Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013

Gweithgareddau pellach sydd i'w cyflawni mewn cysylltiad â gwaredu cyffuriau diangenLL+C

14.  Mewn cysylltiad â'r gwasanaethau a ddarperir o dan baragraff 12, rhaid i fferyllydd GIG—

(a)sicrhau bod y fferyllydd GIG ac unrhyw aelodau o'i staff yn ymwybodol o'r risgiau sy'n gysylltiedig â thrin cyffuriau gwastraff ac o'r gweithdrefnau cywir sydd i'w dilyn er mwyn lleihau'r risgiau hynny; a

(b)sicrhau bod cyfarpar diogelu priodol, gan gynnwys menyg, oferôls a deunyddiau i drin â gollyngiadau, ar gael yn hwylus i'r fferyllydd GIG ac i unrhyw aelodau o'i staff, ac wrth law unrhyw fan lle cedwir cyffuriau gwastraff.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 14 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)