Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013

Tynnu ymaith o restr fferyllol am dorri amodau mewn cysylltiad â seiliau addasrwydd neu osod neu amrywio neu osod amodau newydd o dan adran 108 o Ddeddf 2006LL+C

34.—(1Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried—

(a)tynnu enw person o'r rhestr fferyllol o dan adran 107 (datgymhwyso ymarferwyr) o Ddeddf 2006, ac eithrio mewn achosion a bennir yn rheoliad 35 (tynnu ymaith oddi ar restr fferyllol am resymau eraill);

(b)tynnu enw person o'r rhestr fferyllol yn ddigwyddiadol o dan adran 108 (tynnu digwyddiadol) o Ddeddf 2006;

(c)tynnu enw person o'r rhestr fferyllol am dorri amod a osodwyd o dan adran 108 o Ddeddf 2006;

(d)gosod unrhyw amod penodol o dan adran 108 o Ddeddf 2006, neu amrywio unrhyw amod neu osod amod gwahanol o dan yr adran honno, neu amrywio telerau gwasanaethu person o dan adran 108(4) o Ddeddf 2006; neu

(e)tynnu enw person o'r rhestr fferyllol am dorri amod o dan reoliad 33 (cynnwys yn amodol mewn perthynas â seiliau addasrwydd),

ar sail addasrwydd, rhaid i'r Bwrdd ddilyn y weithdrefn a bennir yn y rheoliad hwn.

(2Cyn gweithredu fel a bennir ym mharagraff (1), rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol roi i'r person—

(a)hysbysiad o unrhyw honiad a wnaed yn ei erbyn;

(b)hysbysiad o'r camau y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried eu cymryd, ac ar ba sail;

(c)cyfle i wneud sylwadau ysgrifenedig o fewn cyfnod o 30 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad o dan y paragraff hwn; a

(d)y cyfle i gyflwyno'i achos mewn gwrandawiad llafar gerbron y Bwrdd Iechyd Lleol, os yw'r person yn gofyn am wrandawiad o'r fath o fewn y cyfnod o 30 diwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (c).

(3Os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol yn cael sylwadau neu gais am wrandawiad llafar o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (2)(c), rhaid iddo gymryd y sylwadau i ystyriaeth neu gynnal y gwrandawiad, yn ôl fel y digwydd, cyn cyrraedd ei benderfyniad.

(4Unwaith y bydd y Bwrdd Iechyd Lleol wedi cyrraedd penderfyniad, rhaid iddo hysbysu'r person o'r penderfyniad hwnnw, a chynnwys gyda'r hysbysiad esboniad o'r canlynol—

(a)y rhesymau am y penderfyniad;

(b)hawl y person i apelio i'r Tribiwnlys yn erbyn ei benderfyniad; ac

(c)o fewn pa derfyn amser, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) 2008, y bydd rhaid anfon hysbysiad o'r cais at y Tribiwnlys os bwriedir dwyn apêl.

(5Os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu tynnu enw person yn ddigwyddiadol, rhaid iddo hysbysu'r person o'i hawl i gael adolygiad o'r penderfyniad yn unol ag adran 113 (adolygu penderfyniadau) o Ddeddf 2006.

(6Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol beidio â thynnu enw person o'r rhestr fferyllol, na thynnu ei enw yn ddigwyddiadol, hyd nes bo'r amser ar gyfer gwneud apêl wedi dod i ben neu, os gwneir apêl, hyd nes bo'r apêl wedi ei phenderfynu gan y Tribiwnlys.

(7Os yw'r Tribiwnlys yn hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol fod y Tribiwnlys wedi ystyried—

(a)apêl gan berson yn erbyn tynnu digwyddiadol a bod y Tribiwnlys wedi penderfynu yn hytrach dynnu'r person oddi ar y rhestr fferyllol; neu

(b)apêl gan berson sy'n ddarostyngedig i amodau o dan reoliad 33, a bod y Tribiwnlys wedi penderfynu yn hytrach beidio â chynnwys y person yn y rhestr fferyllol honno,

rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol dynnu'r person oddi ar ei restr fferyllol a hysbysu'r person, ar unwaith, ei fod wedi gwneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 34 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)