xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CCynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor

Dyletswydd ar awdurdodau i wneud cynlluniau ac arfer swyddogaethauLL+C

12.—(1Rhaid i bob awdurdod yng Nghymru wneud cynllun a fydd yn pennu’r gostyngiadau a gymhwysir i’r symiau o dreth gyngor a fydd yn daladwy gan bersonau y mae’r cynllun yn gymwys iddynt mewn perthynas ag anheddau a leolir yn ardal yr awdurdod.

(2Ni chaiff y swyddogaeth o wneud cynllun, fel sy’n ofynnol gan y Rheoliadau hyn fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod o dan drefniadau gweithredol.

(3Nid yw adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys mewn perthynas â chyflawni’r swyddogaeth a grybwyllir ym mharagraff (1).

(4Yn y rheoliad hwn, mae i’r cyfeiriadau at “gweithrediaeth” a “trefniadau gweithredol” yr un ystyron a roddir, yn eu trefn i “executive” ac “executive arrangements” gan Ran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(2) neu offeryn a wnaed o dan y Rhan honno o’r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 12 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)