Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013

Newidiadau dros amser i: RHAN 1

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Schedule 1 Part 1:

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

RHAN 1LL+CCeisiadau am gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu ddiwygio rhestr fferyllol

Gwybodaeth sy'n ofynnol gan bob ceisyddLL+C

Manylion am y caisLL+C

1.  Enw'r Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

2.  Y math o gydsyniad y gwnaed cais amdano (llawn neu ragarweiniol).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

3.  Y math o gais (er enghraifft: cynnwys o'r newydd; adleoliad bach o fewn ardal Bwrdd Iechyd Lleol; adleoliad bach rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagos; adleoli dros dro; newid perchnogaeth).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Manylion am y ceisyddLL+C

4.  Enw a chyfeiriad y ceisydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

5.  Os yw'r ceisydd yn unigolyn neu'n bartneriaeth sy'n cynnal busnes fferyllfa fanwerthu, rhif cofrestru'r ceisydd neu rif cofrestru pob un o'r partneriaid yng nghofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

6.  Os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol sy'n cynnal busnes fferyllfa fanwerthu, enw a rhif cofrestru uwch arolygydd y ceisydd yng nghofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Manylion am y fangre a'r oriau agorLL+C

7.  Cyfeiriad y fangre y mae'r ceisydd yn gwneud cais i ddarparu gwasanaethau fferyllol ohoni; neu leoliad y fangre y mae'r ceisydd yn bwriadu darparu gwasanaethau fferyllol ohoni os yw'r cais ar gyfer cydsyniad rhagarweiniol.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

8.  Pa un a yw'r fangre ym meddiant y ceisydd ar hyn o bryd, neu, er enghraifft, a yw'r fangre yn cael ei hadeiladu neu'n destun negodi.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

9.  Ar ba ddiwrnodau y bydd y fferyllfa ar agor ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol, a'r oriau agor ar y diwrnodau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Y gwasanaethau fferyllol sydd i'w darparuLL+C

10.  Cadarnhad y bydd yr holl wasanaethau hanfodol yn cael eu darparu.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

11.  Manylion am y gwasanaethau cyfeiriedig y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gael eu darparu.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

12.  Os yw'r cais ar gyfer darparu gwasanaethau o ddisgrifiad gwahanol i'r rhai a ddarperir ar hyn o bryd o'r fangre restredig, manylion am y gwasanaethau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Gwybodaeth mewn perthynas â'r prawf angenrheidiol neu hwylusLL+C

13.  Pan fo'r prawf angenrheidiol neu hwylus yn rheoliad 9 yn gymwys ar gyfer penderfynu cais, rhaid i'r ceisydd—

(a)darparu disgrifiad ysgrifenedig o'r gymdogaeth arfaethedig;

(b)darparu map sy'n dangos ffiniau'r gymdogaeth arfaethedig; ac

(c)datgan y rhesymau pam y mae'r ceisydd o'r farn bod caniatáu'r cais yn angenrheidiol neu'n hwylus er mwyn sicrhau, yn y gymdogaeth, ddarpariaeth ddigonol, gan bersonau sydd wedi eu cynnwys mewn rhestr fferyllol o'r gwasanaethau a bennir yn y cais, neu rai o'r gwasanaethau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Gwybodaeth mewn perthynas â'r prawf niweidioLL+C

14.  Pan fo'r prawf niweidio yn rheoliad 9 yn gymwys ar gyfer penderfynu cais, rhaid i'r ceisydd ddatgan y rhesymau pam y mae o'r farn na fydd caniatáu'r cais yn niweidio darpariaeth briodol o wasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau gweinyddu neu wasanaethau fferyllol yn yr ardal reoledig y lleolir ynddi'r fangre a bennir yn y cais.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Gwybodaeth mewn perthynas â cheisiadau sy'n ymwneud ag adleoliadauLL+C

15.  Pan fo'r ceisydd yn gwneud cais adleoli (pa un ai o fewn ardal Bwrdd Iechyd Lleol o dan reoliad 13, rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagos o dan reoliad 14, neu dros dro o dan reoliad 15), rhaid i'r ceisydd ddarparu manylion am yr adleoliad arfaethedig, gan gynnwys cyfeiriad mangre restredig bresennol y ceisydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

16.  Pan fo'r cais yn ymwneud ag adleoliad bach rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagos o dan reoliad 14, rhaid i'r ceisydd ddatgan—

(a)enw'r Bwrdd Iechyd Lleol y lleolir y fangre bresennol ynddo;

(b)bod y ceisydd yn cydsynio â thynnu ei enw oddi ar y rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol y lleolir y fangre bresennol yn ei ardal, ac mewn perthynas â'r fangre restredig bresennol honno, gydag effaith o'r dyddiad y bydd y ddarpariaeth o wasanaethau fferyllol o'r fangre newydd yn cychwyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

17.  Rhaid i'r ceisydd ddarparu manylion fel a ganlyn—

(a)pa un a yw lleoliad y fangre newydd yn llai hygyrch i raddau sylweddol, ar gyfer y cleifion sy'n gyfarwydd â chael mynediad i wasanaethau fferyllol yn y fangre bresennol;

(b)pa un a ddarperir yr un gwasanaethau fferyllol yn y fangre newydd, ag a ddarperir yn y fangre restredig; ac

(c)pa un a fydd y ddarpariaeth o wasanaethau fferyllol yn parhau'n ddi-dor, ynteu a fydd toriad, a'r rhesymau am unrhyw doriad.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

18.  Os yw'r cais yn gais am adleoliad dros dro, rhaid i'r ceisydd ddatgan yr amgylchiadau sy'n gwneud adleoli dros dro yn ofynnol.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Gwybodaeth mewn perthynas â cheisiadau sy'n ymwneud â newid perchnogaethLL+C

19.  Enw'r person sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr fferyllol ac, ar hyn o bryd, yn darparu gwasanaethau fferyllol o'r fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

20.  Rhaid i'r ceisydd ddarparu manylion fel a ganlyn—

(a)pa un a barheir i ddarparu'r un gwasanaethau fferyllol o'r fangre; a

(b)pa un a barheir i ddarparu'r gwasanaethau fferyllol yn ddi-dor, ynteu a fydd toriad, a'r rhesymau am unrhyw doriad.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Ymrwymiad y ceisyddLL+C

21.  Rhaid i'r ceisydd roi ymrwymiad y bydd y ceisydd, os caniateir y cais, yn darparu'r gwasanaethau yn y fangre y caniateir y cais mewn perthynas â hi, yn unol â'r telerau gwasanaethu.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open yr Offeryn Cyfan

Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill