Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013

Gwrthod ceisiadau ar sail addasrwyddLL+C

32.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i geisiadau a wneir o dan—

(a)rheoliad 8(1)(a) (ceisiadau am gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu ddiwygio rhestr fferyllol), ac eithrio pan wneir y cais gan berson sydd â chydsyniad rhagarweiniol dilys yn unol â rheoliad 12(5); a

(b)rheoliad 12 (ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniol) pan nad yw'r ceisydd eisoes wedi ei gynnwys yn rhestr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw.

(2Caiff Bwrdd Iechyd Lleol wrthod caniatáu cais os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)ar ôl ystyried yr wybodaeth a'r ymrwymiadau sy'n ofynnol gan Ran 2 o Atodlen 1 ac unrhyw wybodaeth arall sydd yn ei feddiant mewn perthynas â'r cais, o'r farn bod y ceisydd yn anaddas i'w gynnwys yn ei restr fferyllol;

(b)ar ôl cysylltu â'r canolwyr enwebwyd gan y ceisydd yn unol â Rhan 2 o Atodlen 1, heb ei fodloni gan y geirdaon a roddwyd;

(c)ar ôl gwirio gydag Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG unrhyw ffeithiau yr ystyria'r Awdurdod yn berthnasol ynglŷn ag ymchwiliadau i dwyll, presennol neu yn y gorffennol, sy'n ymwneud neu sy'n gysylltiedig â'r ceisydd (ac os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd), ac ar ôl ystyried y ffeithiau hynny ac unrhyw ffeithiau eraill yn ei feddiant ynglŷn â thwyll sy'n ymwneud neu sy'n gysylltiedig â'r ceisydd (ac os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd), o'r farn eu bod yn cyfiawnhau gwrthodiad o'r fath;

(d)ar ôl gwirio gyda Gweinidogion Cymru unrhyw ffeithiau yr ystyriant yn berthnasol ynglŷn ag ymchwiliadau neu achosion, presennol neu yn y gorffennol, sy'n ymwneud neu sy'n gysylltiedig â'r ceisydd (ac os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd), ac ar ôl ystyried y ffeithiau hynny ac unrhyw ffeithiau eraill yn ei feddiant sy'n ymwneud neu sy'n gysylltiedig â'r ceisydd (ac os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd), o'r farn eu bod yn cyfiawnhau gwrthodiad o'r fath; neu

(e)o'r farn y byddai derbyn y ceisydd i'r rhestr yn niweidio effeithlonrwydd y gwasanaeth y byddai'r ceisydd yn ymrwymo i'w ddarparu.

(3Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol wrthod caniatáu cais os yw—

(a)y ceisydd (neu os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd) wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig am lofruddiaeth;

(b)y ceisydd (neu os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd) wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig am drosedd ac eithrio llofruddiaeth, a gyflawnwyd ar ôl y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym, ac wedi ei ddedfrydu i gyfnod hwy na chwe mis o garchar;

(c)y ceisydd yn destun anghymhwysiad cenedlaethol; neu

(d)y Tribiwnlys, yn dilyn apêl, yn penderfynu y caniateir cynnwys y ceisydd mewn rhestr fferyllol, yn ddarostyngedig i amodau, ond nad yw'r ceisydd, o fewn 30 diwrnod i'r penderfyniad hwnnw, wedi hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol ei fod wedi cytuno â gosod yr amodau.

(4Pan fo'r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried gwrthod cais o dan baragraff (2), rhaid iddo gymryd i ystyriaeth yr holl ffeithiau sy'n ymddangos iddo yn berthnasol, ac yn benodol, mewn perthynas â pharagraff (2)(a), (c) a (d), rhaid iddo ystyried—.

(a)natur unrhyw drosedd, ymchwiliad neu ddigwyddiad;

(b)yr amser a aeth heibio ers unrhyw drosedd, digwyddiad, collfarn neu ymchwiliad;

(c)a oes yna unrhyw droseddau, digwyddiadau neu ymchwiliadau eraill i'w hystyried;

(d)unrhyw gamau a gymerwyd neu gosb a osodwyd gan unrhyw gorff trwyddedu neu reoleiddio, gan yr heddlu neu'r llysoedd o ganlyniad i unrhyw drosedd, digwyddiad neu ymchwiliad o'r fath;

(e)pa mor berthnasol yw unrhyw drosedd, digwyddiad neu ymchwiliad i'r ddarpariaeth gan y ceisydd o wasanaethau fferyllol ac unrhyw risg debygol i ddefnyddwyr gwasanaethau fferyllol neu i arian cyhoeddus;

(f)a oedd unrhyw drosedd yn drosedd rywiol y mae Rhan 2 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003(1) yn gymwys iddi, neu y byddai wedi bod yn gymwys pe bai'r drosedd wedi ei chyflawni yng Nghymru neu Loegr;

(g)a yw'r ceisydd (ac os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd) wedi ei wrthod rhag ei gynnwys mewn unrhyw restr neu restr gyfatebol, neu wedi ei gynnwys yn amodol, neu ei dynnu, neu ei dynnu yn ddigwyddiadol, neu ar hyn o bryd wedi ei atal oddi arni dros dro ar seiliau addasrwydd i ymarfer, ac os felly, ffeithiau'r mater a arweiniodd at weithredu felly, a'r rhesymau a roddwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol dros weithredu felly; neu

(h)a fu'r ceisydd (ac os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd) ar adeg y digwyddiadau cychwynnol, neu yn ystod y chwe mis blaenorol, yn gyfarwyddwr neu'n uwcharolygydd corff corfforaethol y gwrthodwyd ei gynnwys mewn unrhyw restr neu restr gyfatebol, neu a gynhwyswyd yn amodol mewn rhestr o'r fath, neu a dynnwyd, neu a dynnwyd yn ddigwyddiadol oddi arni, neu sydd ar hyn o bryd wedi ei atal oddi arni dros dro, ar seiliau addasrwydd i ymarfer, ac os felly, beth oedd y ffeithiau ym mhob achos o'r fath, a'r rhesymau a roddwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol ym mhob achos.

(5Pan fo'r Bwrdd Iechyd Lleol yn cymryd i ystyriaeth y materion a bennir ym mharagraff (4), rhaid iddo ystyried effaith gyffredinol y materion a ystyrir.

(6Os yw Bwrdd Iechyd Lleol yn gwrthod cais y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, ar seiliau ym mharagraff (2) neu (3), rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r ceisydd o'r penderfyniad hwnnw, a chynnwys gyda'r hysbysiad esboniad o'r canlynol—

(a)y rhesymau am y penderfyniad;

(b)hawl y ceisydd i apelio i'r Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad, a bod rhaid arfer yr hawl honno o fewn 30 diwrnod o'r dyddiad yr hysbyswyd y ceisydd o'r penderfyniad; ac

(c)o fewn pa derfyn amser, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) 2008(2), y bydd rhaid anfon hysbysiad o'r cais at y Tribiwnlys os bwriedir dwyn apêl.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 32 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

(2)

O.S. 2008/2699 (Cyfr.16), gweler rheol 19 o'r Rheolau hynny.