xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 5LL+CDiystyriadau cyfalaf: pensiynwyr

RHAN 1LL+CCyfalaf sydd i’w ddiystyru

1.  Unrhyw fangre a gaffaelwyd i’w meddiannu gan y ceisydd ac y mae’r ceisydd yn bwriadu ei meddiannu fel cartref i’r ceisydd o fewn 26 wythnos ar ôl y dyddiad caffael neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i alluogi’r ceisydd i gael meddiant a dechrau meddiannu’r fangre.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

2.  Unrhyw fangre y mae’r ceisydd yn bwriadu ei meddiannu fel cartref i’r ceisydd, ac y mae’r ceisydd yn cymryd camau i gael meddiant ohoni ac wedi ceisio cyngor cyfreithiol, neu wedi cychwyn achos cyfreithiol gyda’r bwriad o gael meddiant, am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y ceisiodd y ceisydd gyntaf y cyfryw gyngor neu y cychwynnodd gyntaf achos o’r fath, pa un bynnag yw’r cynharaf, neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i alluogi’r ceisydd i gael meddiant a dechrau meddiannu’r fangre.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

3.  Unrhyw fangre y bwriada’r ceisydd ei meddiannu fel cartref iddo ac y mae angen gwneud atgyweiriadau neu newidiadau hanfodol iddi, er mwyn iddi fod yn addas i’w meddiannu felly, am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y mae’r ceisydd yn cymryd y camau gyntaf i gyflawni’r atgyweiriadau neu’r newidiadau hynny, neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n angenrheidiol er mwyn galluogi cyflawni’r atgyweiriadau neu’r newidiadau hynny.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

4.  Unrhyw fangre a feddiennir yn gyfan gwbl neu’n rhannol—LL+C

(a)gan berson sy’n berthynas i’r ceisydd neu bartner y ceisydd fel cartref i’r person hwnnw pan fo’r person hwnnw wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth, neu’n analluog;

(b)gan gyn-bartner y ceisydd fel cartref i’r person hwnnw; ond nid yw’r ddarpariaeth hon yn gymwys os yw’r cyn-bartner yn berson y mae’r ceisydd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, neu y ffurfiodd y ceisydd bartneriaeth sifil ag ef, sydd bellach wedi ei diddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 5 para. 4 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

5.  Unrhyw fuddiant yn y dyfodol mewn eiddo o unrhyw fath, ac eithrio tir neu fangre y caniataodd y ceisydd brydles neu denantiaeth arno neu arni, sy’n bodoli ar y pryd, gan gynnwys is-brydlesi neu is-denantiaethau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 5 para. 5 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

6.  Pan fo ceisydd wedi peidio â meddiannu’r hyn a oedd gynt yn annedd a feddiennid fel y cartref, yn dilyn ymwahaniad neu ysgariad y ceisydd oddi wrth ei bartner blaenorol, neu’n dilyn diddymu partneriaeth sifil rhwng y ceisydd a’i bartner blaenorol, yr annedd honno am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y peidiodd y ceisydd â meddiannu’r annedd neu, os meddiennir yr annedd fel cartref y partner blaenorol sydd hefyd yn unig riant, cyhyd ag y’i meddiennir felly.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 5 para. 6 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

7.  Unrhyw fangre pan fo’r ceisydd yn cymryd camau rhesymol i waredu’r cyfan o fuddiant y ceisydd yn y fangre honno, am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y cymerodd y ceisydd y camau cyntaf o’r fath neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau, i alluogi’r ceisydd i waredu’r fangre honno.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 5 para. 7 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

8.  Pob eiddo personol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 5 para. 8 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

9.  Asedau unrhyw fusnes sy’n eiddo, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, i’r ceisydd pan fo’r ceisydd yn gweithredu fel enillydd hunangyflogedig at ddibenion y busnes hwnnw, neu, os yw’r ceisydd wedi peidio â gweithredu felly, am ba gyfnod bynnag sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i ganiatáu gwaredu’r asedau hynny.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 5 para. 9 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

10.  Asedau unrhyw fusnes sy’n eiddo, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, i’r ceisydd—LL+C

(a)os nad yw’r ceisydd yn gweithredu fel enillydd hunangyflogedig yn y busnes hwnnw, oherwydd rhyw glefyd neu anabledd corfforol neu feddyliol; ond

(b)bod y ceisydd yn bwriadu gweithredu (neu, yn ôl fel y digwydd, gweithredu drachefn) fel enillydd hunangyflogedig yn y busnes hwnnw cyn gynted ag y bo’n gwella neu’n alluog i weithredu neu weithredu drachefn yn y busnes hwnnw,

am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y gwneir y cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, neu, os yw’n afresymol disgwyl i’r ceisydd ddechrau gweithredu neu weithredu drachefn yn y busnes hwnnw o fewn y cyfnod hwnnw, am ba bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau, i alluogi’r ceisydd i ddechrau gweithredu felly neu weithredu felly drachefn.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 5 para. 10 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

11.  Gwerth ildio unrhyw bolisi yswiriant bywyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 5 para. 11 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

12.  Gwerth unrhyw gontract cynllun angladd; ac at y diben hwn, ystyr “contract cynllun angladd” (“funeral plan contract”) yw contract lle—LL+C

(a)y mae’r ceisydd yn gwneud un neu ragor o daliadau i berson arall (“y darparwr”);

(b)y mae’r darparwr yn ymgymryd i ddarparu neu sicrhau y darperir, angladd yn y Deyrnas Unedig i’r ceisydd ar farwolaeth y ceisydd; ac

(c)unig ddiben y cynllun yw darparu, neu sicrhau y darperir, angladd i’r ceisydd ar farwolaeth y ceisydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 5 para. 12 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

13.  Pan fo taliad ex gratia wedi ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar neu ar ôl 1 Chwefror 2001 o ganlyniad i garcharu neu gaethiwo—LL+C

(a)y ceisydd;

(b)partner y ceisydd;

(c)priod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig y ceisydd; neu

(d)priod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig partner y ceisydd,

gan y Japaneaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd, swm sy’n hafal i’r taliad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 5 para. 13 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

14.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), swm unrhyw daliad ymddiriedolaeth a wneir i geisydd neu bartner ceisydd sydd yn—LL+C

(a)person â diagnosis;

(b)partner i berson â diagnosis, neu a oedd yn bartner i berson â diagnosis ar yr adeg y bu farw’r person â diagnosis; neu

(c)rhiant person â diagnosis, person yn gweithredu yn lle rhieni’r person â diagnosis, neu berson a oedd yn gweithredu felly ar ddyddiad marwolaeth y person â diagnosis.

(2Pan wneir taliad ymddiriedolaeth i—

(a)person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(a) neu (b), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad ymddiriedolaeth ac yn diweddu ar ddyddiad marwolaeth y person hwnnw;

(b)person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(c), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad ymddiriedolaeth ac yn diweddu ddwy flynedd ar ôl y dyddiad hwnnw.

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), swm unrhyw daliad gan berson y gwnaed taliad ymddiriedolaeth iddo neu unrhyw daliad allan o ystad person y gwnaed taliad ymddiriedolaeth iddo, a wneir i geisydd neu bartner ceisydd sydd yn—

(a)person â diagnosis;

(b)partner i berson â diagnosis, neu a oedd yn bartner i berson â diagnosis ar yr adeg y bu farw’r person â diagnosis; neu

(c)rhiant person â diagnosis, person yn gweithredu yn lle rhieni’r person â diagnosis, neu berson a oedd yn gweithredu felly ar ddyddiad marwolaeth y person â diagnosis.

(4Pan wneir taliad o’r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (3) i—

(a)person y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(a) neu (b), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad ac yn diweddu ar ddyddiad marwolaeth y person hwnnw;

(b)person y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(c), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad ac yn diweddu ddwy flynedd ar ôl y dyddiad hwnnw.

(5Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriad at berson—

(a)sy’n bartner y person â diagnosis;

(b)yn gweithredu yn lle rhieni’r person â diagnosis,

ar ddyddiad marwolaeth y person â diagnosis yn cynnwys person a fyddai wedi bod yn berson o’r fath neu’n berson a fyddai’n gweithredu felly, pe na bai’r person â diagnosis yn preswylio mewn cartref gofal neu ysbyty annibynnol.

(6Yn y paragraff hwn—

ystyr “person â diagnosis” (“diagnosed person”) yw person y gwnaed diagnosis ei fod yn dioddef o glefyd amrywiolyn Creutzfeldt-Jakob, neu y gwnaed diagnosis ar ôl marwolaeth y person hwnnw ei fod wedi dioddef o’r clefyd hwnnw;

ystyr “ymddiriedolaeth berthnasol” (“relevant trust”) yw ymddiriedolaeth a sefydlwyd gyda chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â phersonau a oedd yn dioddef, neu sydd yn dioddef, o glefyd amrywiolyn Creutzfeldt-Jakob, er budd personau sy’n gymwys i gael taliadau yn unol â’i darpariaethau;

ystyr “taliad ymddiriedolaeth” (“trust payment”) yw taliad o dan ymddiriedolaeth berthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 5 para. 14 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

15.  Swm unrhyw daliad, ac eithrio pensiwn rhyfel, a wneir i ddigolledu oherwydd bod y ceisydd, partner y ceisydd, priod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig y ceisydd neu briod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig partner y ceisydd—LL+C

(a)wedi bod yn gaeth lafurwr neu’n llafurwr dan orfodaeth;

(b)wedi dioddef colled eiddo neu wedi dioddef niwed personol; neu

(c)yn rhiant plentyn a fu farw,

yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 5 para. 15 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

16.—(1Unrhyw daliad a wnaed o dan neu gan—LL+C

(a)yr Ymddiriedolaethau, y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton, neu Gronfa Cymorth Elusennol Bomiau Llundain (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd yn y paragraff hwn fel “yr Ymddiriedolaethau”); neu

(b)y Gronfa Byw’n Annibynnol (2006).

(2Unrhyw daliad gan neu ar ran person sy’n dioddef neu a fu’n dioddef o haemoffilia, neu sydd neu a oedd yn berson cymwys, sy’n deillio o daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau ac a wneir i, neu er budd, partner neu gyn-bartner y person hwnnw—

(a)nad yw wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrth y person hwnnw, neu, os bu farw’r person hwnnw, nad oedd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, neu

(b)a ffurfiodd bartneriaeth sifil gyda’r person hwnnw, nad yw wedi ei diddymu, neu, os bu farw’r person hwnnw, nad oedd wedi ei diddymu pan fu farw.

(3Unrhyw daliad gan neu ar ran partner neu gyn-bartner person sy’n dioddef neu a fu’n dioddef o haemoffilia, neu sydd neu a oedd yn berson cymwys, sy’n deillio o daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau ac a wneir i, neu er budd y person sy’n dioddef o haemoffilia neu sy’n berson cymwys.

(4Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys—

(a)os nad yw’r partner neu gyn-bartner a’r person hwnnw wedi ymwahanu neu ysgaru, neu, os bu farw’r naill neu’r llall ohonynt, os nad oeddent wedi ymwahanu neu ysgaru, neu

(b)pan fo’r partner neu gyn-bartner a’r person hwnnw wedi ffurfio partneriaeth sifil, os nad yw’r bartneriaeth sifil wedi ei diddymu, neu, os bu farw’r naill neu’r llall ohonynt, os nad oedd wedi ei diddymu pan ddigwyddodd y farwolaeth.

(5Unrhyw daliad gan berson sy’n dioddef o haemoffilia neu sy’n berson cymwys, a’r taliad yn deillio o daliad o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau, pan—

(a)nad oes gan y person hwnnw bartner na chyn-bartner nad yw wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, na neb y ffurfiodd bartneriaeth sifil ag ef ac na ddiddymwyd y bartneriaeth honno, nac unrhyw blentyn sydd, neu a fu, yn aelod o aelwyd y person hwnnw; a

(b)gwneir y taliad naill ai—

(i)i riant neu lys-riant y person hwnnw; neu

(ii)os yw’r person hwnnw, ar y dyddiad y gwneir y taliad, yn blentyn neu’n fyfyriwr nad yw wedi cwblhau ei addysg amser llawn ac nad oes ganddo riant neu lys-riant, i unrhyw berson sy’n sefyll yn lle rhiant y plentyn neu’r person ifanc neu’r myfyriwr hwnnw,

ond hynny am gyfnod, yn unig, o’r dyddiad y gwneir y taliad hyd at ddiwedd cyfnod o ddwy flynedd ar ôl marwolaeth y person hwnnw.

(6Unrhyw daliad allan o ystad person a oedd yn dioddef o haemoffilia neu a oedd yn berson cymwys, a’r taliad yn deillio o daliad o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau, pan—

(a)nad oedd gan y person hwnnw, ar ddyddiad ei farwolaeth (“y dyddiad perthnasol”) bartner na chyn-bartner nad oedd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, na neb yr oedd wedi ffurfio partneriaeth sifil ag ef ac na ddiddymwyd y bartneriaeth honno, nac unrhyw blentyn a oedd, neu a oedd wedi bod, yn aelod o aelwyd y person hwnnw; a

(b)gwneir y taliad naill ai—

(i)i riant neu lys-riant y person hwnnw; neu

(ii)os oedd y person hwnnw, ar y dyddiad perthnasol, yn blentyn neu’n fyfyriwr nad oedd wedi cwblhau ei addysg amser llawn ac nad oedd ganddo riant neu lys-riant, i unrhyw berson sy’n sefyll yn lle rhiant y plentyn neu’r person ifanc neu’r myfyriwr hwnnw,

ond hynny am gyfnod, yn unig, o ddwy flynedd o’r dyddiad perthnasol.

(7Yn achos person y gwneir taliad, y cyfeirir ato yn y paragraff hwn, iddo neu er ei fudd, unrhyw adnodd cyfalaf sy’n deillio o unrhyw daliad o incwm neu gyfalaf a wneir o dan, neu sy’n deillio o, unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 5 para. 16 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

17.—(1Swm sy’n hafal i swm unrhyw daliad a wneir o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd neu, os oes partner gan y ceisydd, i’r partner.LL+C

(2Os gweinyddir y cyfan neu ran o’r taliad—

(a)gan yr Uchel Lys neu’r Llys Sirol o dan Reol 21.11(1) o Reolau Trefniadaeth Sifil 1998(1) neu’r Llys Gwarchod, neu ar ran person pan na ellir gwneud y taliad ac eithrio drwy orchymyn neu gyfarwyddyd unrhyw lys o’r fath;

(b)yn unol â gorchymyn a wneir o dan Reol 36.14 o Reolau Achosion Cyffredin 1993 neu o dan Reol 128 o’r Rheolau hynny; neu

(c)yn unol â thelerau ymddiriedolaeth a sefydlwyd er budd y ceisydd neu bartner y ceisydd,

y cyfan o’r swm a weinyddir felly.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 5 para. 17 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

18.  Unrhyw swm a bennir ym mharagraff 19, 20, 21 neu 25 am gyfnod o un flwyddyn sy’n cychwyn gyda dyddiad derbyn y swm hwnnw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 5 para. 18 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

19.  Symiau a delir o dan bolisi yswiriant mewn cysylltiad â cholled neu ddifrod i’r eiddo a feddiennir gan y ceisydd fel cartref i’r ceisydd, ac i eiddo personol y ceisydd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 5 para. 19 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

20.  Cymaint o unrhyw symiau a delir i’r ceisydd neu a adneuir yn enw’r ceisydd at yr unig ddiben o—LL+C

(a)prynu mangre y mae’r ceisydd yn bwriadu ei meddiannu fel cartref i’r ceisydd; neu

(b)cyflawni atgyweiriadau neu newidiadau hanfodol i’r fangre a feddiennir, neu y bwriedir ei meddiannu, gan y ceisydd fel cartref y ceisydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 5 para. 20 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

21.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff 22 unrhyw swm a delir—LL+C

(a)fel ôl-daliad o fudd-dal;

(b)i ddigolledu am dalu budd-dal yn hwyr;

(c)yn lle taliad o fudd-dal;

(d)i unioni, neu ddigolledu am gamgymeriad swyddogol fel y’i diffinnir at ddibenion paragraff 22, sef swm nad yw’r paragraff hwnnw’n gymwys iddo;

(e)gan awdurdod lleol allan o gyllid a ddarperir naill ai o dan adran 93 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(2) o dan gynllun a elwir “Cefnogi Pobl” neu adran 91 o Ddeddf Tai (Yr Alban) 2001(3).

(2Yn is-baragraff (1), ystyr “budd-dal” (“benefit”) yw—

(a)lwfans gweini o dan adran 64 o DCBNC;

(b)lwfans byw i’r anabl;

(c)taliad annibyniaeth bersonol;

(d)TALlA;

(e)cymhorthdal incwm;

(f)lwfans ceisio gwaith ar sail incwm;

(g)credyd pensiwn y wladwriaeth;

(h)budd-dal tai;

(i)budd-dal treth gyngor;

(j)credyd treth plant;

(k)cynnydd mewn pensiwn anabledd o dan adran 104 o DCBNC (cynnydd pan fo angen gweini cyson), ac unrhyw gynnydd pellach mewn pensiwn o’r fath o dan adran 105 o DCBNC (cynnydd ar gyfer anabledd eithriadol o ddifrifol);

(l)unrhyw swm a gynhwysir oherwydd anabledd eithriadol o ddifrifol y ceisydd neu’r angen am weini cyson mewn pensiwn anabledd rhyfel neu bensiwn rhyfel gwraig neu ŵr gweddw;

(m)unrhyw daliad tai disgresiynol a delir yn unol â rheoliad 2(1) o Reoliadau Cymorth Ariannol Disgresiynol 2001(4);

(n)credyd treth gwaith; neu

(o)lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 5 para. 21 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

22.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), unrhyw daliad o £5,000 neu ragor, a wnaed i unioni, neu ddigolledu am gamgymeriad swyddogol mewn cysylltiad â budd-dal perthnasol ac a gafwyd yn llawn gan y ceisydd ar neu ar ôl y diwrnod yr enillodd y ceisydd yr hawl i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod.LL+C

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), cyfanswm unrhyw daliadau a ddiystyrir o dan—

(a)paragraff 7(2) o Atodlen 10 i Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987(5);

(b)paragraff 12(2) o Atodlen 8 i Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996(6);

(c)paragraff 9(2) o Atodlen 5 i Reoliadau Budd-dal y Dreth Gyngor 2006(7);

(d)paragraff 20A o Atodlen 5 i Reoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(8);

(e)paragraff 11(2) o Atodlen 9 i Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008(9),

os oedd y dyfarniad yr oedd y taliadau i’w diystyru ddiwethaf mewn perthynas ag ef o dan y Rheoliadau hynny naill ai’n terfynu yn union cyn y dyddiad perthnasol neu’n parhau mewn bodolaeth ar y dyddiad hwnnw.

(3Bydd unrhyw ddiystyriad sy’n gymwys o dan is-baragraff (1) neu (2) yn cael effaith hyd nes daw’r dyfarniad i ben.

(4Yn y paragraff hwn—

ystyr “y dyfarniad” (“the award”), ac eithrio yn is-baragraff (2), yw—

(a)

y dyfarniad o ostyngiad o dan gynllun awdurdod pan geir y swm perthnasol, neu, os telir y swm perthnasol mewn mwy nag un rhandaliad, pan geir y rhandaliad cyntaf o’r swm hwnnw; a

(b)

os dilynir y dyfarniad hwnnw gan un neu ragor o ddyfarniadau pellach, sy’n dechrau yn union wedi i’r dyfarniad blaenorol ddod i ben, neu sydd bob un yn dechrau yn union wedi i’r un blaenorol ddod i ben, y cyfryw ddyfarniadau pellach tan ddiwedd yr olaf ohonynt, ar yr amod, ar gyfer y cyfryw ddyfarniadau pellach, mai’r ceisydd—

(i)

yw’r person a gafodd y swm perthnasol;

(ii)

yw partner y person hwnnw; neu

(iii)

a oedd yn bartner y person hwnnw ar ddyddiad marwolaeth y person hwnnw;

mae i “camgymeriad swyddogol”—

(c)pan fo’r camgymeriad yn ymwneud â budd-dal tai, neu fudd-dal treth gyngor (mewn perthynas ag unrhyw gyfnod cyn 1 Ebrill 2013), yr ystyr a roddir i “official error” gan reoliad 1(2) o Reoliadau Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor (Penderfyniadau ac Apelau) 2001(10); a

(d)pan fo’r camgymeriad yn ymwneud ag unrhyw fudd-dal perthnasol arall, yr ystyr a roddir i “official error” gan reoliad 1(3) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant (Penderfyniadau ac Apelau) 1999(11);

ystyr “budd-dal perthnasol” (“relevant benefit”) yw unrhyw fudd-dal a bennir ym mharagraff 21(2);

ystyr “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw’r dyddiad y gwnaed cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod; ac

ystyr “y swm perthnasol” (“the relevant sum”) yw’r taliad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) neu’r cyfanswm y cyfeirir ato yn is-baragraff (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 5 para. 22 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

23.  Os delir ased cyfalaf mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, unrhyw gostau bancio neu gomisiwn sy’n daladwy am drosi’r cyfalaf hwnnw i sterling.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 5 para. 23 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

24.  Gwerth yr hawl i gael incwm o gynllun pensiwn galwedigaethol neu gynllun pensiwn personol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 5 para. 24 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

25.  Unrhyw ôl-daliad o bensiwn atodol a ddiystyrir o dan baragraff 4 o Atodlen 4 (symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: pensiynwyr) neu o unrhyw swm a ddiystyrir o dan baragraff 5 neu 6 o’r Atodlen honno.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 5 para. 25 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

26.  Yr annedd a feddiennir fel y cartref; ond un annedd yn unig sydd i’w diystyru o dan y paragraff hwn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 5 para. 26 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

27.  Pan fo person yn dewis yr hawl i gael cyfandaliad o dan Atodlen 5 neu 5A i DCBNC neu o dan Atodlen 1 i Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Budd-dal Ymddeol Graddedig) 2005(12), neu pan drinnir ef fel pe bai wedi gwneud dewis o’r fath, a thaliad wedi ei wneud yn unol â’r dewis hwnnw, swm sy’n hafal i—LL+C

(a)ac eithrio pan fo is-baragraff (b) yn gymwys, swm unrhyw daliad neu daliadau a wneir ar gyfrif y cyfandaliad hwnnw; neu

(b)swm y cyfandaliad hwnnw,

ond hynny cyhyd, yn unig, nad yw’r person hwnnw’n newid y dewis hwnnw o blaid cynnydd mewn pensiwn neu fuddion.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 5 para. 27 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

28.  Unrhyw daliadau a wneir yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan—LL+C

(a)adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001(13) (taliadau uniongyrchol);

(b)adran 12B o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(14) (taliadau uniongyrchol mewn perthynas â gwasanaethau gofal cymunedol);

(c)adrannau 12A i 12C o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (taliadau uniongyrchol am ofal iechyd);

(d)erthygl 15 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(15) (lles cymdeithasol cyffredinol); neu

(e)adran 8 o Ddeddf Gofalwyr a Thaliadau Uniongyrchol (Gogledd Iwerddon) 2002(16) (taliadau uniongyrchol).

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 5 para. 28 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)