- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
11.—(1) Pan fo awdurdod lleol yn gwneud cynnig o dan adran 11 o Fesur 2011 sy’n ymwneud â ffedereiddio ysgolion bach yn unig, rhaid i’r cynigion a gyhoeddir gynnwys y canlynol—
(a)enw neu enwau’r corff neu’r cyrff llywodraethu y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu ffedereiddio;
(b)maint arfaethedig corff llywodraethu’r ffederasiwn;
(c)y nifer arfaethedig o lywodraethwyr ar gyfer pob categori o lywodraethwr;
(d)y trefniadau arfaethedig ar gyfer staffio’r ysgolion o fewn y ffederasiwn;
(e)y dyddiad ffedereiddio arfaethedig;
(f)enw’r awdurdod derbyn neu enwau’r awdurdodau derbyn ar gyfer yr ysgolion o fewn y ffederasiwn;
(g)yn achos cynnig ar gyfer ffedereiddio sy’n cynnwys ysgol a gynhelir nas cynhelir gan yr awdurdod lleol sy’n gwneud y cynnig, gadarnhad bod yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol o dan sylw wedi rhoi ei gydsyniad;
(h)yn achos cynnig sy’n cynnwys ysgol sefydledig neu wirfoddol, gadarnhad bod yr awdurdod esgobaethol priodol neu’r person neu’r personau sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig (yn ôl y digwydd) wedi rhoi cydsyniad; ac
(i)unrhyw faterion eraill a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod lleol.
(2) Rhaid i’r awdurdod lleol gyhoeddi’r cynigion drwy eu hanfon at gorff llywodraethu a chyngor ysgol pob un o’r ysgolion bach y mae’n bwriadu eu ffedereiddio gan wahodd y corff llywodraethu i ymateb o fewn 20 niwrnod ysgol.
(3) Rhaid i’r awdurdod lleol hefyd anfon copïau o’r cynigion at—
(a)unrhyw awdurdod lleol perthnasol arall;
(b)pennaeth pob un o’r ysgolion;
(c)yn achos unrhyw ysgol sydd â sefydliad—
(i)y llywodraethwyr sefydledig; a
(ii)unrhyw ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth sy’n gysylltiedig â’r ysgol; a
(d)pan fo unrhyw rai o’r ysgolion wedi eu dynodi o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 yn rhai o gymeriad crefyddol, yr awdurdod esgobaethol priodol yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Gatholig Rufeinig, neu’r corff crefyddol priodol yn achos unrhyw ysgol arall o’r fath.
(4) Rhaid cyhoeddi copi o’r cynigion ar wefan yr awdurdod lleol.
(5) Rhaid rhoi copi o’r cynigion ar gael i edrych arno ar bob adeg resymol ym mhob un o’r ysgolion.
(6) Rhaid i’r dyddiad ffedereiddio arfaethedig ym mharagraff (1)(e) beidio â bod yn llai na 100 niwrnod ar ôl cyhoeddi’r cynigion ar gyfer ffedereiddio gan y corff llywodraethu yn unol ag adran 11 o Fesur 2011.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys