Rheoliad 34(3)
ATODLEN 13LL+CPob ceisydd: materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun awdurdod — materion eraill
RHAN 1LL+CCeisiadau
Pwy gaiff wneud caisLL+C
1.—(1) Yn achos—
(a)cwpl neu (yn ddarostyngedig i baragraff (b)) aelodau priodas amlbriod, rhaid i gais gael ei wneud gan ba un bynnag ohonynt y cytunant ddylai wneud y cais neu, os methant â chytuno, gan ba un bynnag ohonynt y penderfyna’r awdurdod; neu
(b)aelodau o briodas amlbriod y mae paragraff 9 o Atodlen 6 (incwm a chyfalaf: dyfarniad o gredyd cynhwysol) yn gymwys iddynt, rhaid i gais gael ei wneud gan ba un bynnag o’r partïon i’r briodas gynharaf sy’n parhau mewn bodolaeth y cytunant ddylai wneud y cais neu, os methant â chytuno, gan ba un bynnag ohonynt y penderfyna’r awdurdod.
(2) Pan fo person, sy’n atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd, yn analluog am y tro i weithredu, ac—
(a)y Llys Gwarchod wedi penodi dirprwy sydd â phŵer i hawlio neu, yn ôl fel y digwydd, cael budd-dal ar ran y person hwnnw; neu
(b)yn yr Alban, gweinyddir ystad y person hwnnw gan oruchwyliwr barnwrol neu unrhyw warcheidwad sy’n gweithredu neu a benodwyd o dan Ddeddf Oedolion ag Analluedd (Yr Alban) 2000(1) sydd â phŵer i wneud cais neu, yn ôl fel y digwydd, cael budd-dal ar ran y person hwnnw; neu
(c)atwrnai sydd â phŵer cyffredinol neu bŵer i wneud cais neu, yn ôl fel y digwydd, i gael budd-dal, wedi ei benodi gan y person hwnnw o dan Ddeddf Atwrneiaethau 1971(2), Deddf Atwrneiaethau Parhaus 1985(3) neu Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005(4) neu rywfodd arall,
caiff y dirprwy, goruwchwyliwr barnwrol, gwarcheidwad neu atwrnai hwnnw, yn ôl fel y digwydd, wneud cais ar ran y person hwnnw.
(3) Pan fo person, sy’n atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd, yn analluog am y tro i weithredu, ac nad yw is-baragraff (2) yn gymwys i’r person hwnnw, caiff yr awdurdod, os gwneir cais ysgrifenedig iddo gan berson sydd, os yw’n berson naturiol, dros 18 mlwydd oed, benodi’r person hwnnw i arfer, ar ran y person sy’n analluog i weithredu, unrhyw hawl a allai fod gan y person sy’n analluog i weithredu o dan gynllun awdurdod, ac i gael a delio, ar ran y person hwnnw ag unrhyw symiau sy’n daladwy i’r person hwnnw.
(4) Pan fo person, sy’n atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd, yn analluog am y tro i weithredu, a’r Ysgrifennydd Gwladol wedi penodi person i weithredu ar ran y person hwnnw o dan reoliad 33 o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Hawliadau a Thaliadau) 1987(5) (personau analluog i weithredu), caiff yr awdurdod, os yw’r person a benodwyd felly yn cydsynio, drin y person hwnnw fel pe bai’r person hwnnw wedi ei benodi gan yr awdurdod o dan is-baragraff (3).
(5) Pan fo’r awdurdod wedi gwneud penodiad o dan is-baragraff (3) neu’n trin person fel penodai o dan is-baragraff (4)—
(a)caiff ddirymu’r penodiad ar unrhyw adeg;
(b)caiff y person a benodwyd ymddiswyddo o’i swydd ar ôl rhoi 4 wythnos o rybudd ysgrifenedig i’r awdurdod o’i fwriad i wneud hynny;
(c)rhaid i unrhyw benodiad o’r fath derfynu pan hysbysir yr awdurdod o benodiad person a grybwyllir yn is-baragraff (2).
(6) Caniateir gwneud unrhyw beth y mae’n ofynnol o dan gynllun awdurdod ei wneud gan neu i unrhyw berson sy’n analluog am y tro i weithredu, gan neu i’r personau a grybwyllir yn is-baragraff (2), neu gan neu i’r person a benodir, neu a drinnir fel pe bai wedi ei benodi, o dan y paragraff hwn ac y mae derbynneb unrhyw berson o’r fath a benodwyd felly am unrhyw swm a dalwyd yn rhyddhad dilys i’r awdurdod.
(7) Rhaid i’r awdurdod—
(a)hysbysu unrhyw berson sy’n gwneud cais ynghylch y ddyletswydd a osodir gan baragraff 7(1)(a) (dyletswydd i hysbysu ynghylch newid yn yr amgylchiadau);
(b)esbonio’r canlyniadau posibl (gan gynnwys erlyn) os methir â chydymffurfio â’r ddyletswydd honno; ac
(c)nodi’r amgylchiadau y gallai newid ynddynt effeithio ar yr hawlogaeth i gael gostyngiad neu ar swm y gostyngiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 13 para. 1 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
Y dyddiad pan wneir caisLL+C
2.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (7), y dyddiad pan wneir cais yw—
(a)mewn achos pan fo—
(i)dyfarniad o gredyd pensiwn y wladwriaeth sy’n cynnwys credyd gwarant wedi ei wneud i’r ceisydd neu bartner y ceisydd, a
(ii)y cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod wedi ei wneud o fewn un mis i’r dyddiad y cafwyd, yn swyddfa briodol yr Adran Gwaith a Phensiynau, yr hawliad am y credyd pensiwn y wladwriaeth hwnnw sy’n cynnwys credyd gwarant,
diwrnod cyntaf yr hawlogaeth i gredyd pensiwn y wladwriaeth sy’n cynnwys credyd gwarant, sy’n codi o’r hawliad hwnnw;
(b)mewn achos pan fo—
(i)ceisydd neu bartner y ceisydd yn berson sy’n cael credyd gwarant,
(ii)y ceisydd yn dod yn atebol am y tro cyntaf i dalu treth gyngor mewn perthynas â’r annedd a feddiennir gan y ceisydd fel ei gartref, a
(iii)y swyddfa ddynodedig yn cael y cais a wnaed i’r awdurdod o fewn un mis i ddyddiad y newid,
y dyddiad pan fo’r newid yn digwydd;
(c)mewn achos pan fo—
(i)dyfarniad o gymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm neu ddyfarniad o gredyd cynhwysol wedi ei wneud i’r ceisydd neu bartner y ceisydd, a
(ii)y cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod wedi ei wneud o fewn un mis i’r dyddiad y cafwyd yr hawliad am y cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith, lwfans cyflogaeth a chymorth neu gredyd cynhwysol,
diwrnod cyntaf yr hawlogaeth i gymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm neu gredyd cynhwysol sy’n codi o’r hawliad hwnnw;
(d)mewn achos pan fo—
(i)ceisydd neu bartner y ceisydd yn berson sy’n cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol,
(ii)y ceisydd yn dod yn atebol am y tro cyntaf i dalu treth gyngor mewn perthynas â’r annedd a feddiennir gan y ceisydd fel ei gartref, a
(iii)y swyddfa ddynodedig yn cael y cais a wnaed i’r awdurdod o fewn un mis i ddyddiad y newid,
y dyddiad pan fo’r newid yn digwydd;
(e)mewn achos pan fo—
(i)y ceisydd yn gyn-bartner person yr oedd hawl ganddo, ar y dyddiad y bu farw’r person hwnnw, neu y gwahanodd y ceisydd a’r person hwnnw, i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod, a
(ii)y ceisydd yn gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod o fewn un mis i ddyddiad y farwolaeth neu’r gwahanu,
dyddiad y farwolaeth neu’r gwahanu;
(f)ac eithrio pan fodlonir paragraff (a), (b) neu (e), mewn achos pan fo’r swyddfa ddynodedig wedi cael cais, a gwblhawyd yn briodol, o fewn un mis (neu pa bynnag gyfnod hwy a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod) i’r dyddiad y dyroddwyd ffurflen gais i’r ceisydd, wedi i’r ceisydd yn gyntaf hysbysu’r awdurdod, ym mha bynnag fodd, o’i fwriad i wneud cais, dyddiad yr hysbysiad cyntaf;
(g)mewn unrhyw achos arall, y dyddiad y ceir y cais yn y swyddfa ddynodedig.
(2) At ddibenion is-baragraff (1)(c) yn unig, rhaid trin person y dyfarnwyd iddo lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm fel pe bai hawl ganddo i gael y lwfans hwnnw ar gyfer unrhyw ddiwrnodau sy’n union ragflaenu diwrnod cyntaf y dyfarniad hwnnw pan fyddai’r person hwnnw, oni bai am reoliadau a wnaed o dan—
(a)yn achos lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, paragraff 4 o Atodlen 1 i Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995 (diwrnodau aros); neu
(b)yn achos lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, paragraff 2 o Atodlen 2 i Ddeddf Diwygio Lles 2007 (diwrnodau aros),
wedi bod â hawl i gael y lwfans hwnnw.
(3) O ran y diffyg y cyfeirir ato ym mharagraff 7 o Atodlen 12 (cais dros y teleffon)—
(a)pan fo’r diffyg wedi ei gywiro o fewn un mis (neu pa bynnag gyfnod hwy a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod) i’r dyddiad y tynnwyd sylw at y diffyg ddiwethaf gan yr awdurdod, rhaid i’r awdurdod drin y cais fel pe bai wedi ei wneud yn briodol y tro cyntaf;
(b)pan nad yw’r diffyg wedi ei gywiro o fewn un mis (neu pa bynnag gyfnod hwy a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod) i’r dyddiad y tynnwyd sylw at y diffyg ddiwethaf gan yr awdurdod, rhaid i’r awdurdod drin y cais fel pe bai wedi ei wneud yn briodol y tro cyntaf os yw o’r farn bod ganddo wybodaeth ddigonol i wneud penderfyniad ar y cais.
(4) Rhaid i awdurdod drin cais diffygiol fel pe bai wedi ei wneud yn ddilys y tro cyntaf, os yw’r amodau a bennir yn is-baragraff (5)(a), (b) neu (c), mewn unrhyw achos penodol, wedi eu bodloni.
(5) Yr amodau yw—
(a)pan fo paragraff 4(1)(a) o Atodlen 12 (ffurflen anghyflawn) yn gymwys, bod yr awdurdod yn cael, yn y swyddfa ddynodedig, y cais wedi ei gwblhau’n briodol neu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani i’w gwblhau neu’r dystiolaeth, o fewn un mis ar ôl gofyn am y cyfryw, neu pa bynnag gyfnod hwy a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod; neu
(b)pan fo paragraff 4(1)(b) o Atodlen 12 (cais nad yw ar y ffurflen gymeradwy, neu’r awdurdod yn gofyn am wybodaeth bellach) yn gymwys—
(i)bod y swyddfa ddynodedig yn cael y ffurflen gymeradwy, a anfonwyd at y ceisydd, wedi ei chwblhau’n briodol o fewn un mis ar ôl ei hanfon at y ceisydd; neu, yn ôl fel y digwydd,
(ii)bod y ceisydd yn cyflenwi pa bynnag wybodaeth neu dystiolaeth y gofynnwyd amdani o dan baragraff 4 o Atodlen 12, o fewn un mis ar ôl gofyn am y cyfryw,
neu, yn y naill achos neu’r llall, o fewn pa bynnag gyfnod hwy a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod; neu
(c)pan fo’r awdurdod wedi gofyn am wybodaeth bellach, bod yr awdurdod yn cael, yn y swyddfa ddynodedig, y cais wedi ei gwblhau’n briodol neu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani o fewn un mis ar ôl gofyn am y cyfryw, neu o fewn pa bynnag gyfnod hwy a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod.
(6) Ac eithrio yn achos cais a wneir gan berson a drinnir fel pe na bai’n byw ym Mhrydain Fawr, pan nad yw person wedi dod yn atebol i awdurdod am dreth gyngor, ond rhagwelir y bydd y person hwnnw’n atebol felly o fewn cyfnod o 13 wythnos (y cyfnod perthnasol), caiff y person hwnnw wneud cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwnnw mewn perthynas â’r dreth honno ac, ar yr amod bod atebolrwydd yn codi o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i’r awdurdod drin y cais fel pe bai wedi ei wneud ar y diwrnod y mae’r atebolrwydd am y dreth yn codi.
(7) Ac eithrio yn achos cais a wneir gan berson a drinnir fel pe na bai’n byw ym Mhrydain Fawr, pan nad oes hawl gan y ceisydd i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod ar yr adeg y mae’r awdurdod yn cael y cais, ond ym marn yr awdurdod, oni fydd yr amgylchiadau yn newid, bydd hawl gan y ceisydd i gael gostyngiad o dan gynllun yr awdurdod am gyfnod sy’n cychwyn ddim hwyrach na’r drydedd wythnos ostyngiad ar ddeg ar ôl y dyddiad y gwnaed y cais (neu pa bynnag gyfnod arall a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod), caiff yr awdurdod drin y cais fel pe bai wedi ei wneud ar ddyddiad yn yr wythnos ostyngiad sy’n union ragflaenu’r wythnos ostyngiad gyntaf yn y cyfnod o hawlogaeth hwnnw, a dyfarnu gostyngiad yn unol â hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 13 para. 2 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
Ôl-ddyddio ceisiadau: pensiynwyrLL+C
3.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yr amser i wneud cais gan bensiynwr am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, o ran unrhyw ddiwrnod pan fo’r ceisydd, ar wahân i fodloni’r amod o fod yn gwneud cais, yn meddu’r hawl i gael gostyngiad o’r fath, yw’r diwrnod hwnnw a’r cyfnod o dri mis sy’n dilyn yn union ar ei ôl.
(2) Mewn unrhyw achos pan fo paragraff 2(1)(a) yn gymwys, nid yw is-baragraff (1) yn rhoi hawl i berson wneud cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod sy’n gynharach na 3 mis cyn y dyddiad y gwneir yr hawliad am gredyd pensiwn y wladwriaeth (neu y trinnir fel pe bai wedi ei wneud, yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Hawliadau a Thaliadau) 1987(6)).
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 13 para. 3 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
Ôl-ddyddio ceisiadau: personau nad ydynt yn bensiynwyrLL+C
4.—(1) Pan fo ceisydd, sy’n berson nad yw’n bensiynwr—
(a)yn gwneud cais o dan gynllun awdurdod sy’n cynnwys (neu y mae’r ceisydd yn ddiweddarach yn gofyn am iddo gynnwys) cyfnod cyn bo’r cais wedi ei wneud; a
(b)o ddiwrnod yn y cyfnod hwnnw, hyd at y dyddiad y gwnaeth y ceisydd y cais (neu y gofynnodd yn ddiweddarach am i’r cais gynnwys cyfnod blaenorol), yr oedd gan y ceisydd, yn ddi-dor, reswm da dros fethu â gwneud cais (neu ofyn am i’r cais gynnwys y cyfnod hwnnw),
rhaid trin y cais fel pe bai wedi ei wneud ar y dyddiad a benderfynir yn unol ag is-baragraff (2).
(2) Y dyddiad hwnnw yw’r diweddaraf o’r canlynol—
(a)y diwrnod cyntaf pan oedd gan y ceisydd reswm da yn ddi-dor;
(b)y diwrnod 3 mis cyn y dyddiad y gwnaed y cais;
(c)y diwrnod 3 mis cyn y dyddiad pan ofynnodd y ceisydd am i’r cais gynnwys cyfnod blaenorol.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 13 para. 4 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
Tystiolaeth a gwybodaethLL+C
5.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid i berson sy’n gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod fodloni is-baragraff (2), mewn perthynas â’r person sy’n gwneud y cais yn ogystal ag unrhyw berson arall y mae’n gwneud y cais mewn perthynas ag ef.
(2) Bodlonir yr is-baragraff hwn mewn perthynas â pherson—
(a)os cyflwynir y cais ynghyd ag—
(i)datganiad o rif yswiriant gwladol y person a gwybodaeth neu dystiolaeth sy’n cadarnhau bod y rhif hwnnw wedi ei ddyrannu i’r person; neu
(ii)gwybodaeth neu dystiolaeth a fydd yn galluogi awdurdod i ganfod y rhif yswiriant gwladol sydd wedi ei ddyrannu i’r person; neu
(b)os yw’r person wedi gwneud cais am i rif yswiriant gwladol gael ei ddyrannu i’r person hwnnw, ac os cyflwynwyd y cais am ostyngiad ynghyd ag—
(i)tystiolaeth o’r cais am i rif yswiriant gwladol gael ei ddyrannu felly; a
(ii)gwybodaeth neu dystiolaeth sy’n galluogi ei ddyrannu felly.
(3) Nid yw is-baragraff (2) yn gymwys—
(a)yn achos plentyn neu berson ifanc y gwneir cais am ostyngiad mewn perthynas ag ef;
(b)i berson—
(i)a drinnir at ddibenion y cynllun hwnnw fel pe na bai ym Mhrydain Fawr;
(ii)sy’n destun rheolaeth ymfudo o fewn yr ystyr a roddir i “a person subject to immigration control” gan adran 115(9)(a) o Ddeddf Ymfudo a Lloches 1999(7); a
(iii)na ddyrannwyd iddo rif yswiriant gwladol eisoes.
(4) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), rhaid i berson sy’n gwneud cais, neu berson y dyfarnwyd iddo ostyngiad o dan gynllun awdurdod, ddarparu pa bynnag dystysgrifau, dogfennau, gwybodaeth a thystiolaeth mewn cysylltiad â’r cais neu’r dyfarniad, neu unrhyw gwestiwn sy’n codi o’r cais neu’r dyfarniad, y gofynnir amdanynt yn rhesymol gan yr awdurdod er mwyn penderfynu ynghylch hawlogaeth y person hwnnw, neu barhad ei hawlogaeth, i ostyngiad o dan gynllun yr awdurdod, a rhaid iddo wneud hynny o fewn un mis wedi i’r awdurdod ofyn iddo wneud hynny, neu pa bynnag gyfnod hwy a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod.
(5) Nid oes dim yn y paragraff hwn sy’n ei gwneud yn ofynnol bod person yn darparu unrhyw dystysgrifau, dogfennau, gwybodaeth neu dystiolaeth mewn perthynas â thaliad y mae is-baragraff (7) yn gymwys iddo.
(6) Pan wneir cais gan awdurdod o dan is-baragraff (4), rhaid i’r awdurdod—
(a)hysbysu’r ceisydd, neu’r person y dyfarnwyd gostyngiad iddo o dan gynllun yr awdurdod, ynghylch dyletswydd y ceisydd o dan baragraff 7 (dyletswydd i hysbysu ynghylch newidiadau yn yr amgylchiadau) i hysbysu’r awdurdod ynghylch unrhyw newid yn yr amgylchiadau; a
(b)heb leihau dim ar gwmpas y ddyletswydd o dan baragraff 7, dynodi i’r person, naill ai ar lafar neu drwy hysbysiad neu drwy gyfeirio at ryw ddogfen arall sydd ar gael i’r person yn ddi-dâl os gofynnir amdani, y math o newid yn yr amgylchiadau y mae’n ofynnol hysbysu’r awdurdod yn ei gylch.
(7) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i unrhyw un o’r taliadau canlynol—
(a)taliad—
(i)a ddiystyrwyd o dan baragraff 28 o Atodlen 9 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr) neu baragraff 38 o Atodlen 10 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr); neu
(ii)a wnaed o dan neu gan yr Ymddiriedolaethau, y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton neu Gronfa Cymorth Elusennol Bomiau Llundain;
(b)taliad a ddiystyrir o dan baragraff 16 o Atodlen 5 (taliadau a wnaed o dan ymddiriedolaethau penodol a thaliadau penodol eraill) ac eithrio taliad o dan y Gronfa Byw’n Annibynnol (2006);
(c)taliad a ddiystyrir o dan baragraff 5(9)(b) neu (c) o Atodlen 6 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr) ac eithrio taliad a wnaed o dan y Gronfa Byw’n Annibynnol (2006).
(8) Pan fo ceisydd, neu berson y mae gostyngiad o dan gynllun awdurdod wedi ei ddyfarnu iddo, neu unrhyw bartner, wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth ac yn aelod o gynllun pensiwn personol neu’n berson sydd â hawlogaeth i gael pensiwn o dan gynllun pensiwn personol, rhaid i’r person, pan ofynnir iddo gan yr awdurdod, ddarparu’r wybodaeth ganlynol—
(a)enw a chyfeiriad deiliad y gronfa bensiwn;
(b)pa bynnag wybodaeth arall, gan gynnwys unrhyw rif cyfeirnod neu rif polisi, y mae ei hangen i alluogi adnabod y cynllun pensiwn personol.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 13 para. 5 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
Diwygio cais a thynnu cais yn ôlLL+C
6.—(1) Caiff person sydd wedi gwneud cais ei ddiwygio ar unrhyw adeg cyn bo penderfyniad wedi ei wneud ar y cais, drwy gyflwyno neu anfon hysbysiad ysgrifenedig i’r swyddfa ddynodedig.
(2) Os oedd y cais wedi ei wneud dros y teleffon yn unol â Rhan 1 o Atodlen 12, caniateir gwneud y diwygiad hefyd dros y teleffon.
(3) Rhaid trin unrhyw gais a ddiwygir yn unol ag is-baragraff (1) neu (2) fel pe bai wedi ei ddiwygio y tro cyntaf.
(4) Caiff person sydd wedi gwneud cais dynnu’r cais yn ôl ar unrhyw adeg cyn bo penderfyniad wedi ei wneud ar y cais, drwy hysbysiad i’r swyddfa ddynodedig.
(5) Os oedd y cais wedi ei wneud dros y teleffon yn unol â Rhan 1 o Atodlen 12, caniateir tynnu’r cais yn ôl hefyd dros y teleffon.
(6) Bydd unrhyw hysbysiad o dynnu’n ôl a roddir yn unol ag is-baragraff (4) neu (5) yn cael effaith pan geir yr hysbysiad.
(7) Pan fo person, dros y teleffon, yn diwygio cais neu’n tynnu cais yn ôl, rhaid i’r person hwnnw (os gofynnir iddo wneud hynny gan yr awdurdod) roi cadarnhad o ddiwygio’r cais neu ei dynnu’n ôl, drwy gyflwyno neu anfon hysbysiad ysgrifenedig i’r swyddfa ddynodedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 13 para. 6 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
Dyletswydd i hysbysu ynghylch newidiadau yn yr amgylchiadauLL+C
7.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (8), rhaid i’r ceisydd (neu unrhyw berson sy’n gweithredu ar ran y ceisydd) gydymffurfio ag is-baragraff (2) os oes newid perthnasol yn digwydd yn yr amgylchiadau ar unrhyw adeg—
(a)rhwng gwneud y cais a gwneud penderfyniad arno, neu
(b)ar ôl gwneud y penderfyniad (os y penderfyniad yw fod hawl gan y ceisydd i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod) gan gynnwys ar unrhyw adeg tra bo’r ceisydd yn cael gostyngiad o’r fath.
(2) Rhaid i’r ceisydd (neu unrhyw berson sy’n gweithredu ar ran y ceisydd) hysbysu ynghylch unrhyw newid yn yr amgylchiadau y gellid disgwyl yn rhesymol y byddai’r ceisydd (neu’r person hwnnw) yn gwybod y gallai effeithio ar hawlogaeth y ceisydd i gael gostyngiad, neu ar swm y gostyngiad, o dan gynllun yr awdurdod (“newid perthnasol yn yr amgylchiadau”), drwy roi hysbysiad i’r awdurdod—
(a)mewn ysgrifen; neu
(b)dros y teleffon—
(i)pan fo’r awdurdod wedi cyhoeddi rhif teleffon at y diben hwnnw neu at ddibenion Rhan 1 o Atodlen 12 oni fydd yr awdurdod yn penderfynu, mewn unrhyw achos penodol neu ddosbarth o achosion, na chaniateir rhoi hysbysiad dros y teleffon; neu
(ii)mewn unrhyw achos neu ddosbarth o achosion y penderfynodd yr awdurdod y caniateir rhoi hysbysiad ynddo dros y teleffon; neu
(c)drwy unrhyw ddull arall y cytuna’r awdurdod i’w dderbyn mewn unrhyw achos penodol,
o fewn cyfnod o 21 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod pan fo’r newid yn digwydd, neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi i’r newid ddigwydd, pa un bynnag yw’r diweddaraf.
(3) Nid yw’r ddyletswydd a osodir ar berson gan is-baragraff (1) yn cynnwys hysbysu ynghylch—
(a)newidiadau yn swm y dreth gyngor sy’n daladwy i’r awdurdod;
(b)newidiadau yn oedran y ceisydd neu oedran unrhyw aelod o deulu’r ceisydd;
(c)yn achos ceisydd sy’n cael budd-dal perthnasol, newidiadau mewn amgylchiadau sy’n effeithio ar swm y budd-dal ond nid ar swm y gostyngiad y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan gynllun yr awdurdod, ac eithrio terfynu’r hawlogaeth i gael y budd-dal.
(4) At ddibenion is-baragraff (3)(c) ystyr “budd-dal perthnasol” (“relevant benefit”) yw cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm neu gredyd cynhwysol.
(5) Er gwaethaf is-baragraff (3)(b) neu (c), mae’n ofynnol o dan is-baragraff (1) fod ceisydd yn hysbysu’r awdurdod ynghylch unrhyw newid yng nghyfansoddiad teulu’r ceisydd, sy’n digwydd pan nad yw person, a oedd yn aelod o deulu’r ceisydd, bellach yn berson o’r fath, oherwydd bod y person hwnnw wedi peidio â bod yn blentyn neu berson ifanc.
(6) Rhaid i berson y rhoddwyd gostyngiad iddo o dan gynllun awdurdod ac sydd hefyd yn cael credyd pensiwn y wladwriaeth adrodd am—
(a)newidiadau sy’n effeithio ar breswylfa neu incwm unrhyw annibynnydd sydd fel arfer yn preswylio gyda’r ceisydd, neu y mae’r ceisydd fel arfer yn preswylio gydag ef;
(b)unrhyw absenoldeb o’r annedd sy’n hwy, neu’n debygol o fod yn hwy, na 13 wythnos.
(7) Rhaid i berson y mae ei gredyd pensiwn y wladwriaeth yn cynnwys credyd cynilion yn unig adrodd hefyd am—
(a)newidiadau sy’n effeithio ar blentyn sy’n byw gyda’r person hwnnw, a allai arwain at newid yn swm y gostyngiad o dan gynllun yr awdurdod a ganiateir yn achos y person hwnnw, ond nid newidiadau yn oedran y plentyn;
(b)unrhyw newid yn y swm o gyfalaf y person hwnnw sydd i’w gymryd i ystyriaeth, sy’n peri, neu a allai beri, bod swm cyfalaf y person hwnnw’n fwy nag £16,000;
(c)unrhyw newid yn incwm neu gyfalaf—
(i)annibynnydd y trinnir ei incwm a’i gyfalaf fel pe baent yn eiddo i’r ceisydd yn unol â pharagraff 6 o Atodlen 1 neu baragraff 8 o Atodlen 6 (amgylchiadau pan drinnir incwm annibynnydd fel pe bai’n eiddo i’r ceisydd); neu
(ii)person y cyfeirir ato ym mharagraff 8(2)(e) o Atodlen 1 (partner a drinnir fel aelod o’r aelwyd o dan baragraff 8),
a pha un a yw person o’r fath neu, yn ôl fel y digwydd, annibynnydd o’r fath yn peidio â byw neu’n dechrau byw neu’n ailddechrau byw gyda’r ceisydd.
(8) Nid oes raid i berson sydd â hawl i ostyngiad o dan gynllun awdurdod ac yn cael credyd pensiwn y wladwriaeth adrodd wrth yr awdurdod am newidiadau ac eithrio’r newidiadau a bennir yn is-baragraffau (6) a (7).
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 13 para. 7 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
RHAN 2LL+CPenderfyniadau gan awdurdod
Penderfyniad gan awdurdodLL+C
8. Rhaid i awdurdod wneud penderfyniad ar gais am ostyngiad o dan ei gynllun o fewn 14 diwrnod ar ôl bodloni paragraffau 2 a 5, neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 13 para. 8 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
Hysbysu ynghylch penderfyniadLL+C
9.—(1) Rhaid i awdurdod hysbysu mewn ysgrifen unrhyw berson yr effeithir arno gan benderfyniad a wneir gan yr awdurdod o dan ei gynllun—
(a)yn achos penderfyniad ar gais, ar unwaith neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedyn;
(b)mewn unrhyw achos arall, o fewn 14 diwrnod ar ôl gwneud y penderfyniad, neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedyn.
(2) Os dyfarnu gostyngiad yw’r penderfyniad, rhaid i’r hysbysiad o dan is-baragraff (1) gynnwys datganiad sy’n—
(a)rhoi gwybod i’r person yr effeithir arno am y ddyletswydd a osodir gan baragraff 7 (dyletswydd i hysbysu ynghylch newidiadau yn yr amgylchiadau);
(b)esbonio’r canlyniadau posibl (gan gynnwys erlyn) os methir â chydymffurfio â’r ddyletswydd honno; ac
(c)nodi’r amgylchiadau y gallai newid ynddynt effeithio ar yr hawlogaeth i gael gostyngiad neu ar swm y gostyngiad.
(3) Os dyfarnu gostyngiad yw’r penderfyniad, rhaid i’r hysbysiad o dan is-baragraff (1) gynnwys datganiad o’r modd y bodlonir yr hawlogaeth.
(4) Rhaid i’r hysbysiad o dan is-baragraff (1) gynnwys datganiad hefyd ynghylch y materion a bennir yn Atodlen 14.
(5) Caiff person yr effeithir arno ac y cyflwynodd neu anfonodd yr awdurdod hysbysiad o benderfyniad ato, o fewn un mis ar ôl dyddiad yr hysbysiad o benderfyniad hwnnw, ofyn mewn ysgrifen i’r awdurdod ddarparu datganiad ysgrifenedig sy’n nodi rhesymau’r awdurdod am ei benderfyniad ar unrhyw fater a nodir yn yr hysbysiad.
(6) Rhaid anfon y datganiad ysgrifenedig y cyfeirir ato yn is-baragraff (5) at y person sy’n gofyn amdano o fewn 14 diwrnod neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedyn.
(7) At ddibenion y paragraff hwn rhaid trin person fel person yr effeithir arno gan benderfyniad awdurdod o dan ei gynllun os effeithir ar hawliau, dyletswyddau neu ymrwymiadau’r person hwnnw gan y penderfyniad hwnnw ac os yw’r person yn dod o fewn is-baragraff (8).
(8) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i—
(a)y ceisydd;
(b)yn achos person sy’n atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd ac yn analluog am y tro i weithredu—
(i)dirprwy a benodwyd gan y Llys Gwarchod sydd â phŵer i hawlio neu, yn ôl fel y digwydd, cael budd-dal, ar ran y person; neu
(ii)yn yr Alban, goruchwyliwr barnwrol neu unrhyw warcheidwad sy’n gweithredu neu a benodwyd o dan Ddeddf Oedolion ag Analluedd (Yr Alban) 2000 sydd â phŵer i wneud cais neu, yn ôl fel y digwydd, cael budd-dal, ar ran y person; neu
(iii)atwrnai sydd â phŵer cyffredinol neu bŵer i wneud cais neu, yn ôl fel y digwydd, i gael budd-dal, wedi ei benodi gan y person hwnnw o dan Ddeddf Atwrneiaethau 1971, Deddf Atwrneiaethau Parhaus 1985 neu Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 neu rywfodd arall;
(c)person a benodwyd gan yr awdurdod o dan baragraff 1(3).
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 13 para. 9 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
RHAN 3LL+CDyfarniad neu daliad o ostyngiad
Dyfarniad neu daliad o ostyngiad o dan gynllunLL+C
10.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), pan fo hawl gan berson i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod mewn perthynas ag atebolrwydd y person hwnnw am dreth gyngor fel y caiff effaith mewn perthynas â blwyddyn ariannol, rhaid i’r awdurdod fodloni hawlogaeth y person hwnnw drwy leihau, i’r graddau sy’n bosibl, swm atebolrwydd y person hwnnw, y cyfeirir ato yn rheoliad 20(2) o Reoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992.
(2) Pan fo—
(a)hawl gan berson i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod mewn perthynas ag atebolrwydd y person hwnnw am dreth gyngor yr awdurdod fel y caiff effaith mewn perthynas â blwyddyn ariannol;
(b)y person sydd â hawl i gael y gostyngiad yn atebol ar y cyd ac yn unigol am y dreth gyngor; ac
(c)yr awdurdod yn penderfynu y byddai’n amhriodol bodloni hawlogaeth y person hwnnw drwy leihau swm atebolrwydd y person hwnnw, y cyfeirir ato yn rheoliad 20(2) o Reoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992,
caiff yr awdurdod wneud taliad i’r person hwnnw o swm y gostyngiad y mae hawl gan y person hwnnw i’w gael, wedi ei dalgrynnu, pan fo angen, i’r geiniog agosaf.
(3) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4) rhaid gwneud unrhyw daliad a wneir o dan is-baragraffau (1) neu (2) i’r person sydd â hawl i gael y gostyngiad.
(4) Os gwnaed y cais gan berson ac eithrio’r person sydd â hawl i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod a’r person cyntaf hwnnw’n berson sy’n gweithredu yn unol â phenodiad o dan baragraff 1(3) (personau a benodir i weithredu dros berson sy’n analluog i weithredu) neu a drinnir fel pe bai wedi ei benodi felly yn rhinwedd paragraff 1(4), caniateir talu swm y gostyngiad i’r person hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 13 para. 10 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)