Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

Cyfnodau o absenoldeb o annedd

26.—(1Nid yw person yn absennol o annedd mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod sy’n digwydd o fewn cyfnod o absenoldeb dros dro o’r annedd honno.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “cyfnod o absenoldeb dros dro” (“period of temporary absence”) yw—

(a)cyfnod o absenoldeb o ddim mwy na 13 wythnos, sy’n cychwyn gyda’r diwrnod cyfan cyntaf pan fo person yn preswylio mewn llety preswyl a phan fo, a chyhyd â bo—

(i)y person hwnnw’n preswylio yn y llety hwnnw;

(ii)y rhan o’r annedd lle mae’r person hwnnw’n preswylio fel arfer heb ei gosod neu ei his-osod; a

(iii)y cyfnod hwnnw o absenoldeb ddim yn rhan o gyfnod hwy o absenoldeb o’r annedd am fwy na 52 wythnos,

a’r person hwnnw wedi symud i’r llety at y diben o ganfod a yw’r llety’n addas ar gyfer ei anghenion, a chyda’r bwriad o ddychwelyd i’r annedd os daw’n amlwg nad yw’r llety’n addas ar gyfer ei anghenion;

(b)cyfnod o absenoldeb o ddim mwy na 13 wythnos, sy’n cychwyn gyda’r diwrnod cyfan cyntaf o absenoldeb o’r annedd pan fo, a chyhyd â bo—

(i)y person yn bwriadu dychwelyd i’r annedd;

(ii)y rhan o’r annedd lle mae’r person hwnnw’n preswylio fel arfer heb ei gosod neu ei his-osod; a

(iii)y cyfnod hwnnw’n annhebygol o fod yn hwy na 13 wythnos; ac

(c)cyfnod o absenoldeb o ddim mwy na 52 wythnos, sy’n cychwyn gyda’r diwrnod cyfan cyntaf o’r absenoldeb hwnnw pan fo, a chyhyd â bo—

(i)y person yn bwriadu dychwelyd i’r annedd;

(ii)y rhan o’r annedd lle mae’r person hwnnw’n preswylio fel arfer heb ei gosod neu ei his-osod;

(iii)y person yn berson y mae paragraff (3) yn gymwys iddo; a

(iv)y cyfnod o absenoldeb yn annhebygol o fod yn hwy na 52 wythnos neu, mewn amgylchiadau eithriadol, yn annhebygol o fod yn sylweddol hwy na’r cyfnod hwnnw.

(3Mae’r paragraff hwn yn gymwys i berson—

(a)a gedwir yn y ddalfa ar remánd tra’n disgwyl treial, neu y gwneir yn ofynnol, fel amod mechnïaeth, ei fod yn preswylio—

(i)mewn annedd ac eithrio’r annedd y cyfeirir ati ym mharagraff (1), neu

(ii)mewn mangre a gymeradwyir o dan adran 13 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007(1),

neu a gedwir yn y ddalfa tra’n disgwyl dedfryd ar ôl ei gollfarnu;

(b)sy’n preswylio mewn ysbyty neu sefydliad cyffelyb, fel claf;

(c)sy’n cael, neu y mae’i bartner neu blentyn dibynnol yn cael, triniaeth feddygol neu gyfnod gwella a gymeradwywyd yn feddygol, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, mewn llety ac eithrio llety preswyl;

(d)sy’n dilyn cwrs hyfforddi, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall;

(e)sy’n ymgymryd â gofal, a gymeradwywyd yn feddygol, person sy’n preswylio yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall;

(f)sy’n ymgymryd â gofal plentyn y mae’i riant neu’i warcheidwad yn absennol dros dro o’r annedd a feddiennir fel arfer gan y rhiant neu’r gwarcheidwad hwnnw at y diben o gael gofal a gymeradwywyd yn feddygol neu driniaeth feddygol;

(g)sydd, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, yn cael gofal a gymeradwywyd yn feddygol, mewn llety ac eithrio llety preswyl;

(h)sy’n fyfyriwr;

(i)sy’n cael gofal a ddarperir mewn llety preswyl ac nad yw’n berson y mae paragraff (2)(a) yn gymwys iddo; neu

(j)sydd wedi gadael yr annedd y mae’r person yn preswylio ynddi oherwydd ei fod yn ofni trais, naill ai yn yr annedd honno neu gan berson a oedd gynt yn aelod o deulu y person hwnnw.

(4Mae’r paragraff hwn yn gymwys i berson—

(a)a gedwir yn y ddalfa tra’n disgwyl dedfryd ar ôl ei gollfarnu neu o dan ddedfryd a osodwyd gan lys (ac eithrio person a gedwir mewn ysbyty o dan ddarpariaethau Deddf Iechyd Meddwl 1983(2), neu, yn yr Alban, o dan ddarpariaethau Deddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003(3) neu Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(4) neu, yng Ngogledd Iwerddon, o dan erthygl 4 neu 12 o Orchymyn Iechyd Meddwl (Gogledd Iwerddon)1986(5)); a

(b)wedi ei ryddhau dros dro o’r ddalfa yn unol â Rheolau a wnaed o dan ddarpariaethau Deddf Carchardai 1952(6) neu Ddeddf Carchardai (Yr Alban) 1989(7).

(5Pan fo paragraff (4) yn gymwys i berson, yna, ar gyfer unrhyw ddiwrnod pan fo’r person hwnnw yn rhydd dros dro—

(a)os digwyddodd cyfnod o absenoldeb dros dro o dan baragraff (2)(b) neu (c) yn union cyn y cyfryw ryddhad dros dro, rhaid trin y person hwnnw at ddibenion paragraff (1) fel pe bai’r person hwnnw’n parhau i fod yn absennol o’r annedd, er gwaethaf unrhyw ddychweliad i’r annedd;

(b)at ddibenion paragraff (3)(a), rhaid trin y person hwnnw fel pe bai’n parhau yn y ddalfa;

(c)os nad yw’r person hwnnw’n dod o fewn is-baragraff (a), rhaid peidio ag ystyried y person hwnnw’n berson sy’n atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd lle mae’r person hwnnw’n breswylydd.

(6Yn y rheoliad hwn—

ystyr “a gymeradwywyd yn feddygol” (“medically approved”) yw ardystiedig gan ymarferydd meddygol;

ystyr “claf” (“patient”) yw person sy’n cael triniaeth feddygol neu driniaeth arall fel claf mewnol mewn unrhyw ysbyty neu sefydliad cyffelyb;

ystyr “llety preswyl” (“residential accommodation”) yw llety a ddarperir mewn—

(a)

cartref gofal;

(b)

ysbyty annibynnol;

(c)

Cartref Abbeyfield; neu

(d)

sefydliad a reolir neu a ddarperir gan gorff a gorfforwyd gan Siarter Brenhinol neu a gyfansoddwyd gan Ddeddf Seneddol, ac eithrio awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol;

ystyr “cwrs hyfforddi” (“training course”) yw cwrs o hyfforddiant neu gyfarwyddyd a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n rhannol gan, neu ar ran, neu’n unol â threfniadau a wnaed gyda, neu a gymeradwywyd gan neu ar ran, Datblygu Sgiliau yr Alban, Menter yr Alban, Menter yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd, adran o’r llywodraeth, Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol.