xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
32. Enw'r Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 32 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)
33. Y math o gais (cydsyniad amlinellol, cymeradwyaeth mangre neu'r ddau).
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 1 para. 33 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)
34. Enw a chyfeiriad y ceisydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 34 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)
35. Rhif cyfeirnod y Cyngor Meddygol Cyffredinol, y cynhwysir y ceisydd odano yn y Rhestr o Ymarferwyr Meddygol Cofrestredig a gynhelir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 1 para. 35 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)
36. Disgrifiad a map o'r ardal y mae'r ceisydd yn dymuno darparu gwasanaethau fferyllol ynddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 36 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)
37. Cyfeiriad unrhyw fferyllfa o fewn yr ardal a ddisgrifir ac a amlinellir o dan baragraff 36.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 1 para. 37 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)
38. Cyfeiriad y fangre practis y mae'r ceisydd yn gwneud cais i ddarparu gwasanaethau fferyllol ohoni, ac a yw'r fangre practis honno yn fangre restredig mewn perthynas ag ardal wahanol.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 38 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)
39. Y pellter rhwng y fangre honno a'r fferyllfa agosaf (a chyfeiriad y fferyllfa honno).
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 1 para. 39 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)
40. Pa un a yw'r cais ar gyfer cymeradwyaeth mangre i fangre ychwanegol ynteu ar gyfer adleoli i fangre newydd (ac os yr olaf, y pellter o'r fangre newydd i'r fangre y mae gan y ceisydd gymeradwyaeth mangre mewn perthynas â hi ar hyn o bryd).
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 1 para. 40 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)
41. Pa un a yw'r cais yn codi oherwydd bod cyfuno practisiau naill ai wedi digwydd neu yn yr arfaeth, ac os felly, enwau'r meddygon neu'r contractwyr sy'n cymryd rhan yn y cyfuno.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 1 para. 41 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)
42. Os oes cydsyniad amlinellol wedi ei roi eisoes, disgrifiad a map o'r ardal y rhoddwyd y cydsyniad mewn perthynas â hi.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 1 para. 42 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)
43. Manylion am unrhyw fangre practis meddygol arall y rhoddwyd cymeradwyaeth mangre iddi, neu y gwnaed cais mewn perthynas â hi eisoes, nad yw'r Bwrdd Iechyd Lleol eto wedi ei benderfynu.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 1 para. 43 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)
44. Y gwasanaethau fferyllol sydd i'w darparu a'r oriau agor a'r diwrnodau pan ddarperir y gwasanaethau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 1 para. 44 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)
45. Y rhesymau pam y mae'r ceisydd o'r farn na fydd caniatáu'r cais yn niweidio darpariaeth briodol o wasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau gweinyddu neu wasanaethau fferyllol yn yr ardal reoledig y lleolir ynddi'r fangre a bennir yn y cais.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 1 para. 45 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)
46. Y rhesymau pam y mae'r ceisydd o'r farn bod caniatáu'r cais yn angenrheidiol neu'n hwylus er mwyn sicrhau darpariaeth ddigonol, gan bersonau a gynhwysir mewn rhestr, o'r gwasanaethau a bennir yn y cais, neu rai o'r gwasanaethau hynny, yn yr ardal y gwnaeth y ceisydd gais am gydsyniad amlinellol ynddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 1 para. 46 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)
47. Rhaid i'r ceisydd roi ymrwymiad, os caniateir y cais a phan fydd cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn cael effaith, y bydd y ceisydd yn darparu'r gwasanaethau o'r fangre practis y caniateir y cais mewn perthynas â hi, yn unol â'r telerau gwasanaethu.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 1 para. 47 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)