xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5Ceisiadau gan feddygon am eu cynnwys mewn rhestrau meddygon fferyllol neu ddiwygio rhestrau meddygon fferyllol

Cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn mynd yn ddi-rym

26.—(1Bydd cydsyniad amlinellol yn peidio â chael effaith—

(a)os na fydd darparu gwasanaethau gweinyddu wedi cychwyn o fewn deuddeng mis wedi i gydsyniad amlinellol neu gymeradwyaeth mangre gael effaith o dan reoliad 25 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn cael effaith);

(b)pan fo mwy na 12 mis wedi mynd heibio er pan ddarparwyd gwasanaethau gweinyddu ddiwethaf;

(c)pan fo practisiau'n cyfuno ac ar ôl cyfuno nid oes mangre practis sydd â chymeradwyaeth mangre; neu

(d)pan fo cydsyniad amlinellol wedi mynd yn ddi-rym o dan reoliad 25.

(2Bydd cymeradwyaeth mangre yn peidio â chael effaith mewn perthynas ag—

(a)mangre restredig sydd, yn barhaol, wedi peidio â bod yn fangre practis;

(b)mangre restredig nas defnyddiwyd ar gyfer gweinyddu gan unrhyw feddyg a awdurdodwyd i weinyddu o'r fangre honno am gyfnod o chwe mis, neu pa bynnag gyfnod hwy a ganiateir am reswm da gan y Bwrdd Iechyd Lleol;

(c)mangre restredig lle mae'r meddyg, y rhestrwyd y fangre o dan ei enw yn y rhestr meddygon fferyllol, wedi hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol fod yr holl feddygon sydd ag awdurdod i weinyddu o'r fangre honno wedi rhoi'r gorau i wneud hynny;

(d)mangre restredig lle nad oes meddyg sydd â chymeradwyaeth mangre mewn perthynas â'r fangre honno yn weddill ar y rhestr meddygon fferyllol; neu

(e)mangre restredig y caniatawyd cymeradwyaeth mangre iddi o dan reoliad 29(3), os nad oes cyfuno practisiau yn digwydd o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 29(7).

(3Bydd cymeradwyaeth mangre yn peidio â chael effaith pan yw'r cydsyniad amlinellol perthnasol yn peidio â chael effaith.