xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
Rheoliad 34(3)
1. Y materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn unrhyw hysbysiad a ddyroddir gan yr awdurdod yn unol â pharagraff 9 o Atodlen 13 (hysbysu penderfyniad), yw’r materion a bennir yn narpariaethau canlynol yr Atodlen hon.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 14 para. 1 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
2. Rhaid i bob hysbysiad gynnwys datganiad ynglŷn â hawl unrhyw berson yr effeithir arno gan y penderfyniad i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig o dan baragraff 9(5) o Atodlen 13 (ceisiadau am ddatganiad o resymau), ac o’r modd a’r amser y ceir gwneud hynny.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 14 para. 2 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
3. Rhaid i bob hysbysiad gynnwys datganiad ynglŷn â hawl unrhyw berson yr effeithir arno gan y penderfyniad i apelio yn erbyn y penderfyniad yn unol â pharagraffau 8 a 10 o Atodlen 12 (gweithdrefn y caiff person ei dilyn i apelio yn erbyn penderfyniadau penodol yr awdurdod), ac o’r modd a’r amser y ceir gwneud hynny.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 14 para. 3 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
4.—(1) Pan ddyfernir gostyngiad o dan gynllun awdurdod i bensiynwr sy’n cael credyd pensiwn y wladwriaeth rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r canlynol—LL+C
(a)y swm wythnosol arferol o dreth gyngor y byddai’r person yn atebol i’w dalu cyn dyfarnu unrhyw ostyngiad o dan gynllun awdurdod, wedi ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf;
(b)yr uchafswm gostyngiad wythnosol y gallai person fod â hawl i’w gael o dan gynllun awdurdod, wedi ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf;
(c)swm wythnosol arferol y gostyngiad y penderfynodd yr awdurdod fod hawl gan y person i’w gael o dan ei gynllun, wedi ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf;
(d)swm a chategori unrhyw ddidyniadau annibynyddion a wnaed yn unol â chynllun yr awdurdod, os oes rhai; ac
(e)y diwrnod cyntaf y bydd hawl gan y person i gael gostyngiad o dan gynllun yr awdurdod,
ac mewn unrhyw achos pan fo’r swm y cyfeirir ato ym mharagraffau (a) i (c) yn diystyru ffracsiynau o geiniog, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad i’r perwyl hwnnw.
(2) Mewn achos pan fo gan bensiynwr, sy’n cael credyd pensiwn y wladwriaeth, hawlogaeth yn unig i gael y credyd cynilion, rhaid i’r hysbysiad nodi hefyd y materion canlynol—
(a)swm cymwysadwy’r person a sail y cyfrifiad;
(b)symiau y credyd cynilion a gymerwyd i ystyriaeth;
(c)swm incwm a chyfalaf y person, fel yr hysbyswyd yr awdurdod ohonynt gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac y’u cymerwyd i ystyriaeth at ddibenion penderfynu’r gostyngiad o dan gynllun yr awdurdod;
(d)unrhyw addasiad a wnaed i incwm neu gyfalaf y person (gweler paragraff 8 o Atodlen 1 (cyfrifo incwm pensiynwr mewn achosion credyd cynilion yn unig); ac
(e)swm cyfalaf y person yn yr achos hwnnw.
(3) Pan fo hawl gan bensiynwr i ostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) (gweler paragraff 32 o Atodlen 1), rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r materion a bennir ym mharagraff 4(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 14 para. 4 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
5. Pan ddyfernir gostyngiad o dan gynllun awdurdod i bensiynwr nad yw’n cael credyd pensiwn y wladwriaeth rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r canlynol—LL+C
(a)y materion a bennir ym mharagraff 4(1);
(b)swm cymwysadwy’r pensiynwr a’r modd y’i cyfrifwyd;
(c)enillion wythnosol y pensiynwr; a
(d)incwm ac enillion eraill y pensiynwr.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 14 para. 5 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
6. Os na ddyfernir gostyngiad i bensiynwr o dan gynllun awdurdod—LL+C
(a)ar sail incwm, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r canlynol—
(i)y materion a bennir ym mharagraff 4(1)(a), a
(ii)y materion a bennir ym mharagraff 5(b) i (d) pan nad yw’r pensiynwr yn cael credyd pensiwn y wladwriaeth;
(b)am unrhyw reswm arall, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r rheswm pam na wnaed dyfarniad.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 14 para. 6 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
7.—(1) Pan fo person nad yw’n bensiynwr ac sy’n cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm yn cael dyfarniad o ostyngiad o dan gynllun awdurdod, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r canlynol—LL+C
(a)y swm wythnosol arferol o dreth gyngor y byddai’r person yn atebol i’w dalu cyn dyfarnu unrhyw ostyngiad o dan gynllun awdurdod, wedi ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf;
(b)yr uchafswm gostyngiad wythnosol y gallai person fod â hawl i’w gael o dan gynllun awdurdod, wedi ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf;
(c)swm wythnosol arferol y gostyngiad y penderfynodd yr awdurdod fod hawl gan y person i’w gael o dan ei gynllun, wedi ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf;
(d)swm a chategori unrhyw ddidyniadau annibynyddion a wnaed yn unol â chynllun yr awdurdod, os oes rhai; ac
(e)y diwrnod cyntaf y bydd hawl gan y person i gael gostyngiad o dan gynllun yr awdurdod,
ac mewn unrhyw achos pan fo’r swm y cyfeirir ato ym mharagraffau (a) i (c) yn diystyru ffracsiynau o geiniog, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad i’r perwyl hwnnw.
(2) Pan fo hawl gan berson nad yw’n bensiynwr i gael gostyngiad estynedig neu ostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) yn unol â chynllun awdurdod, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r materion a bennir ym mharagraff 7(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 14 para. 7 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
8. Pan ddyfernir gostyngiad o dan gynllun awdurdod i berson sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol ac nad yw’n bensiynwr, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r canlynol—LL+C
(a)y materion a bennir ym mharagraff 7(1);
(b)swm cymwysadwy’r person (gweler paragraff 3 o Atodlen 6 (swm cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol)); ac
(c)incwm y person (gweler paragraff 9 o Atodlen 6 (cyfrifo incwm a chyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol)).
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 14 para. 8 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
9. Pan ddyfernir gostyngiad o dan gynllun awdurdod i berson nad yw’n bensiynwr ac nad yw’n cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm na chredyd cynhwysol, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r canlynol—LL+C
(a)y materion a bennir ym mharagraff 7(1);
(b)swm cymwysadwy’r person a’r modd y’i cyfrifwyd;
(c)enillion wythnosol y person; ac
(d)incwm wythnosol y person ac eithrio enillion.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 14 para. 9 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
10. Pan na roddir dyfarniad o ostyngiad o dan gynllun awdurdod i berson nad yw’n bensiynwr—LL+C
(a)ar sail incwm, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r canlynol—
(i)y materion a bennir ym mharagraff 7(1)(a); a
(ii)y materion a bennir ym mharagraff 8(b) ac (c) pan nad yw’r person yn cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm na chredyd cynhwysol;
(b)am unrhyw reswm arall, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r rheswm pam na wnaed dyfarniad.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 14 para. 10 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
11. Pan fo awdurdod yn gwneud penderfyniad o dan ei gynllun i drin cyfalaf ac incwm annibynnydd fel pe baent yn eiddo i’r ceisydd, (gweler paragraff 6 o Atodlen 1 a pharagraff 8 o Atodlen 6), rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r canlynol—LL+C
(a)y ffaith bod y penderfyniad wedi ei wneud drwy gyfeirio at incwm a chyfalaf annibynnydd y ceisydd, a
(b)rheswm yr awdurdod dros wneud y penderfyniad hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 14 para. 11 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)