Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Cofnodion a phapurau
59.—(1) Rhaid i’r clerc (neu’r person a benodir i weithredu fel clerc at ddiben y cyfarfod yn unol â rheoliad 53(4)) sicrhau bod cofnodion trafodion cyfarfod o’r corff llywodraethu’n cael eu llunio a’u llofnodi (yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y corff llywodraethu) gan y cadeirydd (neu gan y person sy’n gweithredu fel cadeirydd) yn y cyfarfod nesaf.
(2) Rhaid i’r person sy’n gweithredu fel clerc y corff llywodraethu at ddibenion unrhyw gyfarfod ysgrifennu’n union cyn y nodyn sy’n cofnodi cofnodion y cyfarfod hwnnw yn y llyfr neu ar y tudalennau a ddefnyddir at y diben hwnnw enwau’r aelodau hynny o’r corff llywodraethu ac unrhyw berson arall a oedd yn bresennol yn y cyfarfod dan sylw.
(3) Rhaid i’r corff llywodraethu ddarparu copi o gofnodion drafft, neu o gofnodion llofnodedig cyfarfod penodol i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol dan sylw os gofynnir amdano gan yr awdurdod dan sylw.
Yn ôl i’r brig