Collfarnau troseddol
10.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), anghymhwysir person rhag dal swydd, neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr ffederasiwn pan fo unrhyw un o is-baragraffau (2) i (4) neu (6) yn gymwys i’r person hwnnw.
(2) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw’r person hwnnw—
(a)o fewn cyfnod o bum mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai penodi neu ethol y person hwnnw yn llywodraethwr fel arall wedi cymryd effaith neu, yn ôl y digwydd, y byddai’r person hwnnw fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd swydd y person hwnnw; neu
(b)ers penodi neu ethol y person hwnnw yn llywodraethwr neu, yn ôl y digwydd, ers i’r person hwnnw ddod yn llywodraethwr yn rhinwedd swydd y person hwnnw;
wedi ei gael yn euog, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, o unrhyw drosedd ac wedi ei ddedfrydu i garchar (p’un a yw’r ddedfryd yn ataliedig ai peidio) am gyfnod nad yw’n llai na thri mis heb y dewis o dalu dirwy.
(3) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os cafwyd y person hwnnw, o fewn cyfnod o 20 mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai penodi neu ethol y person hwnnw yn llywodraethwr fel arall wedi cymryd effaith neu, yn ôl y digwydd, y dyddiad y byddai’r person hwnnw fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd swydd y person hwnnw, yn euog fel y disgrifiwyd uchod o unrhyw drosedd a’i ddedfrydu i garchar am gyfnod nad yw’n llai na dwy flynedd a hanner.
(4) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw’r person hwnnw ar unrhyw adeg wedi ei gael yn euog fel y disgrifiwyd uchod o unrhyw drosedd a bod y person hwnnw wedi ei ddedfrydu i garchar am gyfnod nad yw’n llai na phum mlynedd.
(5) At ddibenion is-baragraffau (2) i (4), rhaid diystyru unrhyw gollfarn gan lys y tu allan i’r Deyrnas Unedig neu gerbron llys o’r fath, am drosedd na fyddai, pe bai’r ffeithiau a oedd wedi arwain at y drosedd wedi digwydd yn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig, wedi ei hystyried yn drosedd yn y rhan honno o’r Deyrnas Unedig yn ôl y gyfraith mewn grym ar yr adeg yr oedd y ffeithiau a oedd wedi arwain at y drosedd wedi digwydd.
(6) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw’r person hwnnw—
(a)o fewn cyfnod o bum mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai penodi neu ethol y person hwnnw yn llywodraethwr fel arall wedi cymryd effaith neu, yn ôl y digwydd, y dyddiad y byddai’r person hwnnw fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd swydd y person hwnnw; neu
(b)ers penodi neu ethol y person hwnnw yn llywodraethwr neu, yn ôl y digwydd, ers i’r person hwnnw ddod yn llywodraethwr yn rhinwedd swydd y person hwnnw;
wedi ei gael yn euog o dan adran 547 o Ddeddf 1996() (niwsans neu aflonyddwch ar fangre ysgol) neu o dan adran 85A o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992() (niwsans neu aflonyddwch ar fangre addysgol) o drosedd ac wedi ei ddedfrydu i dalu dirwy.