xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gwnaed
14 Ionawr 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
17 Ionawr 2013
Yn dod i rym
1 Ebrill 2013
Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8(1) o Atodlen 8 a pharagraff 3(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004(1) ac sydd bellach wedi ei freinio ynddynt hwy(2).
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru i Orchymyn gael ei wneud o dan y pwerau hyn mewn cysylltiad â rhan o'i ardal.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu De Cymru yn unol â gofynion paragraff 8(3) o Atodlen 8 a pharagraff 3(4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg) 2013.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2013 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
2. Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn—
(a)ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a
(b)ardal gorfodi arbennig.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
14 Ionawr 2013
Erthygl 2
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Fwrdeistref Sirol Bro Morgannwg yn gyfan ac eithrio—
(a)Traffordd yr M4 gan gynnwys yr holl ffyrdd ymuno ac ymadael o'r ffin â Dinas a Sir Caerdydd wrth bwynt sydd ar ochr orllewinol y drosbont orllewinol wrth Gyffordd 33, i'r ffin â Rhondda Cynon Taf wrth bwynt sydd tua 260 o fetrau i'r gorllewin o ganol Cyffordd 34;
(b)ffyrdd y Weinyddiaeth Amddiffyn sydd o fewn Sain Tathan gan gynnwys—
Y darn cyfan o Aled Way o'i chyffordd â Flemingston Road;
Y darnau cyfan o Talybont Close, Clwyd Way, Margam Close, Tintern Close a Celyn Close o'u cyffyrdd ag Aled Way;
Y darnau cyfan o Crynant Close ac Ebbw Close o'u cyffyrdd â Clwyd Close;
Y darn cyfan o'r ffordd ddienw sy'n wynebu Eglwys a Chanolfan Gymunedol “The Gathering Place” o'i chyffordd â Flemingston Road.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn ardal gorfodi sifil ac yn ardal gorfodi arbennig at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Effaith ymarferol y Gorchymyn yw galluogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg i orfodi'r gyfraith ar dramgwyddau parcio o fewn yr ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn drwy gyfundrefn cyfraith sifil, mewn cyferbyniad â gorfodi'r gyfraith gan yr heddlu neu wardeiniaid traffig yng nghyd-destun cyfraith trosedd.
Gellir cael Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn a Memorandwm Esboniadol oddi wrth y Gangen Orchmynion, Trafnidiaeth, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn
Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Yn rhinwedd adran 92 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004, dynodwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn awdurdod cenedlaethol priodol o ran Cymru, at ddibenion Rhan 6 o'r Ddeddf honno.