- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
1. Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 225/2012 sy’n diwygio Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 183/2005 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran cymeradwyo sefydliadau sy’n gosod ar y farchnad, at ddefnydd bwyd anifeiliaid, gynnyrch sy’n deillio o olewau llysiau a brasterau cyfunol ac o ran y gofynion penodol ar gyfer cynhyrchu, storio, cludo a phrofi diocsinau olewau, brasterau a chynnyrch sy’n deillio ohonynt (OJ Rhif L77, 16.3.2012, t.1) (“Rheoliad 225/2012”).
2. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3368 (Cy.265)) drwy —
(a)ailddatgan y diffiniad o Reoliad (EC) Rhif 183/2005 er mwyn iddo, yn rhinwedd adran 20A o Ddeddf Dehongli 1978, gynnwys y diwygiadau a wnaed gan Reoliad 225/2012 (rheoliad 2(2));
(b)darparu bod unrhyw gyfeiriad yn O.S. 2005/3280 at Atodiad i Reoliad (EC) Rhif 183/2005 i’w ddehongli fel cyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd (rheoliad 2(3));
(c)dynodi’r awdurdodau cymwys at ddibenion gorfodi darpariaethau penodol Rheoliad 225/2012 (rheoliad 2(4)); a
(d)darparu ar gyfer ffioedd sy’n daladwy am gymeradwyaethau sefydliadau penodedig (rheoliad 2(5) ac Atodlen 1).
3. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2010 (O.S. 2010/2652 (Cy.220)) drwy —
(a)dileu’r cyfeiriadau at un o offerynnau’r UE sydd wedi ei ddiddymu (rheoliad 3(2)); a
(b)gwneud yn fwy eglur eiriad y darpariaethau gorfodi sy’n ymwneud â Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar osod bwyd anifeiliaid ar y farchnad a’r defnydd ohono (OJ Rhif L229, 1.9.2009, t.1) (rheoliad 3(3) a (4) ac Atodlen 2).
4. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn: Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, Llawr 11, Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys