- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
16. Mae darpariaethau Atodlen 4 (y darpariaethau o ran ymgymerwyr statudol, etc.) yn cael effaith.
17. Rhaid i Network Rail, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud y Gorchymyn hwn, gyflwyno copïau o'r cyfeirlyfr a phlan y tir i Weinidogion Cymru i ardystio eu bod yn gopïau gwir, yn ôl eu trefn, o'r cyfeirlyfr a phlan y tir y cyfeirir atynt yn y Gorchymyn hwn; ac mae dogfen a ardystiwyd felly yn dderbyniol mewn unrhyw achos llys fel tystiolaeth o gynnwys y ddogfen y mae'n gopi ohoni.
18.—(1) Caniateir cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall sy'n ofynnol neu a awdurdodwyd i'w gyflwyno neu i'w chyflwyno at ddibenion y Gorchymyn hwn—
(a)drwy'r post; neu
(b)drwy drosglwyddiad electronig, gyda chydsyniad y derbynnydd, ac yn ddarostyngedig i baragraffau (6) i (8).
(2) Os corff corfforaethol yw'r person y cyflwynir hysbysiad neu ddogfen arall iddo at ddibenion y Gorchymyn hwn, bydd yr hysbysiad neu'r ddogfen wedi ei gyflwyno neu ei chyflwyno'n briodol os cyflwynir yr hysbysiad neu'r ddogfen i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw.
(3) At ddibenion adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978(1) (cyfeiriadau at gyflwyno drwy'r post) fel y'i cymhwysir at ddibenion yr erthygl hon, cyfeiriad priodol unrhyw berson mewn perthynas â chyflwyno hysbysiad neu ddogfen i'r person hwnnw o dan baragraff (1), os yw'r person hwnnw wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno, yw'r cyfeiriad hwnnw, ac fel arall—
(a)swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r corff hwnnw yn achos ysgrifennydd neu glerc corff corfforaethol; a
(b)cyfeiriad hysbys olaf y person hwnnw ar adeg y cyflwyno, yn unrhyw achos arall.
(4) At ddibenion y Gorchymyn hwn, pan fo'n ofynnol cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall, neu yr awdurdodwyd gwneud hynny, i berson sydd ag unrhyw fuddiant yn y tir, neu sy'n feddiannydd y tir, ac ni ellir dod o hyd i'w enw na'i gyfeiriad ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, caniateir cyflwyno'r hysbysiad drwy—
(a)ei gyfeirio at y person hwnnw gan ddefnyddio ei enw, neu gan ei ddisgrifio fel “perchennog” neu, yn ôl y digwydd, “meddiannydd” y tir (gan ddisgrifio'r tir); a
(b)naill ai ei adael yn nwylo'r person sydd, neu yr ymddengys ei fod, yn preswylio neu wedi ei gyflogi ar y tir, neu osod yr hysbysiad yn weladwy ar ryw adeilad neu wrthrych ar y tir neu'n agos ato.
(5) Pan gyflwynir neu yr anfonir, drwy drosglwyddiad electronig, hysbysiad neu ddogfen arall y mae'n ofynnol ei gyflwyno neu ei chyflwyno, neu ei anfon neu ei hanfon at ddibenion y Gorchymyn hwn, bernir bod y gofyniad wedi ei gyflawni pan fo derbynnydd yr hysbysiad neu'r ddogfen arall sydd i'w drosglwyddo neu i'w throsglwyddo wedi cydsynio, naill ai yn ysgrifenedig neu drwy drosglwyddiad electronig, i ddefnyddio'r trosglwyddiad electronig.
(6) Pan fo'r derbynnydd sy'n cael hysbysiad neu ddogfen arall a gyflwynir neu a anfonir drwy drosglwyddiad electronig yn hysbysu'r anfonwr o fewn 7 niwrnod ar ôl ei gael neu ei chael, fod arno angen copi papur o'r cyfan neu unrhyw ran o'r hysbysiad hwnnw neu'r ddogfen arall honno, rhaid i'r anfonwr ddarparu copi o'r fath cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(7) Yn unol â pharagraff (8), caiff person ddirymu unrhyw gydsyniad a roddir gan y person hwnnw i ddefnyddio trosglwyddiad electronig.
(8) Pan na fo person yn fodlon mwyach i dderbyn y defnydd o drosglwyddiad electronig at unrhyw un neu ragor o ddibenion y Gorchymyn hwn—
(a)rhaid i'r person hwnnw roi hysbysiad yn ysgrifenedig neu drwy drosglwyddiad electronig sy'n dirymu unrhyw gydsyniad a roddwyd gan y person hwnnw at y diben hwnnw; a
(b)mae dirymiad o'r fath yn derfynol, ac mae'n cymryd effaith ar y dyddiad a bennir gan y person yn yr hysbysiad ond rhaid i'r dyddiad hwnnw beidio â bod yn llai na 7 niwrnod ar ôl y dyddiad pryd y rhoddwyd yr hysbysiad.
(9) Nid yw'r erthygl hon yn gwahardd defnyddio unrhyw ddull arall o gyflwyno na ddarparwyd ar ei gyfer yn ddatganedig ynddi.
19. Nid yw digollediad yn daladwy o dan y Gorchymyn hwn ac o dan unrhyw ddeddfiad, unrhyw gontract neu unrhyw reol gyfreithiol arall mewn perthynas â'r un mater.
20. Nid yw'r Gorchymyn hwn yn awdurdodi caffael, diddymu nac amharu ar unrhyw hawliau sydd gan SP Manweb plc, mewn perthynas â'i gebl trydan uwchben presennol, yn y tir a ddangosir â'r marciau 1a ac 1c ar blan y tir.
21. Nid yw'r Gorchymyn hwn yn awdurdodi caffael drwy orfodaeth fuddiant mewn tir sy'n perthyn i'r Goron neu Ddugaeth, nac, ac eithrio â chydsyniad yr awdurdod priodol, unrhyw fuddiant arall mewn tir y mae buddiant gan y Goron neu Ddugaeth ynddo.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys