- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
11. Ar ôl erthygl 10 mewnosoder—
10A.—(1) Caiff y Corff roi cyngor neu gymorth, gan gynnwys cyfleusterau hyfforddi, i unrhyw berson ar unrhyw fater y mae gan y Corff wybodaeth, sgiliau neu brofiad ynddo.
(2) Rhaid i'r pŵer a roddir gan baragraff (1) beidio â chael ei arfer pan fo'r person y rhoddir y cyngor neu'r cymorth iddo y tu allan i Gymru, ac eithrio—
(a)yn unol â phŵer neu ddyletswydd a roddir neu a osodir gan y deddfiad hwn neu unrhyw ddeddfiad arall;
(b)â chydsyniad ysgrifenedig Gweinidogion Cymru; neu
(c)yn unol â threfniadau a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru osod amodau wrth roi cydsyniad neu wrth gymeradwyo trefniadau o dan baragraff (2).
10B.—(1) Caiff y Corff roi cymorth ariannol i unrhyw berson mewn perthynas ag unrhyw wariant a ysgwyddwyd neu a ysgwyddir gan y person hwnnw wrth wneud unrhyw beth y mae'r Corff o'r farn ei fod yn gydnaws â chyrraedd unrhyw amcan y mae'r Corff yn ceisio ei gyrraedd wrth arfer ei swyddogaethau.
(2) Caiff y Corff roi cymorth ariannol o dan yr erthygl hon ar ffurf grant neu fenthyciad (neu yn rhannol yn y naill ffordd ac yn rhannol yn y llall).
(3) Caiff y Corff osod amodau ar gymorth ariannol o dan yr erthygl hon, a all gynnwys (heb gyfyngiad) amodau sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r cyfan neu ran o unrhyw grant gael ei ad-dalu neu ei had-dalu o dan amgylchiadau penodedig.
(4) Rhaid i'r Corff arfer y pŵer ym mharagraff (3) mewn modd sy'n sicrhau bod unrhyw berson sy'n cael cymorth ariannol mewn perthynas â mangre y mae'r cyhoedd i'w dderbyn iddi (am dâl neu fel arall) yn gwneud darpariaeth briodol at anghenion aelodau o'r cyhoedd sydd ag anableddau.
(5) Ym mharagraff (4), ystyr “darpariaeth briodol” (“appropriate provision”) yw unrhyw ddarpariaeth ar gyfer—
(a)mynedfeydd i'r fangre neu ynddi; a
(b)y cyfleusterau parcio a'r cyfleusterau glanweithiol sydd i fod ar gael (os oes rhai i fod ar gael),
sy'n ymarferol ac yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
(6) Dim ond gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru (sef cydsyniad a all fod yn benodol neu'n gyffredinol) neu yn unol â threfniadau a gymeradwyir ganddynt y caiff y Corff roi cymorth ariannol o dan yr erthygl hon.
10C.—(1) Rhaid i'r Corff wneud trefniadau i gyflawni gweithgareddau ymchwil mewn perthynas â materion sy'n berthnasol i unrhyw rai o'i swyddogaethau.
(2) Caiff y Corff—
(a)cyflawni gweithgareddau ymchwil ei hun neu ar y cyd â phersonau eraill;
(b)comisiynu neu gefnogi gweithgareddau ymchwil (boed drwy gyfrwng arian neu fel arall).
(3) Wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr erthygl hon mewn perthynas ag ymchwil ar gadwraeth natur, rhaid i'r Corff roi sylw i unrhyw safonau cyffredin a sefydlwyd o dan adran 34(2)(c) o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006(1).
(4) Yn yr erthygl hon—
(a)ystyr “gweithgareddau ymchwil” (“research activities”) yw gweithgareddau ymchwil a gweithgareddau perthynol;
(b)mae “gweithgareddau cysylltiedig” (“related activities”) yn cynnwys, heb gyfyngiad, gwneud arbrofion ac ymholiadau a chasglu ystadegau a gwybodaeth.
10D Mae'r swyddogaethau a roddir gan erthyglau 10 i 10C yn arferadwy o ran Cymru a pharth Cymru.
10E.—(1) Caiff y Corff ddwyn achosion troseddol yng Nghymru a Lloegr.
(2) Caiff y Corff awdurdodi personau i erlyn ar ei ran mewn achosion gerbron llysoedd ynadon yng Nghymru a Lloegr.
(3) Mae gan berson a awdurdodwyd felly hawl i erlyn mewn achosion o'r fath er nad yw'r person hwnnw'n fargyfreithiwr neu'n gyfreithiwr.”
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys