xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
63. Yn y Rhan hon—
(a)mae myfyriwr yng nghategori 1―
(i)yn ddarostyngedig i reoliad 57, os yw’r myfyriwr yn preswylio yng nghartref ei rieni tra bydd yn bresennol ar y cwrs; neu
(ii)os dechreuodd y myfyriwr ar y cwrs presennol cyn 1 Medi 2009 a’r myfyriwr yn aelod o urdd grefyddol ac yn byw yn un o dai’r urdd honno;
(b)mae myfyriwr yng nghategori 2 os nad yw yng nghategori 1 a’r myfyriwr yn bresennol ar un neu ragor o’r canlynol—
(i)cwrs ym Mhrifysgol Llundain;
(ii)cwrs mewn sefydliad sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol am hanner o leiaf o gyfanswm yr amser mewn unrhyw chwarter o’r cwrs yn y flwyddyn academaidd ar safle sydd yn gyfan gwbl neu yn rhannol yn ardal Dinas Llundain a chyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd; neu
(iii)cwrs rhyngosod mewn sefydliad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr ymgymryd â phrofiad gwaith neu gyfuniad o brofiad gwaith ac astudio ar yr amod bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r profiad gwaith hwnnw neu’r cyfuniad hwnnw o brofiad gwaith ac astudio am hanner o leiaf o gyfanswm yr amser mewn unrhyw chwarter o’r cwrs yn y flwyddyn academaidd ar safle neu safleoedd sydd yn gyfan gwbl neu’n rhannol yn ardal Dinas Llundain a chyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd;
(c)mae myfyriwr yng nghategori 3 os nad yw’r myfyriwr yng nghategori 1 ac os yw’r myfyriwr, fel rhan o’i gwrs, yn bresennol mewn sefydliad tramor, neu leoliad gwaith dramor yn ystod blwyddyn Erasmus;
(d)mae myfyriwr yng nghategori 4 os nad yw’r myfyriwr yng nghategori 1 a’i fod yn mynychu’r Athrofa;
(e)mae myfyriwr yng nghategori 5 os nad yw yng nghategorïau 1 i 4;
(f)“myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn” (“new system eligible student with full entitlement”) yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol;
(g)“myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn” (“old system eligible student with full entitlement”) yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn ac eithrio myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol;
(h)rhaid dehongli “rhiant” (“parent”), ac eithrio pan ddynodir yn wahanol, yn unol â pharagraff 1(1)(f) o Atodlen 5;
(i)ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig a bennir;
(j)“myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol” (“student with reduced entitlement”) yw myfyriwr cymwys—
(i)nad yw’n gymwys i gael grant at gostau byw mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd yn rhinwedd rheoliad 28(3)(a) neu (b) neu reoliad 28(7); neu
(ii)sydd, wrth wneud cais am fenthyciad at gostau byw, yn dewis peidio â rhoi’r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd;
(k)os un flwyddyn academaidd yn unig yw hyd cwrs i raddedigion neu ar lefel ôl-radd ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon, nid yw’r flwyddyn honno i gael ei thrin fel y flwyddyn derfynol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 63 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)