, a fwriedir ac a ddefnyddir ar gyfer eitem ac eithrio bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd cartref neu rent, neu a ddefnyddir ar gyfer eitem ac eithrio unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd hwnnw neu unrhyw aelod arall o deulu’r ceisydd yn atebol amdanynt, gael eu diystyru fel cyfalaf, ond am gyfnod, yn unig, o 52 wythnos o ddyddiad y taliad.

Diystyru newidiadau sy’n digwydd yn ystod gwyliau’r haf

15.  Wrth gyfrifo incwm myfyriwr, rhaid i awdurdod ddiystyru unrhyw newid yn y grant cynhaliaeth safonol, sy’n digwydd yn ystod y gwyliau haf cydnabyddedig sy’n briodol i gwrs y myfyriwr, os nad yw’r gwyliau hynny’n ffurfio rhan o gyfnod astudio’r myfyriwr o’r dyddiad y digwyddodd y newid hyd at ddiwedd y gwyliau hynny.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open yr Offeryn Cyfan

Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill