xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
3.—(1) Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen llythrennedd — llafaredd o'r enw “Y Cyfnod Sylfaen” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.
(2) Ar gyfer pob ysgol arall mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen literacy — oracy o'r enw “Foundation Phase” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol.
4.—(1) Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen llythrennedd — darllen o'r enw “Y Cyfnod Sylfaen” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.
(2) Ar gyfer pob ysgol arall mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen literacy — reading o'r enw “Foundation Phase” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol.
5.—(1) Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen llythrennedd — ysgrifennu o'r enw “Y Cyfnod Sylfaen” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.
(2) Ar gyfer pob ysgol arall mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen literacy — writing o'r enw “Foundation Phase” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol.
6. Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen rhifedd o'r enw “Y Cyfnod Sylfaen” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol ar gyfer pob ysgol.
7.—(1) Mae'r darpariaethau a nodir yn y ddogfen ar drywydd llythrennedd yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.
(2) Ar gyfer pob ysgol arall mae'r darpariaethau a nodir yn y ddogfen the routes to literacy yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol.
8. Mae'r darpariaethau a nodir yn y ddogfen ar drywydd rhifedd yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol ar gyfer pob ysgol.