- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
111.—(1) Rhaid i berson wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs rhan-amser dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i Weinidogion Cymru gais ar unrhyw ffurf y bydd Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol.
(2) Rhaid i’r canlynol fynd gyda’r cais—
(a)datganiad o dan reoliad 113(2) i (6) wedi ei lenwi gan yr awdurdod academaidd; a
(b)y dogfennau ychwanegol hynny y gall Gweinidogion Cymru eu gwneud yn ofynnol.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o naw mis sy’n dechrau gyda diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n cael ei gyflwyno mewn perthynas ag ef.
(4) Nid yw paragraff (3) yn gymwys—
(a)os yw un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 94(4) yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon ynglŷn â hi, ac yn yr achos hwn rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o naw mis sy’n dechrau ar y dyddiad pan fo’r digwyddiad yn digwydd.
(b)os yw’r ceisydd yn gwneud cais am grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol; neu
(c)os yw Gweinidogion Cymru o’r farn, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau’r achos penodol, y dylid llacio’r terfyn amser, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir ganddynt.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw’r ceisydd yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, a oes ganddo hawl i gael cymorth o dan y Rhan hon, a swm y cymorth sy’n daladwy, os oes swm yn daladwy o gwbl.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd mewn ysgrifen a oes ganddo hawl i gael cymorth o dan y Rhan hon ai peidio ac, os oes gan y ceisydd hawl, swm y cymorth sy’n daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, os oes swm yn daladwy o gwbl.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys