Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

Didyniadau annibynyddion : personau nad ydynt yn bensiynwyrLL+C

5.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y paragraff hwn, y didyniadau annibynyddion mewn perthynas â diwrnod, y cyfeirir atynt ym mharagraff 4 yw—

(a)mewn perthynas ag annibynnydd 18 mlwydd oed neu’n hŷn sy’n gweithio am dâl, £10.95 x 1/7;

(b)mewn perthynas ag annibynnydd 18 mlwydd oed neu’n hŷn nad yw paragraff (a) yn gymwys iddo, £3.65 x 1/7.

(2Yn achos annibynnydd 18 mlwydd oed neu’n hŷn y mae is-baragraff (1)(a) yn gymwys iddo, os dangosir i’r awdurdod fod incwm wythnosol gros arferol yr annibynnydd hwnnw—

(a)yn llai na £186.00, y didyniad sydd i’w wneud o dan y paragraff hwn yw’r didyniad a bennir yn is-baragraff (1)(b);

(b)yn ddim llai na £186.00 ond yn llai na £322.00, y didyniad sydd i’w wneud o dan y paragraff hwn yw £7.25 x 1/7;

(c)yn ddim llai na £322.00 ond yn llai na £401.00, y didyniad sydd i’w wneud o dan y paragraff hwn yw £9.15 x 1/7.

(3Un didyniad yn unig sydd i’w wneud o dan y paragraff hwn mewn perthynas â chwpl neu, yn ôl fel y digwydd, mewn perthynas ag aelodau priodas amlbriod (ac eithrio os oes dyfarniad o gredyd cynhwysol), ac os byddai’r swm y byddid yn ei ddidynnu mewn perthynas ag un aelod o gwpl neu o briodas amlbriod, oni bai am y paragraff hwn, yn uwch na’r swm (os oes swm) y byddid yn ei ddidynnu mewn perthynas â’r aelod arall, neu unrhyw aelod arall, rhaid didynnu’r swm uchaf.

(4Wrth gymhwyso darpariaethau is-baragraff (2) yn achos cwpl, neu, yn ôl fel y digwydd, priodas amlbriod, at ddibenion yr is-baragraff hwnnw rhaid rhoi sylw i incwm gros wythnosol y cwpl ar y cyd neu, yn ôl fel y digwydd, incwm gros wythnosol holl aelodau’r briodas amlbriod.

(5Mewn perthynas â diwrnod, os yw—

(a)person yn breswylydd mewn annedd, ond nad yw’r person hwnnw’n atebol am dreth gyngor mewn perthynas â’r annedd honno a’r diwrnod hwnnw;

(b)preswylwyr eraill yn yr annedd honno (y personau atebol) yn atebol ar y cyd ac yn unigol am dreth gyngor mewn perthynas â’r annedd honno a’r diwrnod hwnnw, ac eithrio yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf 1992 (atebolrwydd gwŷr priod a gwragedd priod, a phartneriaid sifil); ac

(c)y person y mae paragraff (a) yn cyfeirio ato yn annibynnydd dau neu ragor o’r personau atebol,

rhaid dosrannu’r didyniad mewn perthynas â’r annibynnydd hwnnw yn gyfartal rhwng y personau atebol hynny.

(6Rhaid peidio â gwneud unrhyw ddidyniad mewn perthynas ag annibynyddion sy’n meddiannu annedd y ceisydd os yw’r ceisydd neu bartner y ceisydd—

(a)yn ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall yn rhinwedd paragraff 10 o Atodlen 7 (amod ychwanegol ar gyfer y premiwm anabledd); neu

(b)yn cael, mewn perthynas â’r ceisydd—

(i)lwfans gweini, neu byddai’n cael y lwfans hwnnw oni bai am—

(aa)atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 113(2) o DCBNC; neu

(bb)lleihad o ganlyniad i draddodi i’r ysbyty; neu

(ii)elfen ofal y lwfans byw i’r anabl, neu byddai’n cael yr elfen honno oni bai am—

(aa)atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 113(2) o DCBNC; neu

(bb)lleihad o ganlyniad i draddodi i’r ysbyty; neu

(iii)elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol, neu byddai’n cael y lwfans hwnnw oni bai am atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 86 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 (cleifion mewnol mewn ysbyty); neu

(iv)TALlA, neu byddai’n cael y taliad hwnnw oni bai am ei atal dros dro yn unol ag unrhyw delerau cynllun digolledu’r lluoedd arfog a’r lluoedd wrth gefn sy’n caniatáu ataliad dros dro oherwydd bod person yn cael triniaeth feddygol mewn ysbyty neu sefydliad cyffelyb.

(7Rhaid peidio â gwneud didyniad mewn perthynas ag annibynnydd—

(a)er bod yr annibynnydd yn preswylio gyda’r ceisydd, os yw’n ymddangos i’r awdurdod fod cartref arferol yr annibynnydd yn rhywle arall; neu

(b)os yw’r annibynnydd yn cael lwfans hyfforddi a delir mewn cysylltiad â hyfforddiant ieuenctid a sefydlwyd o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(1) neu adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990(2); neu

(c)os yw’r annibynnydd yn fyfyriwr amser llawn o fewn yr ystyr yn Atodlen 11 (myfyrwyr); neu

(d)os nad yw’r annibynnydd yn preswylio gyda’r ceisydd oherwydd bod yr annibynnydd wedi bod yn glaf am gyfnod hwy na 52 wythnos, ac at y dibenion hyn—

(i)mae i “claf” (“patient”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 24(6), a

(ii)os yw person wedi bod yn glaf am ddau neu ragor o gyfnodau ar wahân, a wahenir gan un neu ragor o ysbeidiau nad oes yr un ohonynt yn hwy na 28 diwrnod, rhaid trin y person hwnnw fel pe bai wedi bod yn glaf yn barhaus am gyfnod sydd â’i hyd yn hafal i gyfanswm y cyfnodau ar wahân hynny.

(8Rhaid peidio â gwneud didyniad mewn perthynas ag annibynnydd—

(a)sydd ar gymhorthdal incwm, credyd pensiwn y wladwriaeth, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm; neu

(b)y mae Atodlen 1 i Ddeddf 1992 yn gymwys iddo (personau a ddiystyrir at ddibenion disgownt); ond nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i annibynnydd sy’n fyfyriwr y cyfeirir ato ym mharagraff 4 o’r Atodlen honno.

(9Ar gyfer cymhwyso is-baragraff (2), rhaid diystyru o incwm gros wythnosol yr annibynnydd—

(a)unrhyw lwfans gweini, lwfans byw i’r anabl neu daliad annibyniaeth bersonol neu TALlA a dderbynnir gan yr annibynnydd;

(b)unrhyw daliad a wnaed o dan neu gan yr Ymddiriedolaethau, y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton neu’r Gronfa Byw’n Annibynnol (2006) y byddid, pe bai incwm yr annibynnydd wedi ei gyfrifo o dan baragraff 17 (cyfrifo incwm ac eithrio enillion), wedi ei ddiystyru o dan baragraff 28 o Atodlen 9 (incwm mewn nwyddau neu wasanaethau);

(c)unrhyw daliad y byddid, pe bai incwm yr annibynnydd wedi ei gyfrifo o dan baragraff 17 (cyfrifo incwm ac eithrio enillion), wedi ei ddiystyru o dan baragraff 41 o Atodlen 9 (taliadau a wneir o dan ymddiriedolaethau penodol a thaliadau penodol eraill).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)