Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

Paratoi cynllunLL+C

17.—(1Cyn gwneud cynllun rhaid i’r awdurdod—

(a)cyhoeddi cynllun drafft yn y cyfryw ffurf yr ystyria’n briodol, a

(b)ymgynghori ag unrhyw bersonau eraill yr ystyria’n debygol bod ganddynt ddiddordeb yng ngweithrediad ei gynllun.

(2Ar ôl gwneud cynllun, rhaid i’r awdurdod gyhoeddi’r cynllun hwnnw yn y cyfryw ffurf yr ystyria’n briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 17 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)