xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyriadau Disgownt) 1992 (“Gorchymyn 1992”) yn rhagnodi amodau y mae'n rhaid i bersonau sydd â nam meddyliol difrifol a gwahanol bersonau o ddisgrifiadau eraill eu cyflawni er mwyn cael eu diystyried at ddibenion disgowntiau'r dreth gyngor y mae adran 11 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) yn rhagnodi ar eu cyfer.

Er mwyn i berson sydd â nam meddyliol difrifol gael ei ddiystyried at ddibenion disgowntiau'r dreth gyngor mae Gorchymyn 1992 yn rhagnodi bod yn rhaid iddo fod yn derbyn budd-dal cymwys. Mae erthygl 2(a) a (b) yn diwygio amodau Gorchymyn 1992 fel bod y rhan o'r taliad annibyniaeth bersonol sydd ar gyfer byw bob dydd yn cael ei chynnwys o fewn y diffiniad o fudd-dal cymwys.

Mae erthygl 2(c) yn diwygio ymhellach Orchymyn 1992 er mwyn cynnwys credyd cynhwysol, sy'n cynnwys swm i'w dalu i berson oherwydd gallu cyfyngedig y person hwnnw i weithio neu allu cyfyngedig i wneud gweithgareddau gwaith neu weithgareddau sy'n ymwneud â gwaith, yn y diffiniad o fudd-dal cymwys.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, nid ystyriwyd bod angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol ar y costau a'r manteision tebygol o gydymffurfio â'r Gorchymyn hwn.