Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi pwerau i Network Rail gaffael drwy orfodaeth dir a hawliau dros dir ac i ddefnyddio tir dros dro mewn cysylltiad ag ailadeiladu a chynnal a chadw rheilffordd a phont ym Mhont Briwet, fel yr awdurdodwyd gan Ddeddf Rheilffordd Aberystwyth ac Arfordir Cymru (Cyffredinol) 1865.
Nid yw'r Gorchymyn yn awdurdodi adeiladu gweithfeydd.
Gellir archwilio copio o blan y tir a'r cyfeirlyfr y cyfeirir ato yn y Gorchymyn yn swyddfeydd Ysgrifennydd a Chyfreithiwr y Cwmni, Network Rail Infrastructure Limited yn Kings Place, 90 York Way, Llundain N1 9AG.