- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
31.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r grant at ffioedd a ddyfarnwyd i geisydd nes eu bod wedi cael cais dilys am y taliad oddi wrth yr awdurdod academaidd.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau'r grant at ffioedd i'r awdurdod academaidd mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau o gwbl) ac ar unrhyw adegau y maent yn credu eu bod yn briodol.
32.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grantiau at gostau byw a chostau eraill i fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau o gwbl) ac ar unrhyw adegau y maent yn credu eu bod yn briodol.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny, dalu'r grant sy'n daladwy o dan reoliad 21 (grant at fwrdd a llety) i'r awdurdod academaidd perthnasol er mwyn i'r awdurdod academaidd dalu'r grant perthnasol ar eu rhan.
(3) Os na all asesiad terfynol o swm y grantiau at gostau byw a chostau eraill sy'n daladwy i fyfyriwr gael ei wneud ar sail yr wybodaeth a roddwyd gan geisydd, caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau dros dro o'r grantiau hynny hyd nes y ceir yr asesiad terfynol.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny, wneud taliad o lwfans myfyrwyr anabl cyn dechrau'r flwyddyn academaidd y mae'r taliad hwnnw yn ddyledus mewn cysylltiad â hi.
(5) Pan fo'r amgylchiadau yn rheoliad 11(2)(a) neu reoliad 11(2)(c) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud taliadau cymorth i fyfyriwr ar ôl y dyddiad y mae'r myfyriwr yn rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar y cwrs oni bai eu bod yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny gan gymryd amgylchiadau achos y myfyriwr i ystyriaeth.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud unrhyw daliadau cymorth i fyfyriwr sy'n absennol o'r cwrs—
(a)am fwy na 60 diwrnod oherwydd salwch; neu
(b)am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall,
oni bai eu bod yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny gan gymryd amgylchiadau achos y myfyriwr i ystyriaeth.
33.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad grant at ffioedd oddi wrth yr awdurdod academaidd.
(2) Os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i'r myfyriwr hwnnw o dan Ran 4 sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y cymorth y mae gan y person hawlogaeth i'w gael o dan Ran 4.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys